You are viewing our archives
The content in our archives has been transferred from our previous website (pre 2024). It may be out of date or missing links.
If you are looking for something specific try searching or contact us.
YMUNWCH Â NI…
Mae Sustrans Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru yn eich gwahodd i ymuno â ni a’n panel gwadd i archwilio rôl pobl yn Neddf Teithio Llesol (Cymru), ac mewn dylunio strydoedd a gofodau yn ein trefi a’n dinasoedd. Cewch glywed gan ymarferwyr a rhannu arferion gorau, wrth i ni ystyried sut y gall profiad pobl o dir y cyhoedd helpu i greu mwy o gymunedau y gellir byw ynddynt.
Dydd Mercher 5 Hydref 2016
2.00pm – 4.30pm gyda lluniaeth ysgafn ar ôl cyrraedd
Yng Nghomisiwn Dylunio Cymru, 4edd Llawr, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FR
Bwciwch eich lle am ddim drwy Eventbrite
Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru, a Jane Lorimer, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru. Bydd ein panel gwadd yn cynnwys:
– Lindsey Brown, Dylunydd Trefol, Sustrans Cymru
– Mat Jones, Pensaer a Darlithydd, Coombs Jones Architects & UWE
– Allison Dutoit, Pensaer/Dylunydd Trefol a Darlithydd, Gehl Architects & UWE
– Victoria Robinson, Rheolwr Datblygu, Cyngor Bro Morgannwg
Ymunwch â’r sgwrs i drafod sut y gall dylunwyr, penseiri a chynllunwyr ymgysylltu â phobl wrth lunio lleoedd bob dydd.