Newyddion
Creu Diwylliant o Adolygu Dyluniad
(Y llun: Heather Birnie)
Er bod Adolygu Dyluniad yn aml yn gysylltiedig â phanel annibynnol, gall yr egwyddorion sy’n sail iddo, sef trafodaeth, her adeiladol a dysgu ar y cyd, siapio’r ffordd y mae sefydliadau’n gweithio hefyd. Mae creu cyfleoedd i fyfyrio ar brosiectau, profi syniadau a dysgu gan gydweithwyr yn helpu i wreiddio’r egwyddorion hyn mewn sefydliadau, a gall arwain at ganlyniadau gwell dros amser. Fe wnaethom ni wahodd cyfranwyr o wahanol sectorau i fyfyrio ar sut maen nhw’n creu lle ar gyfer y sgyrsiau hyn yn eu sefydliadau eu hunain, a’r gwerth y mae hyn yn ei gynnig i’w prosiectau a’u timau.
Safbwynt Practis Pensaernïol
Niall Maxwell, Pennaeth Rural Office

Fel practis creadigol bach sy’n gweithio o’n stiwdio yng nghefn gwlad Cymru, rydym wedi tyfu’n organig dros y blynyddoedd o fod yn un ymarferydd i fod yn dîm o ddeuddeg ym mhob cwr o Ewrop. Wrth i’r gwaith esblygu, mae ein diwylliant dylunio wedi esblygu hefyd, gyda mwy o strwythur yn cael ei gyflwyno i gefnogi trafodaeth, dysgu ac atebolrwydd.
Mae hyn yn digwydd ar ffurf sgyrsiau anffurfiol, rheolaidd wrth y bwrdd gyda’r arweinydd dylunio, lle mae penseiri prosiectau’n datblygu eu prosiectau drwy drafodaeth feirniadol, ochr yn ochr ag adolygiadau mwy ffurfiol lle rydym yn archwilio’r broses ddylunio ac yn craffu ar risgiau a blaenoriaethau wrth i brosiectau symud drwy Gynllun Gwaith RIBA. Mae hyn wedi arwain at ddull mwy trylwyr o adrodd ac atebolrwydd, yn enwedig yng ngoleuni newidiadau deddfwriaethol diweddar.
Nid yw’r adolygiadau anffurfiol na ffurfiol yn llinol, ac mae’r ddau fath yn ymateb i lanw a thrai naturiol y gwaith. Gyda’i gilydd, maen nhw’n helpu i gynnal diwylliant o atebolrwydd yn y tîm, yn lleihau’r dull hanesyddol o’r brig i lawr o ran dylunio a darparu, ac yn cefnogi ansawdd ein pensaernïaeth a’r gwasanaeth rydym ni’n ei ddarparu i gleientiaid.
Safbwynt Cymdeithas Dai
Lewis Shaw, Rheolwr Dylunio a Chynllunio, Hedyn

Yn Hedyn, mae creu cyfleoedd ar gyfer trafodaeth ddylunio a her adeiladol wedi bod yn rhan allweddol o sefydlu ein tîm Dylunio, Creu Lleoedd ac Ymgysylltu newydd. Mae creu fy rôl i fel Rheolwr Dylunio a Chynllunio, gan ddefnyddio cefndir mewn hyfforddiant ac ymarfer pensaernïaeth, yn adlewyrchu ymrwymiad Hedyn i drafodaeth wybodus, her adeiladol a chanlyniadau dylunio gwell i’n trigolion.
Rhan ganolog o’r dull hwn yw sicrhau bod penderfyniadau dylunio yn cael eu llywio gan ddealltwriaeth ddofn o le a chymuned. Mae ein Cydlynydd Partneriaethau ac Ymgysylltu yn gweithio’n agos gyda thimau prosiectau i nodi anghenion a dyheadau lleol, gan helpu i sicrhau bod ymgysylltu’n ystyrlon a bod mewnwelediadau cymunedol yn dylanwadu’n uniongyrchol ar y broses ddylunio.
Fel sefydliad cleientiaid, mae gallu siarad iaith dylunio, deall cymhlethdodau’r system gynllunio, a chydweithio i ddatrys heriau yn ein galluogi i fod yn bartner mwy gwybodus a rhagweithiol. Yn ddiweddar, rydym ni wedi datblygu dogfen friffio ar gyfer ein timau proffesiynol, sy’n nodi’n glir beth yw ein disgwyliadau ar gyfer dylunio cartrefi newydd. Yn bwysig, mae’n cynnwys gwersi a ddysgwyd o brosiectau blaenorol, gan annog myfyrio a helpu timau i osgoi canlyniadau anfwriadol o benderfyniadau dylunio yn y gorffennol.
Wrth i’n tîm esblygu, rydym ni’n awyddus i ymestyn y diwylliant dysgu hwn y tu hwnt i’n sefydliad, ac i gydweithio’n agosach â chymdeithasau tai ledled Cymru er mwyn mynd ati’n barhaus i wella ansawdd cartrefi a chanlyniadau creu lleoedd.
Safbwynt Trafnidiaeth
Finlay McNab a Teresa Guerreiro, Arweinwyr Dylunio, Trafnidiaeth Cymru

Ein gweledigaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw bod yn un o hoff ffyrdd Cymru o deithio ac, er mwyn cyflawni hyn, rydym ni’n meddwl am bob taith fel un mynd o’r cartref i’r gyrchfan. Mae hyn yn golygu buddsoddi yn y rhwydwaith cyfan, gan integreiddio cerdded, olwyno a beicio o fewn trafnidiaeth gyhoeddus.
At y nod hwn, rydym ni’n darparu cymorth dylunio rhyngddisgyblaethol ar ran Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol sy’n bartneriaid, gan gynnwys drwy ein Swyddfa Ddylunio fewnol a’n Hwb Teithio Llesol. Rydym ni hefyd yn cefnogi ein timau mewnol, gan ddatblygu briffiau dylunio, a dylunio ac adolygu cynigion ar gyfer ein hybiau trafnidiaeth, fel gorsafoedd bysiau a threnau.
Gan adlewyrchu’r rhychwant amrywiol hwn o weithgarwch, mae ein timau’n defnyddio amrywiaeth o adnoddau a dulliau adolygu dyluniadau ond bob amser gyda’r nod o wahodd her, mireinio cynigion dylunio ac, yn y pen draw, wella ansawdd y canlyniadau.
Mae hyn yn cynnwys cynnal sesiynau gweithdy mewnol bob pythefnos i drafod a gwerthuso cynlluniau arfaethedig, gan archwilio cyfleoedd posibl neu ffyrdd o fynd i’r afael â heriau a chyfyngiadau a gyflwynir gan ein byd trefol cymhleth. Un o fuddiannau allweddol yr adolygiad cyfunol hwn yw dod â safbwyntiau newydd gan weithwyr proffesiynol sydd â chefndiroedd ac arbenigedd gwahanol, syniadau newydd, a sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau a safonau cyfredol neu weithiau i gadarnhau nad oes ateb perffaith bob amser.
Mae sicrhau bod pawb yn cael mynediad a chyfle cyfartal yn rhan hanfodol o’n gweledigaeth, ac felly rydym ni hefyd yn gweithio’n agos gyda’n Panel Mynediad a Chynhwysiant i brofi ac esblygu cynigion dylunio gyda phobl sydd ag amrywiaeth o brofiadau uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys ystyried diogelwch menywod a merched yn ofalus.
Ar ben hynny, rydym ni wedi datblygu’r Adnodd ‘Cyfan’ yn ddiweddar – sy’n ystyried profiad aml-ddimensiwn defnyddwyr o deithio yn ôl ac ymlaen i’n cyfnewidfeydd a’n hybiau trafnidiaeth. Mae’r adnodd yn canolbwyntio ar Egwyddorion Creu Lleoedd TrC (sy’n cyd-fynd yn agos â Siarter Creu Lleoedd Cymru). Fel arfer, rydym ni’n defnyddio’r adnodd hwn yn gynnar mewn prosiectau er mwyn deall yn well beth yw’r cyd-destun lleol i lywio briffiau dylunio ac opsiynau.
Yn gyffredinol, rydym ni’n gweld bod yr arfer o Adolygu Dyluniad yn rhywbeth sy’n hanfodol i sicrhau ansawdd dylunio ac, yn y pen draw, i greu lleoedd sy’n darparu profiad cadarnhaol i bawb.
Er bod gan bob sefydliad ddull gweithredu gwahanol, mae’r tri safbwynt yn dangos bod gwreiddio egwyddorion Adolygu Dyluniad, sef trafodaeth, her adeiladol a dysgu ar y cyd, yn gallu cryfhau’r broses o wneud penderfyniadau ac, yn y pen draw, yn gallu cyfrannu at leoedd gwell.