Newyddion
Cyd-greu: Digwyddiad Cyfnewid Rhanbarthol a Chyfranogol ar Greu Lleoedd
Ymunwch â’r Digwyddiad Cyfnewid.
Croeso i Cyd-greu, cyfres o ddigwyddiadau newydd gan Creu Lleoedd Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru sydd wedi ei dylunio i chwalu seilos proffesiynol ar draws yr amgylchedd adeiledig mewn pedwar rhanbarth yng Nghymru.
Yn rhy aml o lawer, mae bwriad dylunio da yn cael ei sbwylio gan reolau, prosesau neu bwysau sy’n gwrthdaro. Nid gweithio’n annibynnol yw’r ateb yn ôl Comisiwn Dylunio Cymru ond cydweithio traws-ddisgyblaethol. Oherwydd hynny, mae Cyd-Greu yn ddigwyddiad rhyngweithiol, ymarferol a chydweithredol (wedi’i achredu gan DPP) ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes amgylcheddau adeiledig, yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Nod y digwyddiad yw chwalu’r seilos proffesiynol, creu cyfleoedd i rwydweithio â chyfoedion sy’n gweithio ar wahanol raddfeydd a chamau gweithredu, dysgu am yr hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llen, a dwyn ynghyd gyfleoedd dylunio yn y byd go iawn a phwyntiau gwrthdaro.
Pam dod i’r digwyddiad?
- Rhwydweithio Trawsddisgyblaethol: Ar ôl cyrraedd byddwch yn ymuno â thîm amlddisgyblaethol ‘Egwyddorion Creu Lleoedd’ ac yn cael cyfle i glywed am astudiaethau achos rhanbarthol ar greu lleoedd yn eich rhwydwaith lleol.
- Digwyddiad Cyfnewid ar Greu Lleoedd: Cydweithio i ddatblygu dadansoddiad dyfnach o amodau rhanbarthol a’r adeiladwaith presennol mewn perthynas â chreu lleoedd. Nodi cyfleoedd ar gyfer negodi creu lleoedd yn gynnar a chanfod ffyrdd ymlaen.
- Ennill DPP strwythuredig: Mae pob sesiwn wedi’i hachredu am 3 awr o DPP strwythuredig ar draws pob sefydliad mawr (RIBA, RTPI, RICS, LI, ICE, CIHT, CIOB, CIBSE).
- Dylanwadu ar Fentrau’r Dyfodol: Llywio’r gwaith o ddatblygu dulliau ar gyfer cydweithio ar draws sectorau ymysg gweithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig, llywodraethau lleol a Llywodraeth Cymru, gyda Chomisiwn Dylunio Cymru a Chreu Lleoedd Cymru.
Dewiswch eich rhanbarth a Dyddiad y Digwyddiad.
Ble rydych chi’n gweithio neu’n byw? Ewch i un (neu fwy!) o’r pedwar digwyddiad, boed hynny yn y lleoliad agosaf at eich cartref neu’r ardal lle rydych chi’n gweithio.
| Rhanbarth | Dyddiad / Amser | Lleoliad |
| De-orllewin Cymru | 1-4pm, 10 Medi | Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ |
| Gogledd Cymru | 1-4pm, 1 Hydref | Lleoliad yng ngogledd Cymru* |
| Canolbarth Cymru | 1-4pm, 12 Medi | Lleoliad yng nghanolbarth Cymru* |
| De-ddwyrain Cymru | 1-4pm, 9 Medi | Lleoliad yn ne-ddwyrain Cymru* |
Mae lleoedd yn brin oherwydd ein bod ni eisiau sicrhau bod amrywiaeth gyson o ddisgyblaethau proffesiynol ym mhob digwyddiad er mwyn creu cyfleoedd ymgysylltu ystyrlon. * Bydd union gyfeiriadau’r lleoliadau’n cael eu rhannu cyn bo hir.
Rhaglen Ryngweithiol.
| Amser | Manylion Amserlen |
| 13:00 | Cyrraedd, Lluniaeth a chyfle i Rwydweithio. Gweithgaredd tîm ‘Egwyddorion Creu Lleoedd’ |
| 13:30 | Croeso, Cyflwyniadau gan Gomisiwn Dylunio Cymru ac Amcanion y Sesiwn |
| 13:35 | Cyflwyniadau gan Weithwyr Proffesiynol Rhanbarthol Creu Lleoedd/Amgylcheddau Adeiledig |
| 13:55 | Trafodaeth Banel / Sesiwn Holi ac Ateb |
| 14:15 | Gweithgaredd Mapio a Chyfnewid rhanbarthol a chyfranogol wedi’i hwyluso ar ‘Greu Lleoedd’ |
| 15:30 | Cyfle i fyfyrio ac adolygu’r gyfnewidfa ranbarthol ar Greu Lleoedd |
| 15:45 | Camau Nesaf a Chlo |
Sut a phwy ddylai archebu lle.
Cliciwch ar boster y digwyddiad isod ac ewch i’n tudalen Eventbrite i sicrhau lle yn eich digwyddiad rhanbarthol. Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond rhaid cofrestru.
Mae modd cadw lle ar gyfer y digwyddiad yn ne-orllewin Cymru nawr; dewch yn ôl eto er mwyn cadw lle yn y digwyddiadau diweddarach.
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i bawb sydd wedi llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru, a holl ddisgyblaethau’r amgylchedd adeiledig sy’n ymarfer yng Nghymru, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i): Penseiri, Penseiri Tirlunio, Dylunwyr, Dylunwyr Trefol, Cynllunwyr Tref, Prif Gynllunwyr, Syrfewyr, Peirianwyr, Ymgynghorwyr a Swyddogion y Sector Cyhoeddus.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at placemaking@dcfw.org
