Newyddion
Cyfres o Ddigwyddiadau Cyfnewid Creu Lleoedd Rhanbarthol
Ymunodd dros 120 o weithwyr proffesiynol yn yr amgylchedd adeiledig â’n digwyddiadau Cyfnewid Rhanbarthol Creu Lleoedd Co-Create, a gynhaliwyd ar draws pedwar rhanbarth yng Nghymru yr hydref hwn. Cafwyd ymateb brwdfrydig i bob digwyddiad, ac er bod y pwyslais yn amrywio o un rhanbarth i’r llall, daeth nifer o negeseuon clir i’r amlwg.
Mae yna egni, optimistiaeth ac awydd enfawr i dorri allan o seilos disgyblaethol a rhoi cymunedau wrth wraidd y gwaith o greu lleoedd.
Byddwn yn parhau i dynnu sylw at wahanol ganfyddiadau o’r holl wybodaeth a gasglwyd. Fodd bynnag, yn yr erthygl hon, rydym yn tynnu sylw at rai o’r prif bwyntiau.
Bydd Comisiwn Dylunio Cymru (DCFW) a Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru yn hyrwyddo newid systemig drwy gyflwyno argymhellion clir y cyfranogwyr ar integreiddio trafnidiaeth ranbarthol, capasiti awdurdodau lleol a chyllid cynnal a chadw hirdymor i’n trafodaethau cenedlaethol parhaus gyda phartneriaid a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Rydym eisoes wedi rhannu cipolwg rhanbarthol ar yr hyn a ddaeth i’r amlwg ym mhob digwyddiad wrth iddynt gael eu cynnal. Gyda’i gilydd, maent yn rhoi trosolwg clir o sut y gall gweithwyr proffesiynol yn yr amgylchedd adeiledig gefnogi’r gwaith o greu lleoedd ledled Cymru.
Yn Ne-orllewin Cymru, canolbwyntiwyd ar gynnwys cymunedau yn gynnar, cryfhau cysylltiadau trafnidiaeth rhanbarthol, a gwella’r ffordd y caiff mannau gwyrdd eu hintegreiddio er mwyn annog pobl leol i’w defnyddio.
Yng Ngogledd Cymru, y pwyslais oedd datblygu gweledigaeth ranbarthol unedig, ehangu’r gweithdy er mwyn rhannu gwybodaeth â rhanddeiliaid ehangach ar draws cymdeithasau tai cofrestredig (RSLs), awdurdodau lleol a chleientiaid, a chwalu seilos sefydliadol.
Yng Nghanolbarth Cymru, rhoddwyd pwyslais ar wydnwch hinsawdd, teithio llesol, a ffyrdd ymarferol o droi cynlluniau lleoedd presennol yn brosiectau wedi’u cyflawni drwy gefnogaeth hyrwyddwyr lleol.
Yn olaf, yn Ne-ddwyrain Cymru, daeth y digwyddiad i ben drwy bwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu lleol iawn, o’r gwaelod i fyny; symud y tu hwnt i welliannau arwynebol i’r parth cyhoeddus; a sicrhau cyllid hirdymor ar gyfer cynnal a chadw a hirhoedledd.
Mae adolygiad pellach o adborth cyfranogwyr o bob rhanbarth, ynghylch yr hyn a ddysgwyd ganddynt o’r sesiynau cyfnewid ar y diwrnod, wedi helpu i nodi’r pum cam nesaf ar gyfer datblygu’r gwaith o greu lleoedd ledled Cymru:

1. Cydweithio oedd y flaenoriaeth bennaf ym mhob rhanbarth er mwyn cefnogi gwell gwaith creu lleoedd: bydd rhwydweithio a thrafodaethau wyneb yn wyneb, sy’n dod â gweithwyr o wahanol ddisgyblaethau ynghyd, yn cynnig cyfle i gamu o’r neilltu o bwysau gwaith o ddydd i ddydd, sbarduno syniadau newydd a meithrin perthnasoedd gwaith newydd. Mae hyn yn atgyfnerthu’r farn bod “dod â gwahanol ddisgyblaethau ynghyd yn werthfawr iawn” a bod meddwl cydgysylltiedig yn arwain at leoedd gwell.
2. Yn ail, rhaid i ymgysylltu â chymunedau ddigwydd yn gynnar, ar lefel hyperleol ac o’r gwaelod i fyny. Ni ellir creu lleoedd ar gyfer cymunedau heb eu cynnwys; rhaid cyd-greu’r broses gyda nhw o’r cychwyn cyntaf. Pwysleisiodd y cyfranogwyr werth lleisiau lleol, hyrwyddwyr cymunedol a mentrau lleol ar lawr gwlad, gan alw am “fwy o adnoddau i Awdurdodau Lleol sicrhau nad yw’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) / Cynllun Datblygu Strategol (CDS) yn cael ei yrru o’r brig i lawr”, ond ei fod yn adlewyrchu dull gweithredu gwirioneddol o’r gwaelod i fyny.
Un o’r prif heriau yw sut i sicrhau bod y cyfraniadau hyn yn cael eu trosglwyddo i lefelau ehangach o strategaeth a chynllunio.
3. Cydnabu’r cyfranogwyr fod creu lleoedd yn berthnasol ar bob graddfa, o ymyriadau dros dro a mentrau dros dro mewn un adeilad i strategaethau rhanbarthol cyfan. Mae creu lleoedd yn broses gyfannol, sy’n “llawer mwy na bolardiau a meinciau”, ac sy’n ystyried sut mae mannau’n gweithredu yng nghyd-destun y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Mae’n gofyn am gyllid hirdymor, gwaith cynnal a chadw a stiwardiaeth barhaus er mwyn sicrhau bod y gwelliannau’n para dros amser.

4. Yn bedwerydd, mae cysylltedd a gwydnwch yn hanfodol. Daeth neges gyffredin i’r amlwg ledled Cymru ynghylch sut mae pobl yn symud drwy leoedd ac yn eu profi. Mae hyn yn dibynnu ar well cysylltiadau a dylunio sy’n gallu ymateb i newid, drwy wella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, ochr yn ochr â seilwaith gwyrdd integredig a chamau gweithredu ar yr hinsawdd.
Mae hyn yn dangos bod cydweithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol yn hanfodol er mwyn galluogi lleoedd i ffynnu.

5. Yn olaf, mae rhannu arferion gorau yn cyflymu’r broses o ddeall a chyflawni gwell gwaith creu lleoedd er budd pawb. Roedd y cyfranogwyr o’r farn bod y mewnwelediadau manwl i fframweithiau cynllunio lleoedd yng Ngheredigion ac adfywio dan arweiniad y gymuned yng Nghasnewydd yn “astudiaeth achos werthfawr iawn” o greu lleoedd ar waith. Mynegwyd diddordeb hefyd mewn dysgu o brofiadau a lleoedd y tu allan i Gymru.
Yn ysbryd y digwyddiad, croesawyd adborth hefyd ar sut y cynhaliwyd yr elfen gyfranogol ac ar ba mor ddefnyddiol oedd camau’r gweithdy. Roedd hyn yn ein galluogi i ddatblygu’r sesiynau cyfnewid mewn amser real, wrth inni addasu’r fformat o un digwyddiad i’r llall. Mae’r broses hon bellach wedi arwain at adnodd deunyddiau newydd ar greu lleoedd, sef
sydd ar gael i’w lawrlwytho, ynghyd â chanllaw i hwyluswyr er mwyn annog sesiynau cyfnewid newydd a pharhaus ar greu lleoedd ar lawr gwlad ledled Cymru.
Boed o fewn timau sefydliadol neu ar y cyd â gweithwyr proffesiynol eraill yn yr amgylchedd adeiledig, rydym yn gobeithio y bydd yr adnodd hwn yn helpu i ddatblygu safonau cyffredin ar gyfer creu lleoedd o ansawdd da, a chreu amser a chyfle i feddwl a dysgu drwy gydweithio ymarferol.
Byddwn yn cynnig hyfforddiant a gwasanaethau hwyluso pellach yn seiliedig ar yr adnodd hwn yn y dyfodol agos.
Dim ond dechrau’r broses gyfnewid ar greu lleoedd yw hyn; dylai’r rhwydwaith barhau i dyfu, gweithredu fel sbardun ar gyfer rhannu gwersi ymarferol, a helpu i droi cynlluniau creu lleoedd presennol yn brosiectau sy’n cael eu hariannu a’u hyrwyddo, ac sy’n cael eu cyflawni ar lawr gwlad.
I DCFW, mae’r broses hon wedi sbarduno syniadau ar gyfer ein camau nesaf. Mewn ymateb i’r gefnogaeth gref i gynnal mwy o sesiynau thematig pwrpasol, gan gynnwys creu lleoedd dan arweiniad diwylliant, rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Gallai’r rhain gynnwys ymweliad â safle prosiect byw a thaith gerdded dywysedig, er mwyn seilio trafodaethau’r dyfodol mewn cyd-destun go iawn.
Ein nod yw cynnal digwyddiad Co-Create cenedlaethol yn y dyfodol agos ac ehangu cyfranogiad o fewn rhwydwaith Siarter Creu Lleoedd Cymru.
Edrychwn ymlaen at rannu rhagor o fanylion yn fuan.
FACILITATORS GUID
This guide outlines how to set up the Placemaking exchange workshop on your own.