Newyddion
Adolygu Dyluniad: Safbwyntiau gan Awdurdod Lleol a Datblygwr
Cynigion ar gyfer Canolfan Ddinesig Abertawe ar ôl Adolygu Dyluniad yn barhaus
Un o gryfderau mwyaf Adolygu Dyluniad yw ei fod yn dod â safbwyntiau gwahanol at ei gilydd ynghylch cyd-uchelgais, sef creu lleoedd gwell. Mae gwerth y broses yn aml yn cael ei ddeall orau gan y rhai sydd wedi’i brofi’n uniongyrchol. Fe wnaethom ni wahodd Cyngor Abertawe ac Urban Splash i bwyso a mesur Adolygu Dyluniad o safbwynt awdurdod cynllunio lleol a phartner datblygu, ac i rannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu drwy weithio gyda’r broses dros nifer o brosiectau.
Safbwynt Awdurdod Lleol
Steve Smith, Arweinydd Creu Lleoedd a Threftadaeth, Cyngor Abertawe
Mae Cyngor Abertawe wedi bod yn ymgysylltu â gwasanaeth Adolygu Dyluniad Comisiwn Dylunio Cymru ers dau ddegawd a mwy, fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau canlyniadau cadarnhaol wrth greu lleoedd. Rydym ni’n annog prosiectau i ymgysylltu’n gynnar, pan fydd cynigion yn dal i esblygu a phan fydd cyfle gwirioneddol i ddylanwadu ar benderfyniadau allweddol.
Mae’r gwasanaeth Adolygu Dyluniad yn cynnig adolygiad diduedd arbenigol o gynigion sy’n ymddangos. Rydym ni’n annog prosiectau yn Abertawe i ymgysylltu â’r gwasanaeth hwn yn gynnar yn y cam cyn gwneud cais. Mae Adolygu Dyluniad yn creu panel arbenigol sy’n gallu cynnig amrywiaeth eang o fewnbwn arbenigol o amrywiaeth o gefndiroedd. Mae’r sgwr hon bob amser yn un gadarnhaol a chydweithredol, ac mae prosiectau bob amser yn cael eu gwella gan y broses hon.
Enghreifftiau o’r amrywiaeth o brosiectau y mae Cyngor Abertawe wedi’u cyflwyno i Gomisiwn Dylunio Cymru yw tai pwrpasol sengl mewn lleoliadau sensitif, datblygiadau tai strategol mawr, prosiectau adfywio treftadaeth, strategaethau adfywio a phrosiectau adfywio canol dinas blaenoriaethol fel cynigion presennol Urban Sblash ar gyfer ail-bwrpasu Canolfan Ddinesig Abertawe.
Nid proses gyfarwyddol lle mae ymgeiswyr yn cael gwybod beth i’w wneud gan y Panel Adolygu Dyluniad mohoni. Ond maen nhw’n cael eu hannog i egluro eu cynigion ac ystyried safbwyntiau gwahanol. Rydym wedi canfod bod hyn yn gwella’r canlyniadau terfynol ar gyfer lleoedd a chymunedau a hefyd yn rhoi cyfeiriad ehangach i’r dylunwyr a thîm y prosiect er mwyn datblygu eu diwylliant creu lleoedd ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.
Byddem yn sicr yn argymell bod pob Cyngor yng Nghymru yn defnyddio’r gwasanaeth rhad ac am ddim hwn i wella canlyniadau i gymunedau a lleoedd a phob graddfa.

Safbwynt Datblygwr
David Warburton, Cyfarwyddwr Datblygu, Urban Splash
Rydym ni wedi gweld gwerth mawr mewn ymgysylltu cynnar a pharhaus â’r broses adolygu dyluniad.
Mae cydweithio’n rhan ganolog o’n dull gweithredu, gan ein bod yn cydnabod na allwn greu lleoedd ystyrlon ar ein pen ein hunain; mae angen i ni ymgysylltu â lleisiau, partneriaid a rhanddeiliaid amrywiol drwy gydol y broses ddylunio.
Mae ein profiad gyda Chomisiwn Dylunio Cymru yn Abertawe yn enghraifft o’r athroniaeth hon ar waith.
I ddechrau, fe wnaethom ni gysylltu’n eithaf petrus â Chomisiwn Dylunio Cymru, gan ein bod yn ymgysylltu’n gynnar iawn cyn i’n syniadau gael eu ffurfio’n llawn. Fodd bynnag, bu hyn yn amhrisiadwy, gyda deialog gynnar a helpodd i gadarnhau cefnogaeth i’n cynnig craidd o ddarparu ardal Glannau’r Ddinas newydd i Abertawe: i greu cyrchfan o’r radd flaenaf i ymwelwyr ar yr un pryd â gwasanaethu cymunedau lleol go iawn.
Yn hytrach na chael chyfarwyddyd dylunio rhagnodol, cawsom ein hannog i fod yn fwy beiddgar byth – cefnogaeth ddealledig a roddodd yr hyder i ni wthio ffiniau.
Mae’r berthynas barhaus wedi bod yn drawsnewidiol. Pan ddaethom yn ôl at Gomisiwn Dylunio Cymru ar ôl tri mis yn datblygu’r dyluniad, cydnabu’r Comisiwn ein hymgysylltiad cynnar rhagorol ac ansawdd y cynllun a ddeilliodd o hynny. Mae hyn yn dilysu ein cred fod ymgysylltu ystyrlon drwy gydol y broses yn arwain at ganlyniadau gwell.
Rydym ni bellach wedi ymrwymo i ymgysylltu â Chomisiwn Dylunio Cymru ar bob cynllun mawr fel rhan o’n partneriaeth â Chyngor Abertawe. Mae ein profiad wedi dangos bod y gwerth mwyaf yn deillio o ymgysylltu’n gynnar, croesawu her adeiladol, a defnyddio’r broses Adolygu Dyluniad tra bo syniadau’n dal i esblygu.