Newyddion
Meithrin Gallu a Sgiliau ar gyfer Creu Lleoedd yng Nghymru
Ffotograffiaeth: Dion Barrett
Yn yr erthygl hon, mae Public Practice yn ystyried sgiliau creu lleoedd yn sector cyhoeddus Cymru, gan archwilio cryfderau, bylchau a chyfleoedd presennol ar gyfer meithrin gallu.
Cyhoeddodd Public Practice – y sefydliad nid-er-elw sy’n gweithio i feithrin gallu llywodraeth leol i greu lleoedd – ei bedwerydd adroddiad blynyddol ar Recriwtio a Sgiliau yn ddiweddar. Mae’r arolwg yn tynnu sylw at yr heriau y mae swyddogion yn eu hwynebu, yn cynnwys recriwtio, adnoddau a chadw staff. Mae’n casglu myfyrdodau gan swyddogion cynllunio a chreu lleoedd sy’n gweithio yng Nghymru, gan fwrw cipolwg gwerthfawr dros y cyfleoedd a’r heriau sy’n siapio gweithlu amgylchedd adeiledig y sector cyhoeddus.
Roedd yr adroddiad diweddaraf yn cynnwys cymhariaeth fesul gwlad, gan ddangos sut roedd gwledydd yn perfformio mewn gwahanol feysydd fel profiad swyddogion, gallu ac arweinyddiaeth. Er bod y gyfradd ymateb ar gyfer Cymru yn is na Lloegr, mae’n dal yn bosibl cael rhywfaint o wybodaeth benodol. O ran strwythur timau a chadw staff, mae’r arolwg yn rhoi darlun cadarnhaol o waith y sector cyhoeddus yng Nghymru, lle mae’r gyfradd swyddi gwag yn gymharol isel, sef tua 8%, sy’n llawer gwell na’r gyfradd mewn gwledydd eraill. Mae maint timau yn llai nag mewn gwledydd eraill, ond maent yn dangos strwythur cytbwys ar draws y gwahanol feintiau. Cafodd Cymru hefyd y sgôr uchaf o ran teimlo ei bod yn cael ei thrin yn deg, a sgoriodd yn uwch na’r cyfartaledd ar gwestiwn yn ymwneud ag arweinyddiaeth: “ mae gan y rheini rwy’n atebol iddynt y sgiliau i’m cefnogi”. Mae hyn i gyd yn dangos strwythur cymorth gweithredol cymharol gryf.
Fodd bynnag, datgelodd yr arolwg hefyd ddiffyg cyfatebiaeth o ran sgiliau hanfodol ac roedd hyn yn amlwg yn yr holl wledydd. Er gwaethaf cydnabyddiaeth eang gan dimau eu bod yn ddifrifol brin o sgiliau y mae galw mawr amdanynt fel sgiliau Digidol a Data (71%), Cynaliadwyedd Amgylcheddol (67%), a Phensaernïaeth Tirwedd (65%), amlygwyd mai ychydig iawn o rolau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y meysydd hyn. Yn hytrach, mae’n debygol iawn mai ym maes Polisi a Chynllunio y bydd gweithwyr yn cael eu recriwtio yn ystod y 12 mis nesaf. Mae perygl i’r diffyg cyfatebiaeth hwn gynyddu’r bylchau presennol mewn sgiliau ac mae’n awgrymu bod cynlluniau recriwtio yn hytrach yn debygol o atgyfnerthu cryfderau a gwendidau presennol timau awdurdodau lleol.
Cynlluniwyd gwasanaeth allweddol Public Practice, y Rhaglen Ymgynghorwyr Cyswllt, i fynd i’r afael â’r heriau hyn o ran gallu a sgiliau. Mae’r rhaglen, sy’n cael ei chynnal ers 2018, yn gosod ymarferwyr amgylchedd adeiledig sydd yng nghanol eu gyrfa mewn lleoliadau gwaith proffesiynol. Bydd eu rôl fel ‘Ymgynghorwyr Cyswllt’ yn golygu eu bod yn gweithio ar draws ystod eang o ddisgyblaethau sy’n seiliedig ar leoedd mewn awdurdodau lleol. Mae’r ymgynghorwyr yn dod a’u harbenigedd ym meysydd pensaernïaeth a dylunio trefol i feysydd cynllunio, cynaliadwyedd a pheirianneg. Mae’r sefydliad yn defnyddio dull recriwtio sy’n seiliedig ar allu a sgiliau, gan ganolbwyntio ar fanteision adeiladu timau amlddisgyblaethol gydag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau.
Cafodd y Rhaglen Ymgynghorwyr Cyswllt ei lansio’n ddiweddar yng Nghymru, gan roi’r cyfle i awdurdodau lleol Cymru a gweithwyr proffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig yng Nghymru gymryd rhan. Drwy ymuno â’r rhaglen, gall awdurdodau gael gafael ar lif o Ymgynghorwyr Cyswllt medrus sy’n barod i gael effaith, tra gall ymarferwyr ennill profiad ystyrlon o lunio lleoedd drwy waith yn y sector cyhoeddus.
Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu gweithlu creu lleoedd mwy cadarn, medrus ac amlddisgyblaethol i Gymru.
Dysgwch fwy a chymryd rhan: https://www.publicpractice.org.uk/calendar/associate-programme