HafanNewyddion a DigwyddiadauGwersi o Raglen Beilot Hybu Tr…

Newyddion

Gwersi o Raglen Beilot Hybu Trefi Cymru

Mae’r Rhaglen Beilot Hybu Trefi wedi bod yn profi dull ymarferol o adfywio canol trefi sy’n ymgysylltu â’r gymuned ac sy’n ceisio sbarduno gweithredu gweladwy ar unwaith i bontio’r bwlch parhaus rhwng cynllunio a chyflawni.

Ledled Cymru, mae llawer o ganol trefi yn parhau i wynebu heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae’r pwysau hyn i’w gweld yn aml mewn adeiladau gwag, llai o ymwelwyr a llai o hyder yng nghanol trefi. Er bod awdurdodau lleol wedi datblygu cynlluniau creu lleoedd i ymateb i’r materion hyn, gall y cynnydd o ran cyflawni fod yn araf wrth i drefniadau cyllido a gweithredu gael eu rhoi ar waith.

Grymuso Gweithredu yn y Gymuned

Mae’r fenter Hybu Trefi wedi’i ddatblygu gan Creative Communities International a’i harwain gan yr ymarferydd creu lleoedd David Engwicht. Mae’r fenter wedi cael ei phrofi mewn dros 40 o drefi ledled Awstralia a Seland Newydd. Drwy gynllun peilot a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a oruchwyliwyd gan Gomisiwn Dylunio Cymru, cafodd ei addasu i gyd-destun Cymreig.

Mae’r rhaglen yn seiliedig ar y syniad y gall cyfnodau byr a dwys o weithgarwch dan arweiniad y gymuned drawsnewid yr amgylchedd ffisegol a chanfyddiadau o le.

Wythnos Newid Naratif

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar broses wythnos o hyd sy’n cynnwys gweithdai gydag awdurdodau lleol, cynghorau tref, busnesau a thrigolion, ac yn arwain at ‘ddiwrnod trawsnewid’. Mae hyn yn cynnwys ymyriadau cost isel i wella edrychiad, naws a swyddogaeth gymdeithasol canol trefi.

Y tu hwnt i newidiadau ffisegol, mae’r rhaglen yn meithrin hyder y gymuned, yn annog busnesau i ddenu ymwelwyr, ac yn cefnogi awdurdodau lleol i chwarae rhan sy’n galluogi mwy. Mae’n dangos y gall adfywio ddechrau ar unwaith, hyd yn oed heb lawer o adnoddau.

Proses Ddysgu

Mae’r dull wedi cael ei brofi yn Abertyleri, Llanilltud Fawr ac Abergele, gyda phob tref yn cynnig gwersi gwerthfawr.

Yn Abertyleri, cymedrol oedd yr ymgysylltu yn ystod yr wythnos, ond cafwyd ymateb cryf gan y cyhoedd yn ystod y diwrnod trawsnewid. Bu’r gwirfoddolwyr wrthi’n glanhau blaenau siopau, yn peintio bolardiau, yn gosod baneri ac yn creu murlun ar gaead blaen siop. Sbardunodd yr effaith weladwy adborth cadarnhaol a diddordeb cynyddol gan fusnesau lleol sy’n awyddus i atgynhyrchu’r gwelliannau.

Profodd Llanilltud Fawr fwy o ymgysylltu drwy gydol yr wythnos, a daeth 29 o gyfranogwyr i helpu ar y diwrnod trawsnewid. Roedd y gwelliannau’n cynnwys potiau plannu, dodrefn stryd symudol, map tref wedi’i beintio â llaw ac ailbeintio bloc toiledau cyhoeddus, gan greu ymdeimlad cryf o egni ac optimistiaeth ac awydd am ragor o welliannau.

Yn Abergele, roedd busnesau’n arbennig o frwd dros ymgysylltu, ac roedd y diwrnod trawsnewid yn canolbwyntio ar drawsnewid man cyhoeddus o flaen y llyfrgell.

Gweithiodd pob tref gyda chyllideb trawsnewid o ddim ond £2,500, gan dynnu sylw at y ffaith nad yw newid effeithiol yn dibynnu ar fuddsoddiad ar raddfa fawr yn unig.

Beth nesaf?

Wrth i’r cynllun peilot esblygu, bydd ei lwyddiant hirdymor yn dibynnu ar gynnal momentwm. Mae hyn yn cynnwys awdurdodau lleol yn mabwysiadu rolau galluogi, busnesau a chymunedau yn dod yn gyfranwyr gweithredol, a gweithgarwch dilynol parhaus.

Yn hyn o beth, roedd y rhaglen yn ymwneud nid yn unig â gwelliannau ffisegol, ond hefyd â newid y ffordd mae pobl yn ymdrin ag adfywio a sut caiff ei gyflawni.

Ailfframio Adfywio

Yn bwysicaf oll efallai, mae’n herio’r naratif o ddirywiad sy’n gallu ymwreiddio yng nghanol trefi sy’n ei chael hi’n anodd. Mae galluogi gweithredu gweladwy ar y cyd yn helpu cymunedau i weld eu hunain nid fel lleoedd sy’n aros am fuddsoddiad, ond fel cymunedau sy’n gallu sbarduno newid.

Wrth i wersi o’r cynllun peilot gael eu hystyried, mae’r model yn cynnig potensial clir ar gyfer eu cymhwyso’n ehangach ledled Cymru, gan ddangos nad oes angen i adfywio ddechrau ar raddfa fawr, dim ond gyda gweithredu.

Mae’r newyddion a’r digwyddiadau
diweddaraf yn ein cylchlythyr

Cofrestrwch i gael clywed mwy gan Gomisiwn Dylunio Cymru.
Tanysgrifio