Mae gan Sir y Fflint yng Ngogledd Cymru lawer i’w gynnig...llu o weithgareddau hamdden a diwylliannol, cefn gwlad prydferth iawn sydd heb ei difetha, hanes cyfoethog a hynod sy’n ymestyn dros saith canrif, ac ystod eang o lety o ansawdd uchel & thafarndai cefn gwlad cyfeillgar. Mae’r sir, sy’n cael ei hadnabod fel y Porth I Gymru, yn manteisio o gysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd gwych, ac mae’n llai nag awr o Faes Awyr Rhyngwladol Manceinion. p>
Mae Sir y Fflint yn gymysgedd hynod o bentrefi cefn gwlad, trefi marchnad draddodiadol, traethau tywynnog, cestyll o’r canol oesoedd a rhai o’r golygfeydd mwyaf prydferth yng Ngogledd Cymru. Mae Bryniau Clwyd, sy’n lleoliad i lawer o gaerau hynafol, yn ffurfio Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol , ac mae'n cynnwys rhan o lwybr cerdded Clawdd Offa.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am Adolygu Dylunio a chofrestru cynllun?