HafanNewyddion a DigwyddiadauCreu Lleoedd a Gwrthsefyll New…

Newyddion

Creu Lleoedd a Gwrthsefyll Newid yn yr Hinsawdd ar Gynllun Lliniaru Llifogydd Crindau, Casnewydd

Sut ydych chi’n ‘creu lleoedd’ o fewn prosiect lliniaru llifogydd?

Gall cynlluniau llifogydd ymestyn dros ardaloedd eang; yn aml iawn yn cyd-blethu gyda mannau cyhoeddus sy’n cael eu defnyddio gan lawer o bobl. Gobeithio mai anaml iawn y byddai angen defnyddio’r elfen ddiogelu rhag llifogydd, ond mae’r strwythurau sy’n cael eu hadeiladu yn le parhaol i’r gymuned yn ystod eu bywydau o ddydd i ddydd. Gallai ystyried creu lle wrth osod amcanion helpu i adeiladu cynlluniau llifogydd mwy llwyddiannus, a gwella’r amgylchedd lleol.

Ers cwblhau’r prosiect hwn, mae cymuned Crindau yng Nghasnewydd bellach yn fwy diogel rhag llifogydd. Mae dros chwe chan eiddo wedi lleihau eu perygl o lifogydd o ganlyniad i 2.6km o waliau llifogydd ac argloddiau newydd. Bydd  yr ystyriaeth a roddwyd i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr wrth ddylunio’r gwaith yn sicrhau y bydd y buddion o ran perygl llifogydd yn parhau am 100 mlynedd arall.

Mae’r erthygl ganlynol yn rhoi eglurhad byr o rai o’r buddion y tu hwnt i’r cylch gwaith llifogydd – gan gefnogi amcanion ehangach o ran amcanion llesiant, yr amgylchedd a chynaliadwyedd.

Dylunio’r Tirlun a Chreu lle

Roedd angen i’r prosiect amddiffyn rhag llifogydd, ond roedd ein gweledigaeth i wella ardal ddifreintiedig i greu gwell lle i bobl yr un mor bwysig. Roedd penodi cynghorwyr amgylcheddol a phenseiri tirwedd yn gynnar yn y broses yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant – i helpu siapio amcanion a dyluniad y prosiect.

Cafodd clwb gweithwyr gwag ei ddymchwel, gan ganiatáu i ran o’r safle gael ei droi’n ardal amwynder yn cynnwys planhigion lliwgar a nodweddion chwarae anffurfiol. Cafodd ardaloedd anniogel eu gwella trwy ddylunio, megis gwaredu hen garejys, bloc toiledau nad oedd mewn defnydd a dymchwel dau adeilad diwydiannol a oedd yn dirywio – gan ddarparu mwy o olau a mwy o ymdeimlad o le. Cafodd llawer o wastraff wedi’i halogi ei symud oddi yno. Cafodd ardaloedd a oedd yn denu tipio anghyfreithlon a defnyddwyr cyffuriau eu haddasu fel y byddai’r gymuned yn teimlo’n fwy diogel. Er enghraifft, cafodd ardal o dan yr heol ei gwneud yn fwy ‘cyfeillgar’ trwy dynnu waliau, ail-dirlunio a darparu colofnau golau newydd. Cafodd ardal chwarae i blant ei wneud yn fwy diogel trwy osod ffens i’w diogelu rhag yr afon a chafodd matiau diogelwch o amgylch offer chwarae eu huwchraddio.

Roedd nodweddion eraill yn darparu cyswllt mwy diogel i bobl a oedd yn cerdded rhwng y gymuned, Parc Shaftsbury a’r Ddinas. Fe wnaethom ni wella nifer o lwybrau beicio a llwybrau cerdded a chreu rhai newydd.

Ystyriwyd sut y byddai’r amddiffynfeydd llifogydd yn adlewyrchu eu lleoliad. Felly mae’r gorffeniad yn amrywio o ddur yn y lleoliadau mwy diwydiannol, i gerrig a brics o wahanol fathau a lliwiau mewn ardaloedd mwy cyhoeddus, a oedd yn cyd-fynd gyda’r gwaith brics presennol ar eiddo. Creodd hyn orffeniad trefol o ansawdd uchel mewn ardaloedd a oedd wedi’u hanwybyddu yn y gorffennol. Cafodd y giatiau ym Mharc Shaftsbury eu newid am giatiau gyda dyluniad pwrpasol wedi’i greu’n lleol, a chafodd hen reiliau Fictoraidd eu hail osod.

Amwynder

Fe wnaethon ni integreiddio mesurau i wella mynediad ac ansawdd mannau gwyrdd. Roedd plannu coed, bylbiau a blodau gwyllt yn ychwanegu fflach o liw, diddordeb a buddion o ran bioamrywiaeth.

Mae’r amddiffynfa llifogydd o amgylch Parc Shaftsbury bellach yn cynnwys eisteddle integredig ar ffurf amffitheatr gan ddarparu golygfan yn edrych dros gaeau chwarae, sy’n eu gwneud yn amlbwrpas.

Gobeithiwn ddarparu gwelliannau i ardal arall o Gasnewydd yn ystod ein gwaith llifogydd yn Llyswyry y flwyddyn nesaf ac mewn cymunedau eraill ledled Cymru.

(Uchod) Y llwybr wedi’i wella ar hyd brig yr amddiffynfa llifogydd trwy Barc Shaftsbury

(Uchod) Mae’r llun uchod yn dangos un o gamau dylunio’r prosiect. Canfuwyd fod y gwaith brics ar stryd Pugsley yn nodwedd a fyddai’n gallu cael ei ailadrodd yn nyluniad yr amddiffynfa llifogydd. Mae’r ail lun yn dangos y wal wedi’i gwblhau cyn y gwaith tirlunio.

(Uchod) Eisteddle ar ffurf amffitheatr wedi cael ei integreiddio i’r amddiffynfa llifogydd.

(Above) Red brick finish at Lyne Road and robust piling and finishes (concrete kerbs) needed within the industrial area off Albany Street. A fence is needed to prevent fly tipping onto the riverbank and increase security for the businesses.

Mae’r newyddion a’r digwyddiadau
diweddaraf yn ein cylchlythyr

Cofrestrwch i gael clywed mwy gan Gomisiwn Dylunio Cymru.
Tanysgrifio