Eich helpu i gael y gorau o’ch prosiect
Os ydych chi’n cynllunio prosiect newydd, gallwn ni eich helpu i sicrhau dyluniad da a gwerth am arian yn ogystal â gwerth cyhoeddus. Er bod modd i ni helpu ar unrhyw adeg, mae cyfranogiad cynnar yn cryfhau’r gallu i sicrhau’r tri pheth hynny.
Gallwn eich helpu i nodi manylion yr her, datblygu briff eich prosiect a’r gyllideb ar gyfer cais am gyllid neu gystadleuaeth ddylunio, a chefnogi eich prosesau caffael a dewis tîm dylunio, yn ogystal ag uwchsgilio eich tîm mewnol i reoli’r prosiect.
Rydym yn gweithio gyda chomisiynwyr, awdurdodau lleol, cyrff elusennol, sefydliadau’r sector cyhoeddus, grwpiau cymunedol, buddsoddwyr a datblygwyr i lywio’r broses ddylunio i sicrhau rhagoriaeth wrth gyflawni unrhyw fath o brosiectau amgylchedd adeiledig, gan wneud yn siŵr bod creu lleoedd cynaliadwy wrth galon pob un ohonynt.
Mae llwyddiant unrhyw brosiect yn y tymor hir yn dibynnu ar ymgysylltu ymlaen llaw. Gallwn hwyluso gweithdai sy’n ychwanegu gwerth ac sy’n eich helpu i arbed amser a newidiadau costus yn nes ymlaen.
Defnyddiwch y ffurflen isod i anfon neges e-bost atom sy’n cynnwys crynodeb o’ch prosiect i gael gwybod sut gallwn ni helpu.
Cyfle i drafod
Mae’n hawdd cysylltu â ni a thrafod sut y gallwn ni eich helpu chi.
Cysylltwch â ni
Gwasanaethau eraill
-
Adolygu dyluniadau
Mae ein gwasanaeth adolygu dyluniadau ar gael i gleientiaid, datblygwyr, dylunwyr, awdurdodau cynllunio, rhanddeiliaid, cyrff cyhoeddus eraill, grwpiau cymunedol neu aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno cael barn arbenigol annibynnol. Gallwn helpu i nodi cyfleoedd cynnar ar gyfer ansawdd dylunio da mewn cynigion datblygu ymhell cyn cyflwyno cais cynllunio a helpu awdurdodau lleol i sicrhau gwerth cyhoeddus drwy ragoriaeth dylunio.
-
Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Mae hyfforddiant pwrpasol ar gyfer awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, a grwpiau trydydd sector ar gael gan Gomisiwn Dylunio Cymru. Mae’r pynciau'n cynnwys cynaliadwyedd, creu lleoedd ac asesu dyluniadau. Byddwn yn hapus i siarad â chi am eich anghenion penodol o ran hyfforddiant.