Newyddion
Swyddog Cyfathrebu Cyfle Swydd
- 3 diwrnod yr wythnos
- Contract cyfnod penodol o 18 mis
- £30k pro rata y flwyddyn
Mae gan Gomisiwn Dylunio Cymru negeseuon pwysig i’w rhannu a chyfoeth o straeon i’w hadrodd – mae arnom angen rhywun sy’n gallu dod â’r rhain yn fyw i amrywiaeth o gynulleidfaoedd.
Mae rôl y Swyddog Cyfathrebu yn swydd newydd a fydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sefydlu strategaeth gyfathrebu a chreu cynnwys yn seiliedig ar y gwaith mae Comisiwn Dylunio Cymru yn ei wneud i hyrwyddo dylunio da yn yr amgylchedd adeiledig.
I gyflawni’r swydd hon, bydd gennych brofiad o gyfathrebu corfforaethol a byddwch yn gallu ymgysylltu drwy amrywiaeth o gyfryngau a sefydlu llais ar gyfer sefydliad.
Bydd y Swyddog Cyfathrebu yn chwarae rhan allweddol mewn tîm bach o staff a rhaid iddo neu iddi allu gweithio’n agos gyda chydweithwyr a phartneriaid eraill i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel gydag adnoddau cyfyngedig.
Lawrlwythwch ddisgrifiad y swydd am fanylion llawn a sut i ymgeisio.
Cau’r cais am 5pm Dydd Iau 2 Gorffennaf 2026.