April 2021 Newsletter Welcome / Croeso i Gylchlythyr Ebrill 2021

Welcome from Jen Heal / Croeso gan Jen Heal

Welcome to the first Placemaking Wales newsletter.  Thank you for signing up to the Placemaking Wales Charter, a key initiative in the promotion of placemaking in Wales with over 70 signatories from the private, public and third sectors pledging their commitment to support the development of high-quality places.

Indeed, we were particularly pleased to announce Swansea Council as the second local authority in Wales to commit to building back better by signing the Wales Placemaking Charter. The news was welcomed by Deputy Minister for Housing and Local Government, Hannah Blythyn. You can read more here.

The purpose of this newsletter is to showcase some of the great work that is taking place and share insights and best practice amongst fellow built environment professionals. This edition includes contributions from several members of the Placemaking Wales Partnership who helped shape the Charter. Their pieces have been very much influenced by the ongoing restrictions we are facing due to the Covid-19 pandemic and how this has shaped the way we look at our homes and neighbourhoods. The articles cover the topics of homes, heritage and play and we are pleased to bring you a new case study which addresses all of these matters. You will also find new updates and details of some upcoming events.

It is clear that placemaking requires the dedication and expertise of all of those involved in shaping the built and natural environment, which is why the cross disciplinary nature of the chartership is so important and why we want to bring you inspiration and updates from sectors that you may not normally hear from.  I’ll be keen to hear your feedback and consider any suggestions that you have for future content – simply email me at jen.heal@dcfw.org

With my best wishes,

Jen

Croeso i gylchlythyr cyntaf Creu Lleoedd Cymru.  Diolch am gofrestru ar gyfer Siarter Creu Lleoedd Cymru, menter allweddol wrth hybu creu lleoedd yng Nghymru sydd â dros 70 wedi arwyddo o’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector gan addo eu hymrwymiad i gefnogi datblygiad lleoedd o ansawdd uchel.

Yn wir, rydym yn arbennig o falch o gyhoeddi fod Cyngor Abertawe yr ail awdurdod lleol yng Nghymru i ymrwymo i adeiladu yn ôl yn well trwy arwyddo Siarter Creu Lleoedd Cymru.  Cafodd y newyddion ei groesawu gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn. Gallwch ddarllen mwy yma.

Diben y cylchlythyr hwn yw arddangos peth o’r gwaith gwych sy’n digwydd a rhannu mewnwelediad ac arfer orau ymysg cyd-weithwyr proffesiynol yn yr amgylchedd adeiledig. Mae’r argraffiad hwn yn cynnwys cyfraniadau oddi wrth sawl aelod o Bartneriaeth Creu Lleoedd Cymru a gynorthwyodd i ffurfio’r Siarter. Mae eu darnau wedi eu dylanwadu’n fawr iawn gan y cyfyngiadau parhaus yr ydym yn eu hwynebu oherwydd pandemig Covid-19 a sut mae hyn wedi siapio’r ffordd yr ydym yn gweld ein cartrefi a’n cymdogaethau. Mae’r erthyglau yn ymwneud â’r pynciau cartrefi, treftadaeth a chwarae ac rydym yn falch o gael dod ag astudiaeth achos newydd i chi sy’n mynd i’r afael â’r materion hyn i gyd. Cewch hefyd ddiweddariadau newydd a manylion o rai digwyddiadau sydd i ddod.

Mae’n glir bod creu lleoedd yn gofyn am ymrwymiad ac arbenigedd yr holl bobl hynny sy’n ymwneud â siapio’r amgylchedd adeiledig a naturiol, a dyma pam bod natur draws-ddisgyblaethol y siarter mor bwysig a pham yr ydym eisiau dod ag ysbrydoliaeth a diweddariadau i chi o sectorau na fyddech fel rheol efallai’n clywed ganddynt. Rwy’n edrych ymlaen am glywed eich adborth ac ystyried unrhyw awgrymiadau sydd gennych ar gyfer cynnwys y cylchlythyr yn y dyfodol - anfonwch e-bost ataf at  jen.heal@dcfw.org

Dymuniadau gorau,

Jen