HafanNewyddion a DigwyddiadauCreu’r Amodau ar gyfer Dylunio…

Digwyddiadau

Creu’r Amodau ar gyfer Dylunio Da | Gweithdy Tai Fforddiadwy

Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy hanner diwrnod rhyngweithiol a fydd yn edrych ar sut gall cleientiaid greu’r amodau ar gyfer dylunio da yn ystod camau cynnar datblygiadau tai fforddiadwy.

Mae llawer o’r penderfyniadau sy’n cael y dylanwad mwyaf ar ansawdd tai fforddiadwy yn cael eu gwneud cyn penodi tîm dylunio. Mae datblygu dealltwriaeth glir o’r bobl a’r lle, sefydlu gweledigaeth ar y cyd ac egwyddorion prosiect, a sicrhau bod y broses gaffael yn adlewyrchu’r uchelgeisiau hynny, yn gallu creu sylfeini cryfach ar gyfer prosiectau llwyddiannus.

Yn dilyn yr ymateb cadarnhaol i’n gweithdy cyntaf ym mis Gorffennaf, rydym yn cynnal sesiwn arall yng Nghaerdydd. Drwy gyflwyniadau, ymweliad safle, ymarferion grŵp ymarferol a thrafodaeth, bydd y cyfranogwyr yn trin ac yn trafod rhai o’r elfennau allweddol sy’n gallu cyfrannu at friff prosiect cryf a chefnogi canlyniadau dylunio gwell.

Gan ddefnyddio safle datblygiad ym Mae Caerdydd fel astudiaeth achos, bydd y cyfranogwyr yn pwyso ac yn mesur anghenion trigolion y dyfodol a’r gymuned bresennol, yn archwilio cyfleoedd a chyfyngiadau’r safle, ac yn defnyddio egwyddorion creu lleoedd i ddatblygu gweledigaeth ac egwyddorion prosiect sy’n benodol i’r safle. Bydd y gweithdy hefyd yn gyfle i rannu profiadau o gaffael timau dylunio ac i ystyried a yw prosesau caffael yn cefnogi’r uchelgeisiau dylunio a sefydlir drwy’r briff.

Mae’r gweithdy’n defnyddio Siarter Creu Lleoedd Cymru a’n Canllaw Dadansoddi Safle a Chyd-destun a’n Canllaw Cyflwyniad Ysgrifennu Briff, ochr yn ochr â’n profiad o’r Adolygiad Dylunio a chefnogi prosiectau tai fforddiadwy.

Rhaglen

Amser Sesiwn
09:15 Cyrraedd a lluniaeth
09:30 Rôl y cleient a briff y prosiect
10:10 Ymweliad safle
11:10 Creu lleoedd
11:40 Datblygu gweledigaeth ac egwyddorion prosiect
12:10 Penodi’r tîm dylunio
12:30 Casgliad
13:00 Cau

Mae’r gweithdy ar gyfer y rhai hynny sy’n ymwneud â chomisiynu a darparu tai fforddiadwy, gan gynnwys cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, yn enwedig y rhai hynny sy’n gyfrifol am lunio prosiectau, paratoi briffiau a phenodi timau dylunio.

Bydd y cyfranogwyr yn gadael gyda syniadau a dulliau ymarferol y gallant eu defnyddio yng nghamau cynnar eu prosiectau tai fforddiadwy eu hunain.

Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly mae’n rhaid archebu lle.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â connect@dcfw.org.

Mae’r newyddion a’r digwyddiadau
diweddaraf yn ein cylchlythyr

Cofrestrwch i gael clywed mwy gan Gomisiwn Dylunio Cymru.
Tanysgrifio