Newyddion
Written Statement: The Design Commission for Wales – New and Reappointed Board Members
Comisiwn Dylunio Cymru (DCfW) yw’r corff cynghori cenedlaethol ar gyfer hyrwyddo rhagoriaeth dylunio ar draws yr amgylchedd adeiledig. Sefydlwyd DCFW Ltd yn 2002 gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r rôl hon a helpu i wneud Cymru’n lle gwell.
Yn dilyn proses recriwtio agored, mae’n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Simon Jones, Simon Power, Zaynub Akbar a Barney Evans yn ymuno â bwrdd DCfW o 1 Ebrill 2025. Yn ogystal, yn dilyn adolygu’u perfformiad, bydd Jon James, Cora Kwiatkowski, Mike Biddulph a Joanne Rees yn cael eu hailbenodi i’w rolau ar y Bwrdd am bedair blynedd arall.
Rôl y Comisiwn yw hyrwyddo dylunio da ar draws pob sector, ar gyfer ein lleoedd, ein hadeiladau a’n mannau cyhoeddus ac i gyfathrebu manteision dylunio da ym mhobman i bawb. Gyda Bwrdd wedi’i adnewyddu sy’n meddu ar ystod eang o sgiliau a phrofiad perthnasol, rwy’n hyderus o gyfraniad DCfW i wella’r amgylchedd adeiledig ar draws pob sector dros y pedair blynedd nesaf.
Bydd y penodiad hwn yn para am bedair blynedd yn unol â’r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus (Saesneg yn unig), ac fe’i gwnaed ar sail teilyngdod yn dilyn proses agored, gystadleuol.petitive process.