HafanNewyddion a DigwyddiadauCynefin: Creu Lleoedd a Chened…

Newyddion

Cynefin: Creu Lleoedd a Chenedlaethau’r Dyfodol

Mae misoedd cyntaf llywodraeth newydd yn gosod y cywair ar gyfer popeth sy’n dilyn. Yn y penderfyniadau cynnar, hollbwysig hynny, rhaid peidio â thrin creu lleoedd fel rhywbeth eilradd.

Mae dewisiadau llywodraeth yn siapio’r lleoedd lle rydym yn byw bob dydd fel ble mae cartrefi’n cael eu hadeiladu, sut mae pobl yn symud o gwmpas, a yw ein strydoedd mawr yn ffynnu neu’n pylu, ac a yw cymunedau’n teimlo’n ddiogel, yn gysylltiedig ac yn obeithiol.

Mae’r cwestiynau i’r llywodraeth newydd yn syml: a fydd yn rhoi egwyddorion creu lleoedd wrth galon y broses o wneud penderfyniadau? Ac a fydd yn gwreiddio’r gwerthoedd Cymreig sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn y ffordd rydym yn dylunio ac yn gofalu am ein lleoedd?

Mae creu lleoedd yn fwy nag adfywio neu seilwaith yn unig. Mae’n ymwneud â stiwardiaeth — siapio lleoedd ar gyfer y bobl sy’n byw yma heddiw, ac ar gyfer y rhai fydd yn eu hetifeddu yn y dyfodol.

Mae un gair Cymraeg yn crynhoi hyn yn hyfryd: cynefin. Mae cynefin yn disgrifio’r berthynas ddofn rhwng pobl a lle — y tirweddau, y diwylliant, yr iaith a’r cymunedau sy’n siapio pwy ydym ni. Pan fyddwn yn sôn am greu lleoedd yng Nghymru, rydym mewn gwirionedd yn sôn am feithrin ein cynefin cyffredin.

Mae data diweddaraf Llesiant Cymru yn dangos pam mae hyn mor bwysig. Mae tua 13% o bobl yng Nghymru yn teimlo’n unig, a dim ond 68% sy’n teimlo’n ddiogel yn eu hardal leol ar ôl iddi dywyllu. Mae’r bwlch rhwng y rhywiau yn drawiadol: mae 82% o ddynion yn teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu, o’i gymharu â dim ond 56% o fenywod.

Her arall yw ymddiriedaeth a dylanwad. Dim ond 19% o bobl sy’n teimlo eu bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol — cwymp sylweddol o 30% yn 2021–22. Pan fydd pobl yn teimlo wedi’u datgysylltu oddi wrth y penderfyniadau sy’n siapio eu trefi, eu strydoedd mawr a’u mannau cyhoeddus, mae’n llawer anoddach creu lleoedd sy’n adlewyrchu anghenion cymunedau go iawn.

Ac eto, ledled Cymru, rydym eisoes yn gweld beth sy’n bosibl. Yng Nghasnewydd, mae gwirfoddolwyr Caffi Trwsio Cymru yn rhedeg canolfan gymunedol lwyddiannus ar gyfer trwsio ac ailddefnyddio — enghraifft o sut gall mentrau lleol gefnogi uchelgeisiau ehangach, o leihau gwastraff i gryfhau cysylltiadau cymunedol. Bellach, mae gan Gymru deirgwaith yn fwy o gaffis trwsio y pen na gweddill y DU.

Ond nid yw straeon llwyddiant unigol yn ddigon. Mae angen i ymrwymiad systemig i greu lleoedd barhau i dyfu. Mae mwy na 100 o sefydliadau wedi llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru, ond pan gyhoeddais fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol y llynedd, dim ond 15 o’r 56 corff cyhoeddus sy’n dod o dan y Ddeddf oedd wedi ymrwymo’n ffurfiol iddi. Yn galonogol, mae hyn yn newid. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae deg corff cyhoeddus a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus arall wedi llofnodi’r Siarter, gan ddod â ni’n agos at hanner.

Ni all creu lleoedd eistedd yn unig o fewn adrannau cynllunio. Mae byrddau iechyd, sefydliadau diwylliannol, cyrff amgylcheddol a systemau trafnidiaeth i gyd yn siapio’r amodau sy’n penderfynu a yw pobl yn teimlo’n gysylltiedig â’u cymunedau.

Os ydym am weld lleoedd yn ffynnu, rhaid i ni hefyd roi mwy o rym i gymunedau eu siapio. Gallai cynigion fel Deddf Hawl Gymunedol i Brynu helpu pobl leol i ddiogelu adeiladau treftadaeth, creu mannau diwylliannol a gwarchod yr asedau sydd o’r pwys mwyaf iddynt.

Rhaid i ddiwylliant fod yn ganolog i’r sgwrs hon. Yn rhy aml, caiff ei drin fel addurn yn hytrach na sylfaen. Ac eto, mannau diwylliannol, gweithwyr creadigol llawrydd a mentrau cymunedol yw’r pethau sy’n aml yn rhoi bywyd i leoedd. Mae fy ngalwad am Ddeddf Diwylliant i Gymru yn ymwneud ag archwilio sut y gallwn gryfhau llesiant diwylliannol a chefnogi awdurdodau lleol i fuddsoddi yn eu cynnig diwylliannol a’i feithrin.

Pan fyddwn yn creu lleoedd yn dda, rydym yn gwneud mwy nag adfywio adeiladau. Rydym yn ailadeiladu hyder. Rydym yn creu lleoedd lle mae treftadaeth yn ffynnu, lle mae cymunedau’n llwyddo, a lle mae pobl eisiau byw am genedlaethau i ddod.

Mae’r newyddion a’r digwyddiadau
diweddaraf yn ein cylchlythyr

Cofrestrwch i gael clywed mwy gan Gomisiwn Dylunio Cymru.
Tanysgrifio