HafanNewyddion a DigwyddiadauRYDYM YN RECRIWTIO : CYNGHORYD…

Newyddion

RYDYM YN RECRIWTIO : CYNGHORYDD DYLUNIO

Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn chwilio am unigolyn o safon uchel ar gyfer y rôl Cynghorydd Dylunio, i ymuno â’u tîm bach sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd ac sy’n gwasanaethu Cymru gyfan.

 

Teitl: Cynghorydd Dylunio

Cyflogir gan: Comisiwn Dylunio Cymru (DCFW LTD)

Yn atebol i’r: Prif Weithredwr

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Erbyn 5pm ddydd Mawrth 15 Medi 2026

Dull cyflwyno: CV a llythyr eglurhaol dros e-bost at connect@dcfw.org

Cyfweliadau i’w cynnal: 22/23 Medi 2026

Comisiwn Dylunio Cymru, Llawr 4, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL

 

Y Rôl

Mae’r Cynghorydd Dylunio yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith Comisiwn Dylunio Cymru – drwy arwain y gwaith o adolygu dyluniadau, darparu hyfforddiant, ymateb i ymgynghoriadau, paratoi deunydd ysgrifenedig a helpu i gynnal digwyddiadau. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn angerddol dros ddylunio a chreu lleoedd da a’r cyfraniad y gallant ei wneud at ansawdd bywyd a gwerth cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r rôl hon yn canolbwyntio ar sicrhau bod dylunio a chreu lleoedd da yn bethau sy’n cael eu deall, eu cydnabod, eu hyrwyddo a’u gweithredu.

 

Fel Cynghorydd Dylunio byddwch yn weithiwr proffesiynol credadwy sydd â phrofiad o weithio yn yr amgylchedd adeiledig, yn ddelfrydol ym maes dylunio trefol, pensaernïaeth a/neu gynllunio. Byddwch yn gallu cyfleu a hyrwyddo pwysigrwydd dylunio da ar gyfer yr amgylchedd adeiledig yn effeithiol ar draws sectorau a disgyblaethau ac ymhlith penderfynwyr. Byddwch yn meddu ar yr hyder a’r sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen i arwain rhaglenni hyfforddi ac ymgysylltu ar gyfer awdurdodau lleol, y sector preifat a’r trydydd sector a chynulleidfaoedd amlddisgyblaethol eraill ledled Cymru. Yn y rôl Cynghorydd Dylunio byddwch yn cefnogi ystod uchelgeisiol gyfredol Comisiwn Dylunio Cymru o fentrau, yn ogystal â datblygu a gweithredu eich syniadau creadigol wedi’u targedu eich hun ar gyfer ysgogi ansawdd dylunio ar draws sectorau’r amgylchedd adeiledig yng Nghymru.

 

Dros y ddwy flynedd nesaf, rydym yn canolbwyntio’n benodol ar gefnogi ansawdd dylunio datblygiadau tai fforddiadwy a hyrwyddo datblygiadau safleoedd llai/mewnlenwi sydd wedi’u cynllunio’n dda mewn trefi ac aneddiadau presennol. Dyma gyfle gwych i fod yn rhan o gamau cyntaf y mentrau hyn. Bydd sgiliau a phrofiad yn y meysydd hyn yn arbennig o berthnasol.

 

Mae Cynghorwyr Dylunio yn chwarae rhan bwysig yn y tîm bach o staff a rhaid iddynt feddu ar sgiliau trefnu, cyfathrebu a gweithio mewn tîm rhagorol. Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn gwasanaethu Cymru gyfan a bydd disgwyl i’r Cynghorydd Dylunio deithio ledled Cymru (a thu hwnt yn ôl yr angen), gan gynnwys aros dros nos, yn ôl yr angen er mwyn cyflawni cyfrifoldebau’r rôl.

 

Cyfrifoldebau allweddol

· Arwain y gwaith o drefnu’r gwasanaeth adolygu dyluniadau a’i hyrwyddo i ddefnyddwyr presennol a darpar ddefnyddwyr. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu’n gynnar ag awdurdodau lleol, hyrwyddwyr cynlluniau a chleientiaid i ganfod eu hanghenion, cysylltu â’n panel o arbenigwyr a gwneud trefniadau ar gyfer yr adolygiad, cymryd rhan mewn cyfarfodydd adolygu, a llunio sylwadau swyddogol y Comisiwn ar ffurf adroddiadau adolygu dyluniad.

· Chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynhyrchu cylchlythyr Creu Lleoedd Cymru, gan gynnwys penderfynu ar bynciau, nodi cyfranwyr a golygu erthyglau mewn cydweithrediad â’n Swyddog Cyfathrebu.

· Ymchwilio i arferion gorau a thystiolaeth o werth a manteision dylunio da a’u rhannu, gan gynnwys ar ffurf seminarau, cyhoeddiadau, cyngor ac erthyglau ar y wefan.

· Cynnal a gwella’r gydberthynas â rhanddeiliaid presennol a defnyddio eich gwybodaeth a’ch menter i ddatblygu rhai newydd o fewn y diwydiannau dylunio a datblygu, gan gynnwys â chleientiaid, awdurdodau lleol, sefydliadau proffesiynol ac aelodaeth, Llywodraeth Cymru ac eraill.

· Rhoi adborth ar ymgynghoriadau ac ymholiadau pan fyddant yn codi.

· Datblygu a chyflwyno hyfforddiant pwrpasol i sefydliadau megis awdurdodau cynllunio lleol, aelodau, a chymdeithasau tai.

· Mabwysiadu ffrydiau gwaith sy’n ymwneud â hyrwyddo dylunio da o’r camau cynharaf gyda darparwyr tai fforddiadwy a hyrwyddo safleoedd tai bychan o fewn aneddiadau presennol.

· Datblygu a chyflawni prosiectau sy’n cyd-fynd â chynllun strategol Comisiwn Dylunio Cymru a’r Rhaglen Lywodraethu, gan gynnwys rheoli adnoddau a’r rhaglen brosiectau.

· Trefnu a chyflwyno gweithdai ar bynciau ym meysydd dylunio, cynllunio a chreu lleoedd.

· Cyfrannu at waith Comisiwn Dylunio Cymru mewn perthynas ag adfywio canol trefi a chreu lleoedd, gan gynnwys rhoi sylwadau ar gynlluniau creu lleoedd, darparu canllawiau a chefnogi awdurdodau lleol.

 

Dyletswyddau ychwanegol

· Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau a rhaglenni Comisiwn Dylunio Cymru a’u darparu yn unol ag amcanion strategol a chorfforaethol y Comisiwn.

· Cysylltu ag aelodau’r tîm a’r Panel Adolygu Dylunio yn ôl yr angen.

· Cysylltu â chyrff allanol i wella a chefnogi partneriaethau presennol a datblygu rhai newydd.

· Lle bo’n briodol, gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Swyddfa i ddiogelu, rheoli a rhoi cyfrif am gyllidebau ac arian prosiectau.

· Cadw cofnodion, dogfennaeth a systemau adrodd effeithiol ar gyfer defnydd mewnol ac allanol.

· Paratoi ar gyfer cyfarfodydd/digwyddiadau Comisiwn Dylunio Cymru a’u mynychu.

 

Bydd holl ddyletswyddau’r Cynghorydd Dylunio yn cael eu cyflawni mewn ymgynghoriad agos â’r Prif Weithredwr.

 

Priodoleddau hanfodol

· Angerdd dros greu lleoedd a dealltwriaeth o bwysigrwydd dylunio da.

· Gwybodaeth a phrofiad o ddisgyblaethau perthnasol yn yr amgylchedd adeiledig, gan gynnwys pensaernïaeth, dylunio trefol a thirlunio, adfywio, trafnidiaeth/symudedd a thai.

· Dealltwriaeth o greu lleoedd yng nghyd-destun Cymru, gan gynnwys heriau gwledig a threfol.

· Greddf i feithrin cydberthnasau ac ennyn brwdfrydedd eraill.

· Y gallu i ddadansoddi, dehongli, cyflwyno a chyfleu gwybodaeth yn effeithiol i ystod o gynulleidfaoedd.

· Ymwybyddiaeth o bolisi a strategaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Polisi Cynllunio Cymru, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sy’n dod i’r amlwg, polisiau perthnasol ar lefel cenedlaethol a lleol, yn ogystal â deddfwriaethau arwyddocaol eraill megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Ddeddf Teithio Llesol.

· Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o arferion cynllunio, rheoli datblygu ac adfywio awdurdodau lleol yng Nghymru.

· Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o bwysigrwydd datblygu cynaliadwy.

· Dealltwriaeth o’r sector eiddo masnachol a datblygu.

· Sgiliau dadansoddol rhagorol a’r gallu i arfer barn gadarn.

· Y gallu i feddwl a gweithredu’n strategol er mwyn dylanwadu’n gadarnhaol a chyfrannu gwerth ychwanegol.

 

Sgiliau hanfodol

· Profiad mewn disgyblaethau dylunio amgylchedd adeiledig megis dylunio trefol/ pensaernïaeth/ tirlunio/ datblygu

· Sgiliau cyfathrebu eithriadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.

· Sgiliau trefnu a chyflwyno eithriadol.

· Effeithlon, brwdfrydig a’r gallu i weithio o dan bwysau, gan gefnogi a chael cefnogaeth gan gydweithwyr mewn tîm bach.

· Digonedd o egni, brwdfrydedd, menter a hunangymhelliant.

· Y gallu i fod yn llysgennad effeithiol ar ran y Comisiwn a’i waith, gan ennyn brwdfrydedd eraill a meithrin consensws.

· Hyddysg mewn cyfrifiadura a hunangynhaliaeth weinyddol.

· Trwydded yrru lawn, gyfredol.

 

Byddai gwybodaeth dda am bolisïau ac arferion awdurdodau lleol a pholisïau cynllunio cenedlaethol yng Nghymru yn fanteisiol.

 

Byddai’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg o gymorth i ddeiliad y swydd ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y rôl.

 

Disgrifiad o’r rôl fel y’i canfyddir ar yr adeg yr ysgrifennwyd a geir uchod, a gallai newid yn y dyfodol, mewn ymgynghoriad â deiliad y swydd, i adlewyrchu gofynion sy’n newid.

 

Diwylliant ac ymddygiad

Mae Comisiwn Dylunio Cymru wedi sefydlu a meithrin diwylliant datblygiadol, creadigol a cholegol cadarnhaol y mae wedi ymrwymo’n llwyr iddo.

Bydd holl aelodau’r tîm yn gweithredu fel llysgenhadon ar ran y Comisiwn yn eu rhinwedd broffesiynol o ddydd i ddydd, a drwy hyrwyddo gwaith Comisiwn Dylunio Cymru ar lwyfannau cyhoeddus, gan gynnwys drwy siarad yn gyhoeddus, mynychu digwyddiadau a chyfrannu mewn print, ar-lein ac ar y cyfryngau darlledu.

Bydd holl aelodau’r tîm yn cynnal ac yn arddangos gweledigaeth, nodau a gwerthoedd Comisiwn Dylunio Cymru yn ymarferol, gan drin cydweithwyr â pharch a phroffesiynoldeb.

Bydd holl aelodau’r tîm yn gweithredu yn unol â fframwaith a chynlluniau blynyddol Comisiwn Dylunio Cymru; codau ymddygiad ac eitemau eraill sydd wedi’u cynnwys yn eu llawlyfrau polisi a gweithdrefnau, gan ymddwyn mewn modd sy’n gymesur â chorff uchel ei barch, a ariennir gan arian cyhoeddus ac sy’n atebol i’r cyhoedd.

 

Comisiwn Dylunio Cymru

Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn sefydliad cenedlaethol a sefydlwyd gan y Llywodraeth i hyrwyddo dylunio da ar gyfer yr amgylchedd adeiledig a hyrwyddo safonau uchel o ran pensaernïaeth, tirlunio a dylunio trefol yng Nghymru.

Ein gweledigaeth yw Cymru sy’n lle gwell.

Ein nod yw hyrwyddo dylunio da ar gyfer yr amgylchedd adeiledig a chyfleu ei fanteision.

Mae’r Comisiwn yn fach, yn ystwyth ac yn arbenigol. Mae ein tîm yn gweithio ledled Cymru i helpu i’w gwneud yn lle gwell, trwy ddylunio. Rydym yn hyrwyddo dylunio da ar draws sectorau, gan flaenoriaethu ansawdd yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru ac ansawdd dylunio adeiladau, lleoedd a thir y cyhoedd.

Drwy ein gwasanaethau cynghori, gan gynnwys y Gwasanaeth Adolygu Dyluniadau cenedlaethol, digwyddiadau a hyfforddiant, rydym yn ymgysylltu â chydweithwyr ym meysydd pensaernïaeth, dylunio a chynllunio trefol a thirlunio, sy’n ymwneud â llunio cefn gwlad, dinasoedd, trefi a phentrefi Cymru. Rydym yn gweithio gydag ymarferwyr, cyrff proffesiynol, awdurdodau lleol, cleientiaid a chyrff comisiynu eraill, ym meysydd dylunio, cynllunio, adfywio, ynni a seilwaith, gan sicrhau bod ein harbenigedd ar gael ledled Cymru.

Caiff ein tîm bach, gweithredol ei ategu gan gapasiti ychwanegol ar ffurf gwirfoddolwyr arbenigol a benodir yn Banelwyr Adolygu Dylunio. Mae sgiliau a phrofiad y tîm cyfan yn cwmpasu eiddo masnachol, adfywio, pensaernïaeth, cynaliadwyedd, dylunio trefol a thirlunio, seilwaith ynni gan gynnwys ynni gwynt ar y tir/ar y môr, yn ogystal â pheirianneg, cynllunio a thrafnidiaeth.

 

Prif delerau ac amodau:

 

Teitl: Cynghorydd Dylunio

Statws y Contract: Contract llawnamser

Mae’r swydd yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf o dri mis yn foddhaol

Yn atebol i’r: Prif Weithredwr

Lleoliad: Comisiwn Dylunio Cymru

Llawr 4, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5FL ac mewn lleoliadau ledled Cymru, yn ôl yr angen.

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio o swyddfa Comisiwn Dylunio Cymru yng Nghaerdydd o leiaf dridiau’r wythnos, wedi’u hategu gan drefniadau gweithio hybrid.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos. Bydd gofyn am rywfaint o hyblygrwydd ynghyd â’r parodrwydd i deithio ac aros dros nos, i ddiwallu anghenion busnes.

Gwyliau Blynyddol: Wyth gŵyl gyhoeddus a phedwar diwrnod dewisol y flwyddyn yn ogystal ag uchafswm o 30 diwrnod y flwyddyn, yn amodol ar gytundeb ffurfiol ar benodiad.

 

Dull talu: BACS ar y pymthegfed o bob mis

Pythefnos yn ddyledus, pythefnos ymlaen llaw.

Yn daladwy ar y diwrnod gwaith olaf sydd agosaf at y pymthegfed o’r mis os yw’n disgyn ar benwythnos neu ŵyl gyhoeddus.

 

Tâl: £40,000 y flwyddyn.

Dyfernir dyfarndaliadau yn y dyfodol yn unol â pholisi tâl Comisiwn Dylunio Cymru ac fel y’i pennir gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr.

 

Cynllun Pensiwn: Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Polisi Cyfle Cyfartal: Mae Comisiwn Dylunio Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ym mhob agwedd o’u gwaith ac mae’r holl bersonél yn cyflawni eu dyletswyddau yn unol â’r ymrwymiad hwn a’n polisi.

Cyfnod rhybudd: Cyflogwr – Tri mis

Gweithiwr – Tri mis

Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn gweithredu polisi dim ysmygu llym. Darperir telerau ac amodau manwl pellach, polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd, gweithio hyblyg ac ati yn y contract cyflogaeth ac maent yn cael eu hesbonio yn y Llawlyfr Staff.

Rhaid gwneud ceisiadau ar ffurf CV a llythyr eglurhaol dros e-bost at connect@dcfw.org

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 3pm ar 15 Medi 2026. Cynhelir cyfweliadau ar gyfer yr ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar 22/23 Medi 2026 yn swyddfa Comisiwn Dylunio Cymru yng Nghaerdydd.

Comisiwn Dylunio Cymru yw enw masnachu DCFW LIMITED, Cwmni Cyfyngedig Preifat rhif: 04391072 sydd wedi’i ymgorffori yng Nghymru a Lloegr fel is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Swyddfa Gofrestredig: Llawr 4, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FL

Mae’r newyddion a’r digwyddiadau
diweddaraf yn ein cylchlythyr

Cofrestrwch i gael clywed mwy gan Gomisiwn Dylunio Cymru.
Tanysgrifio