HafanNewyddion a DigwyddiadauCynllun Peilot Partneriaeth Ta…

Newyddion

Cynllun Peilot Partneriaeth Tai Fforddiadwy – Datganiad o Ddiddordeb

Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan ddarparwyr tai fforddiadwy sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn rhaglen beilot i gefnogi ansawdd dylunio drwy gydol y broses ddatblygu, gan ganolbwyntio’n benodol ar gamau cynnar datblygu prosiectau, gyda’r nod o gynhyrchu enghreifftiau delfrydol ar gyfer y dyfodol.

Bydd y cynllun peilot hwn yn edrych ar sut gall cyfuniad o gymorth dylunio yn ystod y camau cynnar ac Adolygu Dyluniad parhaus gyfrannu at wneud penderfyniadau gwybodus drwy gydol datblygiad y prosiect. Drwy weithdai cydweithredol, trafodaethau wedi’u harwain gan ddylunio, cyngor ar gaffael a briffio, ac Adolygu Dyluniad, bydd y rhaglen yn helpu darparwyr tai fforddiadwy i ddarparu tai cynaliadwy a fforddiadwy o ansawdd uchel sy’n ymateb yn gadarnhaol i’w cyd-destun, yn manteisio i’r eithaf ar botensial safleoedd ac yn creu lleoedd llwyddiannus lle mae pobl eisiau byw.

Bydd y cynllun peilot yn gweithio gyda dau ddarparwr tai fforddiadwy, gan gefnogi prosiectau o gychwyniad y prosiect hyd at ddatblygu dyluniad.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun peilot, gan gynnwys cymhwysedd, y rhaglen ac ymrwymiadau cyfranogwyr, ar gael yn y Trosolwg o’r Peilot.

I wneud cais, llenwch y Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb a’i dychwelyd i connect@dcfw.org erbyn 7 Awst 2026.

Os hoffech drafod y cynllun peilot neu addasrwydd prosiect posibl cyn gwneud cais, cysylltwch â ni yn connect@dcfw.org.

Adnodd PDF

Trosolwg o’r Cynllun Peilot

Adnodd PDF

Ffurflen Datganiad o Ddiddordeb

Mae’r newyddion a’r digwyddiadau
diweddaraf yn ein cylchlythyr

Cofrestrwch i gael clywed mwy gan Gomisiwn Dylunio Cymru.
Tanysgrifio