HafanNewyddion a DigwyddiadauCreu’r Amodau ar gyfer Dylunio…

Digwyddiadau

Creu’r Amodau ar gyfer Dylunio Da: Gweithdy Datblygiad Proffesiynol Parhaus Tai Fforddiadwy

Ymunwch â Chomisiwn Dylunio Cymru ar gyfer gweithdy hanner diwrnod rhyngweithiol sy’n edrych ar sut gall cleientiaid greu’r amodau ar gyfer dylunio da yn ystod camau cynnar datblygu tai fforddiadwy.

Mae llawer o’r penderfyniadau sy’n cael y dylanwad mwyaf ar ansawdd tai fforddiadwy yn cael eu gwneud cyn bod tîm dylunio yn cael ei benodi. Gall deall potensial safle, sefydlu gweledigaeth glir a gwneud penderfyniadau cynnar ar sail gwybodaeth arwain at friffiau cryfach, canlyniadau dylunio gwell a lleoedd mwy llwyddiannus. Ymunwch â Chomisiwn Dylunio Cymru ar gyfer gweithdy hanner diwrnod rhyngweithiol sy’n edrych ar sut gall cleientiaid greu’r amodau ar gyfer dylunio da yn ystod camau cynnar datblygu tai fforddiadwy.

Gan ddefnyddio astudiaethau achos, ymweliad safle a gweithgareddau gweithdy sy’n canolbwyntio ar safle datblygu byw yng Nghaerdydd, bydd y rhai hynny sy’n cymryd rhan yn edrych ar pam mae penderfyniadau yn ystod y camau cynnar yn bwysig, sut gall dadansoddi safle a chyd-destun ddatgloi potensial o ran datblygu, sut i ddatblygu gweledigaeth glir ac egwyddorion dylunio, cryfhau briffiau prosiect, a chaffael a phenodi’r tîm dylunio cywir.

Rhaglen

Amser Sesiwn
09:15 Cyrraedd a lluniaeth
09:30 Dysgu o benderfyniadau dylunio cynnar
10:15 Ymweliad Safle Dan Arweiniad
11:15 Deall y safle a datblygu gweledigaeth
12:15 Datblygu’r briff a chaffael y tîm dylunio cywir
13:00 Cau

Mae’r gweithdy ar gyfer y rhai hynny sy’n ymwneud â chomisiynu a darparu tai fforddiadwy, gan gynnwys cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, yn enwedig y rhai hynny sy’n gyfrifol am lunio prosiectau, paratoi briffiau a phenodi timau dylunio.

Bydd y rhai hynny sy’n cymryd rhan yn gadael gydag adnoddau a syniadau ymarferol i helpu i lunio prosiectau tai fforddiadwy gwell o’r cychwyn cyntaf.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â connect@dcfw.org.

Mae’r newyddion a’r digwyddiadau
diweddaraf yn ein cylchlythyr

Cofrestrwch i gael clywed mwy gan Gomisiwn Dylunio Cymru.
Tanysgrifio