HafanNewyddion a DigwyddiadauLlunio Lle: Rôl Celfyddyd a Di…

Newyddion

Llunio Lle: Rôl Celfyddyd a Diwylliant wrth Greu Lleoedd mewn Cymunedau Gwledig

Mae cynnwys cymunedau yn y gwaith o gynllunio lleoedd yn hanfodol er mwyn llunio lleoedd bywiog ac unigryw, gan alluogi pobl i ddogfennu anghenion lleol, llunio gweledigaeth ar y cyd, a phennu blaenoriaethau.  Ond mewn ardaloedd gwledig, lle mae heriau’n wahanol, dim ond yn rhannol y gall dulliau creu lleoedd traddodiadol, sydd fel arfer yn canolbwyntio ar seilwaith a bylchau yn y ddarpariaeth gwasanaethau, ddatgelu profiad uniongyrchol yr ardaloedd hyn.  Dyma lle gall celfyddyd a chreadigrwydd fod yn gatalydd ar gyfer gallu cymunedol, drwy ddatgelu naratif dyfnach sydd, yn ei dro, yn dod yn angor ar gyfer cynllunio lleoedd mewn dull mwy cyfannol.

Mae Llunio Lle yn enghraifft o’r hyn sy’n bosibl pan fydd diwylliant wrth galon creu lleoedd gwledig.  Roedd ei ddull cynhwysol yn blaenoriaethu cymryd rhan yn rymusol a sgyrsiau cymunedol sy’n cael eu harwain gan werth dros gynllunio o’r brig i lawr.

Mae’n brosiect sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a’i ddarparu ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion gan Chris Jones Regeneration mewn partneriaeth â Studio Response a Gwe Cambrian Web.  Nodau’r prosiect oedd datblygu a chynhyrchu Porth Creu Lleoedd digidol ar gyfer pob un o 13 Canolfan Gwasanaethau Gwledig Ceredigion i’w gyhoeddi ar lwyfan ar-lein dwyieithog, wedi’i ddylunio i gynnwys trigolion yn y gwaith o ddatblygu a gwella mannau cyhoeddus ledled y sir.  Mae’r wefan yn adnodd sy’n canolbwyntio ar bobl, sy’n rhannu gwybodaeth am ddata a niferoedd, straeon am y gymuned a chynlluniau a gweledigaethau ar gyfer y dyfodol – Siapio Ceredigion | Creu Lleoedd Ceredigion.

Roedd artistiaid lleol sy’n siarad Cymraeg – yr awdur Hattie Morrison, yr artist gweledol Meinir Mathias a’r gwneuthurwr ffilmiau Heledd Wyn – yn rhan ganolog o’r prosiect.  Nid cyfoethogi’r broses na’i gwneud yn fwy pleserus oedd eu rôl; ond datgloi ffyrdd newydd o wrando, dysgu a deall.  Gyda’i gilydd, fe wnaethon nhw helpu cymunedau i archwilio naws am le a natur unigryw leol, gan greu lle i drigolion drafod gwahanol safbwyntiau, cydnabod pryderon cyffredin a dathlu’r hyn sy’n gwneud pob lle yn unigryw.

Daeth adrodd straeon yn broses ac yn ganlyniad. Gwahoddodd Hattie bawb i rannu straeon, myfyrdodau a dyheadau mewn ffordd syml ond ystyrlon: drwy eu hysgrifennu ar gardiau, a roddwyd mewn blwch mawr, clir, gan gynnig profiad cyffredin a chreu arddangosfa drawiadol o straeon wedi’u pentyrru a’u casglu, fel archif fyw o leisiau a momentau.

Defnyddiodd Hattie y cardiau a’r sgyrsiau hyn i ysgrifennu monolog ar gyfer pob pentref, gan gyfuno atgofion annwyl, straeon a llên gwerin lleol â phrofiadau bywyd, gobeithion a dyheadau.

Daeth Meinir â chreadigrwydd a chydweithio i galon y sesiynau cymunedol, gan feithrin awyrgylch agored a chroesawgar gyda phawb yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a chynnil.

Bu’r cyfranogwyr, gan gynnwys ysgolion cynradd lleol, yn gweithio gyda’i gilydd i greu map lliwgar ar raddfa fawr o bob lleoliad, drwy rannu’r gwaith o liwio, creu siapiau a gwneud marciau. Roedd y gweithiau celf cydweithredol hyn yn cyfleu hanfod pob lle – gan wneud ei rinweddau cynhenid yn fwy gweladwy a gwerthfawr, ac yn tynnu sylw at dirnodau allweddol a mannau cyfarfod ochr yn ochr ag ystyron dyfnach sy’n rhan annatod o bob cymuned.

Cafodd y broses ei chofnodi drwy fideo treigl amser a lluniau llonydd, gyda myfyrdodau fideo’n cael eu ffilmio gan Heledd. Roedd hyn yn cynnwys y lleisiau a’r straeon y tu ôl i’r gelfyddyd yn ogystal â’r gelfyddyd ei hun. Ffilmiodd Heledd, gyda chefnogaeth myfyrwyr cyfryngau israddedig, y naws ffisegol am le, a oedd yn dangos tirweddau cyferbyniol pob cymuned sy’n sail i’w hunaniaeth.

Roedd y gweithdai “meddwl drwy wneud” hyn yn annog creu ar y cyd a thynerwch ymgysylltu, a gwelwyd cymunedau’n archwilio hunaniaeth, cof, dyhead a naws am le mewn ffyrdd a oedd yn wahanol, yn ffres ac yn hygyrch i bob oed.  Yn bwysig, fe wnaethant greu lle ar gyfer lleisiau tawelach, gan arwain at gynlluniau cymunedol mwy cynrychioliadol.

Mae Llunio Lle yn cynnig model anogol ar gyfer creu lleoedd gwledig.  Mae’n cydnabod, pan fydd cymunedau’n cymryd rhan yn y gwaith o lunio eu lleoedd, bod eu cymhelliant yn aml yn cael ei sbarduno gan gysylltiad dwfn ac emosiynol â lle, cysylltiad sy’n cael ei blethu drwy straeon bywyd ar y cyd. Drwy ddatgelu’r naws dyfnach hwn am le, gallwn ddeall gwydnwch cymunedau gwledig yn well, a datgelu posibiliadau a chyfleoedd cynhenid yn hytrach na gorfodi ‘atebion’.

Yn hollbwysig, er bod creadigrwydd yn rhan annatod o fethodoleg y prosiect, ni ddylid cyfyngu celf i fod yn adnodd ymgysylltu. Yr hyn sy’n dod i’r amlwg o’r cynlluniau lleoedd sy’n cael eu datblygu yw bod cymunedau eu hunain yn gosod diwylliant fel seilwaith gwledig hanfodol, gyda hynny wedi’i wreiddio mewn dyheadau ar gyfer neuaddau pentref, gwasanaethau sylfaenol, gwelliannau amgylcheddol, dehongli treftadaeth a mentrau llesiant.

Mae’r newyddion a’r digwyddiadau
diweddaraf yn ein cylchlythyr

Cofrestrwch i gael clywed mwy gan Gomisiwn Dylunio Cymru.
Tanysgrifio