Hyfforddiant penodol a digwyddiadau amserol
Mae hyfforddiant ar gael i’ch helpu i gyflawni eich amcanion dylunio.
Rydym yn cefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus mewn dylunio a chreu lleoedd drwy hyfforddiant a digwyddiadau sy’n archwilio meysydd datblygu allweddol, yn trafod materion cyfredol ac yn hyrwyddo arferion dylunio da.
Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, a grwpiau trydydd sector i deilwra hyfforddiant yn seiliedig ar eu hanghenion penodol mewn perthynas â gwahanol agweddau ar ddylunio a chreu lleoedd yng Nghymru, ac yn arfogi timau i fynd i’r afael â materion dylunio.
Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon neges e-bost atom sy’n cynnwys crynodeb o’ch anghenion hyfforddiant i gael gwybod sut gallwn ni helpu.
Cyfle i drafod
Mae’n hawdd cysylltu â ni a thrafod sut y gallwn ni eich helpu chi.
Cysylltwch â ni
Gwasanaethau eraill
-
Adolygu dyluniadau
Mae ein gwasanaeth adolygu dyluniadau ar gael i gleientiaid, datblygwyr, dylunwyr, awdurdodau cynllunio, rhanddeiliaid, cyrff cyhoeddus eraill, grwpiau cymunedol neu aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno cael barn arbenigol annibynnol. Gallwn helpu i nodi cyfleoedd cynnar ar gyfer ansawdd dylunio da mewn cynigion datblygu ymhell cyn cyflwyno cais cynllunio a helpu awdurdodau lleol i sicrhau gwerth cyhoeddus drwy ragoriaeth dylunio.
-
Cymorth i gleientiaid
Mae cymorth ar gael gan Gomisiwn Dylunio Cymru i gleientiaid yn ystod camau cynharaf eu prosiectau. Efallai y byddwn yn gallu helpu i ddiffinio eich prosiect, datblygu brîff y prosiect, neu gyfrannu at eich proses gaffael a dewis tîm. Mae llwyddiant unrhyw brosiect yn y tymor hir yn dibynnu ar ymgysylltu ymlaen llaw. Gallwn hwyluso gweithdai sy'n ychwanegu gwerth ac sy’n eich helpu i arbed amser a newidiadau costus yn nes ymlaen.