Digwyddiadau
Gweminar Strategol Creu Lleoedd | Ailfeddwl Sut Rydyn ni’n Cynllunio ar gyfer Twf
Mae’r digwyddiad hwn eisoes wedi digwydd
You can read all about the event in our news article.
Gweithdy Creu Lleoedd Strategol
Ymunwch â ni ar weminar a fydd yn myfyrio ar ganfyddiadau a’r hyn a ddysgwyd o’n Prosiect Creu Lleoedd Strategol.
Roedd y prosiect yn cynnwys gweithio gydag wyth awdurdod cynllunio mewn 16 o drefi a chymdogaethau ledled Cymru i brofi dull cydweithredol sy’n seiliedig ar le er mwyn canfod cyfleoedd datblygu mewn aneddiadau sydd eisoes yn bodoli.
Bydd y weminar yn dwyn ynghyd safbwyntiau Comisiwn Dylunio Cymru, yr awdurdodau cynllunio a oedd wedi cymryd rhan a Llywodraeth Cymru. Drwy fyfyrdodau byr, trafodaethau a holi ac ateb, byddwn yn edrych ar yr hyn a ddysgwyd o’r prosiect, y cyfleoedd a’r rhwystrau, a sut gallai dull cynllunio rhagweithiol sy’n seiliedig ar le helpu i siapio twf yn y dyfodol.
Mae’r weminar i’r rhai sy’n ymwneud â chynllunio, creu lleoedd, tai, adfywio a datblygu.
Rhaid archebu lle.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â connect@dcfw.org.
Digwyddiadau sydd ar y gweill
Nid oes unrhyw ddigwyddiadau wedi’u hamserlennu ar hyn o bryd. Cewch wybod am ddigwyddiadau newydd trwy danysgrifio i’n cylchlythyr.
Cofrestrwch i’n cylchlythyr