Comisiwn Dylunio Cymru (DCFW Ltd) yw’r corff cynghori cenedlaethol sy’n hyrwyddo rhagoriaeth dylunio ar draws amgylchedd adeiledig Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i wneud Cymru yn lle gwell i bawb.
Ein rôl yw hyrwyddo dyluniad da ar draws pob sector, ar gyfer ein lleoedd, ein hadeiladau a’n mannau cyhoeddus, a chyfleu manteision dyluniad da ym mhob man i bawb, gyda chefnogaeth ein panel o 35 o weithwyr proffesiynol annibynnol, blaenllaw ym maes amgylchedd adeiledig.
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau sy’n ymwneud â dylunio, ac yn cefnogi awdurdodau lleol, datblygwyr a gweithwyr proffesiynol yn yr amgylchedd adeiledig i ddarparu lleoedd sydd wedi’u dylunio’n dda.
Rydym yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus mewn dylunio a chreu lleoedd gyda hyfforddiant a digwyddiadau, rhwydweithiau amgylchedd adeiledig trawsddisgyblaethol unigryw, a chanllawiau arbenigol.
Mae ein gwasanaethau arbenigol a’n Hadolygiad Dylunio dan arweiniad cymheiriaid yn cryfhau datblygiadau mawr neu fach ar bob cam: o gynigion ar gyfer unedau diwydiannol i uwchgynlluniau lleol ac o friffiau datblygu ar gyfer cymdogaethau newydd i seilwaith trafnidiaeth ac ynni cenedlaethol hirdymor.
-
Pam mae dylunio yn bwysig
Mae dylunio’n effeithio ar bob un ohonom bob dydd. Mae dyluniad da yn gwneud popeth yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy dymunol i bawb.
-
Panel adolygu dyluniadau
Mae Panel Adolygu Dyluniadau Comisiwn Dylunio Cymru yn cynnwys dros 30 o arbenigwyr amgylchedd adeiledig annibynnol.
-
Y Bwrdd a’r staff
Cwrdd â’n Cadeirydd a’n Bwrdd Cyfarwyddwyr ynghyd â’n Tîm Staff.