Newyddion
Creu Lleoedd a Phwysigrwydd Sgiliau Dylunio Trefol
Adfywio Neuadd y Farchnad Aberteifi: dathlu hunaniaeth leol drwy dreftadaeth a diwylliant sy’n benodol i le (Delwedd: Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi)
Mae’r erthygl hon, a ysgrifennwyd gan Louise Thomas ar ran yr Urban Design Group, yn archwilio sut mae sgiliau dylunio trefol yn sail i greu lleoedd effeithiol sy’n canolbwyntio ar bobl.
Mae creu lleoedd yn ddull gweithredu sy’n cael ei arwain gan bobl i fynd i’r afael â’r gwaith o gynllunio, dylunio a rheoli mannau cyhoeddus ar gyfer pobl, cymunedau a hunaniaeth leol. Yn hytrach na dechrau gydag adeiladau, modelau traffig neu werthoedd tir, mae creu lleoedd yn dechrau drwy ofyn sut gall lleoedd weithio orau i bobl. Wrth gwrs, rydym yn cynnwys natur yn hyn, gan ein bod yn gwybod bod rhyngweithio â natur yn hanfodol i lesiant pobl, heb sôn am fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae’r dull hwn hefyd yn hanfodol i ddylunio trefol, gan roi pobl a’r ffordd rydym yn defnyddio ac yn profi lleoedd wrth galon dylunio. Fel dywed y dylunydd trefol Joe Holyoak yn Urban Design, cyfnodolyn chwarterol yr Urban Design Group “Lle = Gofod + Defnydd”.
Yn amlwg, mae sgiliau dylunio trefol yn cael eu dysgu mewn prifysgolion, ond mae pob un ohonom yn arsylwi ac yn profi dylunio trefol da neu wael yn ddyddiol, a dyna pam mae gwrando ar gymunedau lleol mor bwysig wrth wneud cynlluniau ar gyfer newid. Sgil allweddol arall ym maes dylunio trefol yw gallu gweithio gydag eraill i edrych ar yr haenau niferus sy’n bodoli mewn lleoedd trefol – boed y rhain yn fannau gwyrdd, rhwydweithiau symud, defnydd tir neu fwy – i weld beth yw cryfderau presennol lle, yn ogystal â’r bylchau neu’r gwendidau i’w gwella.

Yng ngwaith diweddar yr Urban Design Group gyda rhai o brif ddatblygwyr y DU ynghylch y ffordd gall dylunio trefol wella lleoedd newydd neu leoedd sy’n bodoli eisoes, maen nhw’n glir nad yw “dylunio trefol yr un fath â phensaernïaeth neu bensaernïaeth tirwedd, ac.. mae’n fwy nag uwchgynllunio,” gan weld dylunio trefol fel “gwyddoniaeth a chelf… rhesymeg a hud ”.
Mae gallu’r dylunydd trefol i greu gweledigaeth o le gwell yn dwyn ynghyd y sgiliau gwrando ac arsylwi hyn gyda sgiliau lluniadu ac adrodd straeon, fel y gellir dal dyheadau cyffredin a’u troi’n strategaethau cymhellol, cyfannol. Fodd bynnag, mae datblygwyr hefyd yn disgrifio gwaith dylunwyr trefol fel “troi gweledigaethau’n gynlluniau hyfyw” sy’n gofyn am un sgil allweddol ychwanegol: nodi polisïau clir ac ymarferol a diffinio prosiectau allweddol, a fydd yn rhoi hwb cychwynnol i’r broses o newid.
