Newyddion
Gwerth Adolygu Dyluniad
Pam mae Adolygu Dyluniad yn bwysig
Max Hampton, Cynghorydd Dylunio Comisiwn Dylunio Cymru
Nid yw dyluniad da yn dod i’r amlwg yn gwbl orffenedig. Mae’n esblygu drwy drafod, profi, herio a chydweithio. Mae creu cyfleoedd ar gyfer y sgyrsiau hynny yn rhan hanfodol o sicrhau canlyniadau gwell.
Mae Adolygu Dyluniad Comisiwn Dylunio Cymru yn rhoi cyfle i dimau prosiectau gamu’n ôl o bwysau cyflawni o ddydd i ddydd ac i fyfyrio ar y cwestiynau ehangach sy’n siapio lleoedd llwyddiannus. Drwy ddod ag arbenigedd annibynnol o amrywiaeth o ddisgyblaethau ynghyd, mae’n galluogi timau i brofi syniadau, archwilio cyfleoedd ac ystyried gwahanol safbwyntiau cyn i benderfyniadau allweddol gael eu gwneud yn derfynol.
Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghamau cynnar prosiect, pan fydd penderfyniadau ynghylch gweledigaeth, cynllun, symudiad, cymeriad, cynaliadwyedd a chyflawni yn dal i gael eu siapio. Er y gall Adolygu Dyluniad ychwanegu gwerth unrhyw bryd, mae ei fanteision mwyaf yn aml yn cael eu gwireddu pan fydd ymgysylltu’n digwydd yn gynnar ac yn parhau wrth i gynigion esblygu.
Yn bwysig, nid chwilio am un ateb cywir na cheisio cymeradwyaeth ar gyfer cynnig y mae Adolygu Dyluniad. Ond helpu timau prosiect i ofyn cwestiynau gwell, archwilio gwahanol safbwyntiau, a gwneud penderfyniadau mwy gwybodus. Gall y broses helpu i ddod ag eglurder i faterion cymhleth, cryfhau stori’r dyluniad, a meithrin hyder yng nghyfeiriad y daith.
Ar ei orau, mae Adolygu Dyluniad yn creu amser ar gyfer dylunio. Mae’n annog trafodaeth agored, her adeiladol, a pharodrwydd i archwilio opsiynau eraill. Nid darparu atebion yw ei werth, ond helpu timau prosiect i ddysgu o wahanol safbwyntiau, gwneud penderfyniadau mwy gwybodus ac, yn y pen draw, creu lleoedd gwell i bobl a chymunedau.
Safbwynt Panelydd a Datblygwr
Mark Hallett, Datblygwr a Phanel Adolygu Dyluniad Comisiwn Dylunio Cymru

Fel datblygwr sydd â diddordeb penodol mewn buddsoddi effaith yn seiliedig ar leoedd, rwy’n gwerthfawrogi gwasanaeth Adolygu Dyluniad Comisiwn Dylunio Cymru yn fawr iawn. Dros y ddau ddegawd diwethaf, rwyf wedi dod â’m holl gynlluniau i’r broses Adolygu Dyluniad ac, fel Cyfarwyddwr Anweithredol, rwy’n annog y cwmnïau rwy’n gweithio gyda nhw i wneud yr un peth.
Fel Aelod o’r Panel Adolygu Dyluniad ers 2007, byddwn yn argymell bod cleientiaid yn dod â chynlluniau i’w Hadolygu yn gynnar. Mae temtasiwn i aros i’r cynllun fod yn “gyflawn” ac yn “berffaith”, a gall hyn arwain at amharodrwydd amddiffynnol i fynd i’r afael â sylwadau’r Panel. Mae Adolygu’n Amserol yn helpu i ganfod cyfleoedd a risgiau cyn iddynt droi’n broblemau costus sy’n golygu bod angen newid. Mae’r Comisiwn yn aml yn gweithio gyda chleientiaid drwy gydol y cylch cyn gweithredu, gyda chyfres o Adolygiadau yn helpu i lunio amcanion, briffiau, ymgynghoriadau a chaffael er mwyn sicrhau datblygiad cydlynol sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
Yn bwysig, mae sylwadau Comisiwn Dylunio Cymru yn cael eu cydnabod fel ystyriaethau perthnasol mewn penderfyniadau cynllunio ac yn cael eu parchu gan Awdurdodau Lleol a’r Arolygiaeth Gynllunio, a allai gryfhau canlyniadau cynllunio.
Bydd Adolygu’n dda yn gwneud mwy na chanolbwyntio ar ymddangosiad (yn anaml iawn y bydd paneli’n trafod materion dylunio goddrychol). Bydd hefyd yn cyfrannu mewnwelediadau ymarferol, strategol a hirdymor a fydd yn helpu i greu gwerth.