HafanHygyrchedd

Hygyrchedd

Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’n gwefan https://dcfw.org.

Mae’r wefan yn cael ei rhedeg gan Gomisiwn Dylunio Cymru. Rydym am weld cymaint o bobl â phosibl yn gallu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau’r porwr neu’r ddyfais
  • chwyddo i mewn hyd at 400% a bod y testun i gyd yn dal i ffitio ar y sgrin
  • symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau mwyaf diweddar o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae cyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd ar gael ar AbilityNet.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn ymwybodol nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid oes modd addasu uchder llinellau na’r bwlch rhwng y testun
  • nid yw pob math o feddalwedd darllen sgrin yn gallu delio â llawer o hen ddogfennau PDF yn dda iawn

Gwybodaeth gyswllt ac adborth

Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu nodi ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Os hoffech chi gael gwybodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat arall, cysylltwch â ni.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os nad ydych chi’n gallu gweld y map ar ein tudalen ‘cysylltu’, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom i gael cyfarwyddiadau.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Comisiwn Dylunio Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Cafodd y wefan ei phrofi yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2, o ganlyniad i’r ‘materion sydd ddim yn cydymffurfio a’r esemptiadau’ a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Mae’r cynnwys sy’n cael ei restru isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol:

Diffyg cydymffurfiad â rheoliadau hygyrchedd

Nid oes testun ar gael yn lle rhai o’r lluniau, felly nid oes modd i bobl sy’n defnyddio darllenydd sgrin gael gafael ar yr wybodaeth honno. Mae hwn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 (cynnwys heb fod yn destun).

Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o luniau yn bodloni safonau hygyrchedd.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn mynnu ein bod yn trwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd y byddwn yn eu cyhoeddi yn bodloni safonau hygyrchedd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 29 Gorffennaf 2025. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 29 Gorffennaf 2025.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 29 Gorffennaf 2025 yn erbyn safon AA WCAG 2.2.

Cynhaliwyd y prawf gan Hybrid Studio Ltd. Cafodd y tudalennau yr edrychir arnynt amlaf eu profi gan dîm ein gwefan drwy ddefnyddio offer profi awtomataidd. Cynhaliwyd archwiliad pellach o’r wefan yn unol â safon AA WCAG 2.2.