HafanGwybodaethPam mae dylunio yn bwysig

Pam mae dylunio yn bwysig

Mae dylunio’n effeithio ar bob un ohonom bob dydd. Mae dyluniad da yn gwneud popeth yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy dymunol i bawb.

Credyd delwedd © Hawlfraint Jen Heal, DCFW

Mae dylunio da yn hanfodol i greu lleoedd da, datblygu cynaliadwy, cynhwysiant cymdeithasol a rhoi gwerth cyhoeddus hirdymor. Mae’n manteisio i’r eithaf ar ddefnydd effeithlon o dir ac adnoddau eraill, yn cyfrannu at weithlu medrus ac yn cyflawni ansawdd amgylcheddol gwell er mwyn sicrhau ansawdd bywyd a llesiant gwell i bobl Cymru.

Mae amgylchedd adeiledig sydd wedi’i ddylunio a’i gysylltu’n dda yn rhoi dewisiadau teithio a thrafnidiaeth i bobl, yn cynnig mynediad rhwydd at gyfleoedd gofal iechyd, addysg a gwaith, mae’n gynhwysol ac yn hawdd i bawb ei ddefnyddio, mae’n llawn lleoedd dymunol a phleserus i fyw ynddynt.

Mae dylunio da yn bwysig oherwydd ei fod yn gwneud y canlynol:

  • Symleiddio cymhlethdodau
  • Gwneud lleoedd, cynnyrch ac adeiladau’n fwy deniadol
  • Canolbwyntio ar wneud pethau’n hawdd i’w defnyddio, yn hygyrch ac yn gynhwysol
  • Defnyddio adnoddau ac ynni’n effeithlon
  • Lleihau risgiau, gwastraff a chostau oherwydd camgymeriad neu newid heb ei gynllunio
  • Ychwanegu gwerth ac yn gwella budd y cyhoedd

Mae prosesau ac arferion amgylchedd adeiledig yn gyfrifol yn uniongyrchol am oddeutu 25% o ôl troed carbon y DU – mae hyn yn codi i 42% os ydym yn cynnwys trafnidiaeth arwyneb.

— UKGBC, 2022

Mae prosesau ac arferion amgylchedd adeiledig yn gyfrifol yn uniongyrchol am oddeutu 25% o ôl troed carbon y DU – mae hyn yn codi i 42% os ydym yn cynnwys trafnidiaeth arwyneb (UKGBC, 2022); Gwaith adeiladu, dymchwel a chloddio sy’n cynhyrchu dros 60% o gyfanswm gwastraff y DU (Llywodraeth y DU, 2022). Mae echdynnu deunyddiau a mwynau yn disbyddu mwy fyth o adnoddau y mae pen draw iddynt, ac mae’n newid amodau amgylcheddol yn sylweddol – llwybrau afonydd, sefydlogrwydd tirffurfiau, ansawdd yr aer rydym yn ei anadlu.

Mae astudiaethau yn y DU a rhai Rhyngwladol sy’n datgelu achosion a chostau gwallau adeiladu y gellid bod wedi’u hosgoi yn cyfeirio at fethiannau ar gamau dylunio’r rhan fwyaf o brosiectau gan nodi bod ‘costau uniongyrchol y gwallau y gellid bod wedi eu hosgoi a fesurwyd yn cyfrif am tua 5% o werth y prosiectau hynny, sy’n cyfateb i tua £5 biliwn y flwyddyn ar draws y sector adeiladu yn y DU – sy’n uwch na lefelau elw cyfartalog ar draws y diwydiant (tua 3%). Mae’r sefyllfa’n gwaethygu’n sylweddol pan fyddwn yn cynnwys costau anuniongyrchol a rhai heb eu mesur, ac mae amcangyfrifon o gyfanswm y costau’n amrywio rhwng 10% a 25% o gost y prosiect neu rhwng £10 a 25 biliwn y flwyddyn ar draws y sector (ffynhonnell GIRI UK).

Yn y camau dylunio y mae saith o’r deg prif reswm gwirioneddol dros gamgymeriadau costus y gellir eu hosgoi a nodwyd yn yr ymchwil – sy’n ganran o saith deg y cant. Mae ffactorau allweddol yn eu plith – diffyg amser ar gyfer dylunio a diwylliant gwael mewn perthynas ag ansawdd.

Yn 2019, roedd y sector dylunio yn gyfrifol am fwy na £70bn mewn allforion, gan gynnwys gwaith a gomisiynwyd ar gyfer prosiectau tramor o’r DU.

— Cyngor Dylunio, 2022

Dangosodd adroddiad Design Economy: People, Places and Economic Value 2022 werth yr economi ddylunio i Gymru a’r DU. Mae’r adroddiad yn datgelu bod yr economi dylunio yn tyfu ddwywaith yn gynt na chyfartaledd y DU, gan gyfrannu £97.4bn mewn Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) i economi’r DU, gyda chynnydd o 18% yng Ngwerth Ychwanegol Gros Cymru, a gododd i £2 biliwn. Mae’r data hefyd yn datgelu diwydiant sylweddol a medrus, sy’n cyflogi 1.97 miliwn o bobl – un o bob ugain o weithwyr – yn y DU yn 2020, gan gynnwys pensaernïaeth, dylunio cynnyrch, ffasiwn, dylunio digidol, crefft a graffeg ynghyd â’r rheini sy’n gweithio mewn swyddi dylunio gwasanaethau mewn sectorau eraill, fel y GIG a gwasanaethau ariannol. Yn 2019, roedd y sector dylunio yn gyfrifol am fwy na £70bn mewn allforion, gan gynnwys gwaith a gomisiynwyd ar gyfer prosiectau tramor o’r DU.

Mae graddfa’r hyn y mae angen i’r DU ei ddylunio – a’i ail-ddylunio – i gyrraedd targedau sero net erbyn 2050 yn enfawr. Mae dylunwyr yn dod â gwerth aruthrol mewn sawl ffordd – siapio gwasanaethau a mannau cyhoeddus, creu cartrefi a chymdogaethau o ansawdd da, ac mae ganddynt rôl hollbwysig mewn sawl disgyblaeth, gan sicrhau y gall ein hamgylchedd adeiledig a’n seilwaith trafnidiaeth yn ei gyfanrwydd, sicrhau ansawdd a manteision ehangach i’r cyhoedd.