HafanNewyddion a DigwyddiadauYmweliad Safle Gwynfaen: Archw…

Digwyddiadau

Ymweliad Safle Gwynfaen: Archwilio dyluniad a darpariaeth datblygiad tai carbon isel deiliadaeth cymysg

Ymunwch â Chomisiwn Dylunio Cymru a Codi ar ymweliad safle i archwilio dyluniad a darpariaeth Gwynfaen, datblygiad tai carbon isel ym Mhenyrheol, Abertawe.

Gan ddechrau yn ffatri SO Modular factory lle cafodd y tai eu cynhyrchu, bydd yr ymweliad yn cynnwys cyflwyniad gan Codi, taith fer o amgylch y ffatri i weld y broses adeiladu pren modiwlaidd ac ymweliad dan arweiniad â’r datblygiad gorffenedig yng Ngwynfaen.

Bydd y cyfranogwyr yn clywed sut cafodd y weledigaeth wreiddiol ei datblygu a’i throsi drwy’r broses ddylunio, cynllunio caffael ac adeiladu, gan gynnwys y dull o greu lleoedd, tirwedd seilwaith gwyrdd, draenio cynaliadwy ac ynni carbon isel. Bydd y sesiwn hefyd yn gyfle i drafod beth weithiodd yn dda, yr heriau a wynebwyd a sut yr aethpwyd i’r afael â nhw, a’r gwersi a all lywio prosiectau tai fforddiadwy yn y dyfodol.

Ar ôl yr ymweliad, mae croeso i gyfranogwyr ymuno â ni am ginio a thrafodaeth anffurfiol yn Coffi @ The Foundry rhwng 1.15pm a 2.30pm. Ond, mae hynny’n ddewisol a nhw fydd yn talu am eu pryd.

Rhaglen

Amser Sesiwn
09:15 Cyrraedd a lluniaeth
09:30 Cyflwyniad gan Gomisiwn Dylunio Cymru a Codi
10:00 Taith o amgylch y ffatri adeiladu modiwlaidd
10:30 Teithio i Gwynfaen
11:00 Ymweliad Safle Dan Arweiniad
12:45 Trafodaethau grŵp
13:00 Cau
13:15 Cinio yn Coffi @ The Foundry (dewisol)

Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael i gynrychiolwyr sefydliadau sy’n ymwneud â chomisiynu a darparu tai fforddiadwy – uchafswm o ddau gyfranogwr o bob sefydliad.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â connect@dcfw.org.

Mae’r newyddion a’r digwyddiadau
diweddaraf yn ein cylchlythyr

Cofrestrwch i gael clywed mwy gan Gomisiwn Dylunio Cymru.
Tanysgrifio