Enw cofrestredig:
DCFW Ltd
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth y gallech ddisgwyl i ni ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonol.
- Manylion cyswllt
- Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu a’i defnyddio, a pham
- Seiliau cyfreithlon a hawliau diogelu data
- O ble rydym yn cael gwybodaeth bersonol
- Am ba mor hir rydym yn cadw gwybodaeth
- Sut mae cwyno
Manylion cyswllt
Post
Comisiwn Dylunio Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL
Ffôn
+44 (0)29 2045 1964
E-bost
Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu a’i defnyddio, a pham
Rydym yn casglu neu’n defnyddio’r wybodaeth ganlynol i gynnig gwasanaethau a nwyddau, gan gynnwys darparu:
- Enwau a manylion cyswllt
- Gwybodaeth i ddefnyddwyr y wefan (gan gynnwys teithiau defnyddwyr ac olrhain cwcis)
- Gwybodaeth sy’n ymwneud â chwynion neu ganmoliaeth
Rydym yn casglu neu’n defnyddio’r wybodaeth ganlynol at ddibenion marchnata neu ddiweddariadau i’r gwasanaeth:
- Enwau a manylion cyswllt
- Cofnodi cydsyniad, lle bo hynny’n briodol
Rydym yn casglu neu’n defnyddio’r wybodaeth ganlynol ar gyfer ymdrin ag ymholiadau, cwynion neu hawliadau:
- Enwau a manylion cyswllt
Seiliau cyfreithlon a hawliau diogelu data
O dan gyfraith diogelu data y DU, mae’n rhaid i ni gael “sail gyfreithlon” ar gyfer casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Mae rhestr o seiliau cyfreithlon posibl yn DGPR y DU. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am seiliau cyfreithlon ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Gall pa bynnag sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni effeithio ar eich hawliau diogelu data sydd wedi’u nodi’n gryno isod. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am eich hawliau diogelu data a’r esemptiadau a all fod yn berthnasol ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Eich hawl i gael mynediad – Mae gennych chi hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol. Gallwch ofyn am wybodaeth arall fel manylion ynghylch ble rydym yn cael gwybodaeth bersonol a gyda phwy rydym yn rhannu gwybodaeth bersonol. Mae rhai eithriadau, sy’n golygu efallai na fyddwch chi’n cael yr holl wybodaeth rydych chi’n gofyn amdani.
Eich hawl i gywiro – Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gywiro neu ddileu gwybodaeth bersonol sy’n anghywir neu’n anghyflawn yn eich barn chi.
Eich hawl i ddileu – Mae gennych chi hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych chi hawl i ofyn i ni gyfyngu ar sut gallwn ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych chi hawl i wrthwynebu i ni brosesu eich data personol.
Eich hawl i gludadwyedd data – Mae gennych chi hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth bersonol rydych chi wedi’i rhoi i ni i sefydliad arall, neu i chi.
Eich hawl i dynnu cydsyniad yn ôl – Pan fyddwn yn defnyddio cydsyniad fel sail gyfreithlon, mae gennych chi hawl i dynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.
Os byddwch chi’n gwneud cais, mae’n rhaid i ni ymateb heb ormod o oedi a beth bynnag cyn pen mis.
I wneud cais hawliau diogelu data, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar frig yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Ein seiliau cyfreithlon ar gyfer casglu a defnyddio eich data
Dyma ein seiliau cyfreithlon dros gasglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau a nwyddau:
- Buddiannau dilys – rydym yn casglu neu’n defnyddio eich gwybodaeth oherwydd bod hynny o fudd i chi, ein sefydliad neu rywun arall, heb achosi perygl gormodol o niwed i unrhyw un. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio’r hawl i gludadwyedd. Dyma ein buddiannau dilys:
- Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol i ymateb i berson os bydd cwyn neu ymholiad am weithgareddau a gwasanaethau Comisiwn Dylunio Cymru neu pan dderbynnir ymholiad am ddarparu gwasanaethau.
Dyma ein seiliau cyfreithlon ar gyfer casglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata neu ddiweddariadau i’r gwasanaeth:
Cydsyniad – rydych wedi rhoi caniatâd i ni ar ôl i ni roi’r holl wybodaeth berthnasol i chi. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio’r hawl i wrthwynebu. I fod yn glir, mae gennych chi hawl i dynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.
Dyma ein seiliau cyfreithlon ar gyfer casglu neu ddefnyddio gwybodaeth bersonol ar gyfer ymdrin ag ymholiadau, cwynion neu hawliadau:
Cydsyniad – rydych wedi rhoi caniatâd i ni ar ôl i ni roi’r holl wybodaeth berthnasol i chi. Gall eich holl hawliau diogelu data fod yn berthnasol, ac eithrio’r hawl i wrthwynebu. I fod yn glir, mae gennych chi hawl i dynnu cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg.
O ble rydym yn cael gwybodaeth bersonol
- Yn uniongyrchol gennych chi
Am ba mor hir rydym yn cadw gwybodaeth
Bydd Comisiwn Dylunio Cymru yn cadw gwybodaeth bersonol mewn perthynas ag ymholiadau, cwynion a hawliadau am 12 mis ar ôl datrys y mater.
Bydd gwybodaeth bersonol ar gyfer darparu diweddariadau i wasanaethau neu at ddibenion marchnata’n cael ei chadw am gyfnod amhenodol nes byddwch chi’n gofyn i ni ei dileu ac nad ydych chi’n dymuno cael diweddariadau a hysbysiadau am ddigwyddiadau mwyach.
Bydd gwybodaeth bersonol ar gyfer darparu gwasanaethau a nwyddau yn cael ei chadw am gyfnod o 12 mis ar ôl i’r ddarpariaeth ddod i ben.
Sut mae cwyno
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am ein defnydd o’ch data personol, gallwch chi wneud cwyn i ni drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar frig yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Os ydych chi’n dal i fod yn anhapus â’r ffordd rydym wedi defnyddio eich data ar ôl gwneud cwyn, gallwch hefyd gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cyfeiriad Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif y llinell gymorth: +44 (0)30 3123 1113
Gwefan: https://www.ico.org.uk/make-a-complaint
Diweddarwyd ddiwethaf
21 Hydref 2024