HafanNewyddion a DigwyddiadauPotensial Diwylliant a Chreu L…

Newyddion

Potensial Diwylliant a Chreu Lleoedd yng Nghymru

Ym mis Mawrth 2026, cynhaliodd Comisiwn Dylunio Cymru (DCFW), a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gynhadledd genedlaethol, a oedd yn archwilio’r berthynas rhwng diwylliant a chreu lleoedd. Drwy ddod â swyddogion awdurdodau lleol, ymarferwyr ac arweinwyr diwylliannol at ei gilydd, llwyddodd y digwyddiad i fyfyrio ar botensial ystyried diwylliant a chreu lleoedd gyda’i gilydd.

Mae Siarter Creu Lleoedd Cymru eisoes yn tynnu sylw at Bobl a Chymuned a Hunaniaeth fel egwyddorion craidd. Mae diwylliant wrth galon y ddau, ond, fel y datgelodd trafodaethau yn y gynhadledd, mae potensial sylweddol heb ei gyffwrdd o ran sut gall gweithgarwch, gwybodaeth a rhwydweithiau diwylliannol lunio lleoedd gwell.

Yr hyn y mae diwylliant yn ei gyfrannu at greu lleoedd

Datgelodd yr ystod o gyflwyniadau a gweithdai yn y gynhadledd rai cyfleoedd allweddol o ran rhoi mwy o ystyriaeth i ddiwylliant wrth greu lleoedd.

  1. Dealltwriaeth Helaeth o Le

Mae grwpiau diwylliannol, rhai ffurfiol ac anffurfiol, yn meddu ar wybodaeth fyw a chyfoethog am eu cymunedau. Gall ymgysylltu â nhw’n gynnar ddatgelu gwybodaeth na all unrhyw set ddata nac astudiaeth dechnegol eu cyfleu. Deilliodd llawer o’r syniadau mwyaf effeithiol a rannwyd yn y gynhadledd o’r cymunedau eu hunain. Mae’n bwysig darganfod y grwpiau, y gweithgareddau a’r straeon hyn.

  1. Ymgysylltu’n Fwy Ystyrlon

Mae’r sector diwylliannol yn cynnig sgiliau ymgysylltu a chymryd rhan unigryw. Gall dulliau creadigol, fel digwyddiadau, adrodd straeon a gweithgareddau celfyddydol, gyrraedd pobl nad ydyn nhw efallai’n ymgysylltu drwy ddulliau ymgynghori traddodiadol. Er bod gan offer digidol rôl, mae gwerth rhyngweithio wyneb yn wyneb a meithrin perthnasoedd yn dal yn hanfodol.

  1. Gweithgaredd sy’n Dod â Lleoedd yn Fyw

Roedd neges gyson o’r gynhadledd yn glir: “Pan fydd pobl yn dod at ei gilydd, mae lleoedd yn dod yn fyw.”  Gall gweithgarwch diwylliannol gynhyrchu egni ar unwaith, denu pobl, cynyddu nifer yr ymwelwyr, a chreu ymdeimlad o fomentwm. Gall y dull hwn sy’n cael ei arwain gan weithgareddau helpu i gynyddu’r galw am leoedd, y mae gwelliannau ffisegol ar eu pen eu hunain yn aml yn ei chael hi’n anodd eu cyflawni. Yn yr ystyr hwn, mae diwylliant yn fwy na dim ond ategu adfywio, gall fod yn fan cychwyn.

  1. Datgloi Ynni a Mentrau Lleol

Mae ymgysylltu â rhwydweithiau diwylliannol yn aml yn datgelu galw nas bodlonir am le a chyfleoedd. Gall cysylltu hyn ag adeiladau neu fannau cyhoeddus nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio’n ddigonol ddatgloi defnyddiau newydd a chefnogi mentrau creadigol. Mewn llawer o achosion, dim creu rhywbeth newydd yw rôl awdurdodau lleol, ond galluogi’r hyn sydd eisoes yn bodoli i ffynnu.

  1. Cryfhau Hunaniaeth a Pherthyn

Mae gweithgarwch diwylliannol yn helpu i fynegi ac atgyfnerthu hunaniaeth lle. Gall hefyd chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o feithrin cysylltiad, yn enwedig mewn mannau lle gallai pobl deimlo eu bod wedi’u datgysylltu oddi wrth ganol eu trefi neu eu cymdogaethau ar hyn o bryd. Felly, mae cefnogi diwylliant yn fuddsoddiad mewn ymdeimlad o berthyn, balchder a chydlyniant cymdeithasol.

  1. Manteision Cymdeithasol ac Economaidd Ehangach

Mae’r manteision yn ymestyn y tu hwnt i ganlyniadau creu lleoedd. Gall gweithgarwch diwylliannol arwain at y canlynol:

  • Lleihau unigrwydd.
  • Gwella canfyddiadau o ddiogelwch.
  • Creu cyfleoedd economaidd drwy ddigwyddiadau a mentrau lleol.
  • Datblygu tir cyffredin ar draws cymunedau amrywiol.

Heriau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw

Tynnodd y gynhadledd sylw hefyd at risgiau pwysig y mae’n rhaid eu hosgoi neu eu rheoli’n ofalus.

  1. Ymgysylltu Cynhwysol

Mae risg o ymgysylltu â’r grwpiau mwyaf gweladwy neu sefydledig yn unig. Mae diwylliant yn amrywiol ac yn esblygu, felly mae ymgysylltu ystyrlon yn gofyn am amser, ymdrech ac ymrwymiad i gyrraedd trawstoriad eang o gymunedau.

  1. Cynnal Ymdrech Gymunedol

Mae llawer o weithgarwch diwylliannol yn dibynnu ar unigolion a gwirfoddolwyr ymroddedig. Er bod yr egni hwn yn amhrisiadwy, gall gorddibyniaeth arwain at ddiffygiad. Mae strwythurau cefnogi a chydnabyddiaeth yn hanfodol i gynnal y cyfraniad hwn.

  1. Osgoi Dadleoli

Wrth i leoedd newid, mae perygl y bydd y gweithgarwch diwylliannol a gyfrannodd at eu llwyddiant yn cael ei ddisodli. Gall cynnydd mewn rhenti neu ddatblygiad ansensitif erydu hunaniaeth leol. Rhaid i greu lleoedd ddiogelu ac ehangu’r diwylliant presennol, dim ei ddisodli.

  1. Chwalu Seilos

Mewn llawer o awdurdodau lleol, mae swyddogaethau diwylliant, adfywio a chynllunio yn gweithredu ar wahân. Mae’r darnio hwn yn cyfyngu ar yr effaith. Mae angen mwy o integreiddio er mwyn gwireddu manteision dull creu lleoedd yn llawn.

Prif Argymhellion

Gan ddefnyddio’r trafodaethau, mae nifer o flaenoriaethau clir yn dod i’r amlwg ar gyfer polisi ac ymarfer:

  1. Integreiddio Diwylliant o’r Dechrau

Dylai gwybodaeth a gweithgarwch diwylliannol lywio syniadau yn ystod y camau cynnar, yn hytrach na chael eu hychwanegu’n ddiweddarach. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod buddsoddiad yn cyd-fynd â hunaniaeth ac angen lleol.

  1. Sicrhau Adnoddau ar gyfer Ymgysylltu Creadigol

Cynnwys amser, cyllideb ac arbenigedd ar gyfer ymgysylltu diwylliannol mewn prosiectau a chydnabod bod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell.

  1. Galluogi

Mae gan awdurdodau lleol rôl hollbwysig o ran creu’r amodau ar gyfer gweithgarwch drwy gael gwared ar rwystrau, cefnogi mynediad at le, a mabwysiadu meddylfryd sy’n galluogi.

  1. Cysylltu a Chefnogi Pobl, Lleoedd a Chyfleoedd

Mynd ati i baru grwpiau diwylliannol ac entrepreneuriaid, adeiladau a mannau nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio’n ddigonol, a chyfleoedd ar gyfer gweithgarwch a menter. Darparu cefnogaeth barhaus i gyfraniad mudiadau cymunedol a diwylliannol, yn ogystal â llwybrau clir at gyllido a darparu, a gwybodaeth am drefniadau fel perchnogaeth gymunedol a mentrau cymdeithasol.

  1. Cydgysylltu Polisi a Chyflawni

Parhau i weithio ar chwalu seilos rhwng adrannau fel diwylliant, adfywio, cynllunio a datblygu economaidd.  Mae’n hanfodol cael dull cydgysylltiedig sy’n seiliedig ar leoedd.

  1. Dechrau ar raddfa fach ac adeiladu momentwm

Does dim angen buddsoddiad cyfalaf mawr ar gyfer pob newid. Gall ymyriadau bach, gweladwy fagu hyder, dangos potensial, a chreu momentwm ar gyfer trawsnewid yn y tymor hwy.

  1. Newid Meddylfryd

Efallai mai thema fwyaf trawiadol y gynhadledd oedd yr angen am hyder a dewrder. Mae cyfle i ddod â mwy o fywyd, creadigrwydd a hyd yn oed hwyl i’n trefi a’n mannau cyhoeddus. Felly mae gofyn i ni symud oddi wrth feddylfryd o osgoi risg tuag at ddull mwy galluogol ac arbrofol sy’n ymddiried mewn cymunedau ac yn eu cefnogi i weithredu.

Mae’r newyddion a’r digwyddiadau
diweddaraf yn ein cylchlythyr

Cofrestrwch i gael clywed mwy gan Gomisiwn Dylunio Cymru.
Tanysgrifio