HafanTelerau defnyddio’r wefan

Telerau defnyddio’r wefan

Darparwyd gwefan Comisiwn Dylunio Cymru er hwylustod i chi. Os byddwch yn parhau i ddefnyddio’r safle, rydych yn cytuno i lynu wrth Delerau’r Wefan, ac i gydymffurfio â nhw, gan eu bod, ynghyd â’n Polisi Preifatrwydd, yn darparu’r rheolau sy’n rheoli defnydd o’r safle hwn. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni.

Mae cynnwys gwefan Comisiwn Dylunio Cymru er gwybodaeth gyffredinol i chi, a gall newid heb rybudd.

Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd sy’n eiddo i DCFW Ltd, ac sydd wedi’i drwyddedu neu ei awdurdodi i’w ddefnyddio ganddo. Mae hyn yn ymwneud â chynnwys, cynllun, dyluniad, ymddangosiad a graffeg, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.

Gwaherddir copïo neu atgynhyrchu unrhyw gynnwys heb ganiatâd ysgrifenedig penodol Comisiwn Dylunio Cymru. Gall rhywfaint o’r cynnwys fod dan hawlfraint partneriaid neu sefydliadau eraill ac ni chaniateir ei gopïo, ei atgynhyrchu na’i ddefnyddio at ddibenion eraill.

Os ydych chi’n defnyddio unrhyw wybodaeth o’r wefan hon, mae’n rhaid cyfeirio ati’n briodol (www.dcfw.org). Cysylltwch â ni os nad ydych chi’n siŵr am hawlfraint neu awdurdodiad.

Rydym wedi trosglwyddo gwybodaeth o’n gwefan flaenorol ac rydym yn ymwybodol y gallai’r credyd anghywir fod wedi’i briodoli i rai lluniau. Os mai chi yw perchennog hawlfraint llun o’r fath, cysylltwch â ni fel bod modd i ni ddiwygio’r wybodaeth sy’n gysylltiedig ag ef. Eiddo a hawlfraint Comisiwn Dylunio Cymru yw’r holl luniau nad ydynt yn dangos manylion penawdau.

Ni chaniateir copïo na defnyddio logo Comisiwn Dylunio Cymru a/neu logos eraill sydd wedi’u cynnwys neu y gellir cael gafael arnynt ar ein gwefan heb gael caniatâd ymlaen llaw gan Gomisiwn Dylunio Cymru neu berchennog perthnasol yr hawlfraint. Dylid gwneud cais i ddefnyddio logo Comisiwn Dylunio Cymru drwy ein tudalen gyswllt.

Gall y wefan gynnwys dolenni at wefannau eraill. Diben y rhain yw darparu rhagor o wybodaeth. Nid ydym yn cymeradwyo’r wefan/nau y maent yn cyfeirio ati/atynt ac nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys na pholisi preifatrwydd y wefan gysylltiedig.

Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn ceisio sicrhau bod y swyddogaethau ar y wefan hon yn ddi-dor ac yn rhydd o wallau, a bod diffygion yn cael eu cywiro cyn gynted â phosibl ac nad oes firysau ar y safle. Ni fydd DCFW Ltd yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o ddefnyddio gwefan Comisiwn Dylunio Cymru, neu mewn cysylltiad â hynny.