Newyddion
Sicrhau Proses Deg ac Effeithiol ar gyfer Adolygu Dyluniad
Nodyn gan ein Prif Weithredwr
Ar ôl ugain mlynedd a mwy o Adolygu Dyluniad, rydym ni’n parhau i fireinio ein dull gweithredu ac i ddysgu o brofiad. Er bod pob prosiect yn wahanol, mae nifer o egwyddorion allweddol yn sail i’n dull gweithredu ac yn helpu i sicrhau bod y broses yn deg ac yn effeithiol.
Wrth wraidd y broses Adolygu Dyluniad mae ein panelwyr a gweithwyr proffesiynol gweithredol o amrywiaeth o ddisgyblaethau, sydd wedi ymrwymo i wella ansawdd lleoedd yng Nghymru. Nid hyrwyddo barn bersonol, enw da proffesiynol, na dangos eu gwybodaeth eu hunain yw eu rôl, ond darparu cyngor gwybodus, gwrthrychol ac adeiladol. Yr un mor bwysig yw eu gallu i gyfathrebu’n glir a sensitif, gan greu amgylchedd lle gall deialog agored ffynnu. Rydym ni’n mawr werthfawrogi cyfraniad ein panelwyr yn hyn o beth.
Mae deall cyd-destun yn hanfodol i bob adolygiad. Mae hyn yn ymestyn y tu hwnt i’r nodweddion ffisegol sydd i safle, ac yn cynnwys uchelgeisiau’r cleient, amcanion y prosiect, trefniadau cyllido, cyd-destun gwleidyddol a chyfyngiadau o ran cyflawni. Mae cymryd yr amser i ddeall y dylanwadau ehangach hyn yn helpu i sicrhau bod trafodaethau’n seiliedig ar realiti’r prosiect.
Rhan ganolog o’r broses yw rhoi cyfle i dîm y prosiect egluro’r meddylfryd y tu ôl i’w cynigion. Yn anaml iawn y mae deunydd cyflwyno ar ei ben ei hun yn adrodd y stori gyfan, ac mae trafodaeth yn aml yn datgelu’r rhesymeg dros benderfyniadau nad ydynt o bosibl yn amlwg ar unwaith. Drwy ofyn cwestiynau, ystyried gwahanol safbwyntiau, a chaniatáu digon o amser i sgwrsio, rydym ni’n osgoi ffurfio barn yn rhy gyflym. Mae safbwyntiau cychwynnol yn aml yn esblygu drwy drafodaeth, gan arwain at adborth mwy cytbwys a gwybodus. Ategir hyn gan waith paratoi trylwyr, gydag aelodau’r panel yn adolygu’r deunydd cyn y cyfarfod.
Nid yw ein hadolygiadau’n seiliedig ar gwestiynau goddrychol ynghylch a yw’r panel yn hoffi cynnig ai peidio. Yn hytrach, rydym ni’n ystyried a yw’r dyluniad yn ymateb yn briodol i’w gyd-destun, a yw’n dangos naratif dylunio clir a chydlynol, ac a yw’n debygol o ddarparu lleoedd llwyddiannus. Mae hyn yn helpu i gynnal dull gwrthrychol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
Yn y pen draw, mae effeithiolrwydd Adolygu Dyluniad yn dibynnu ar gyfathrebu. Nid darparu barn arbenigol yn unig yw ein rôl, ond hwyluso a threfnu trafodaeth gynhyrchiol lle mae pob safbwynt yn cael ei glywed a’i ystyried. Mae angen mynegi adborth yn glir, ond yr un mor bwysig, mae angen ei dderbyn yn adeiladol gan y cleient a’r tîm dylunio er mwyn gallu cynnal deialog ystyrlon. Ein nod bob amser yw nodi beth yw cryfderau cynnig a beth yw’r meysydd lle byddai ystyriaeth neu fireinio pellach yn fuddiol, gan ddarparu cyngor gonest, cadarn ac adeiladol sy’n cefnogi penderfyniadau gwell ac, yn y pen draw, lleoedd gwell.