HafanGwybodaethY Bwrdd a’r staff

Y Bwrdd a’r staff

Cwrdd â’n Cadeirydd a’n Bwrdd Cyfarwyddwyr ynghyd â’n Tîm Staff.

Y Bwrdd

  • Cadeirydd Ewan Jones

    Ewan Jones yw Cadeirydd Comisiwn Dylunio Cymru (DCFW Limited) a chyd-gadeirydd ei Banel Adolygu Dyluniadau. Cafodd Ewan ei eni yng Nghasnewydd a’i fagu ym Mhorthcawl, ac mae’n Bennaeth Rheoli yn 10 Design gan oruchwylio cyfeiriad strategol a gweithrediadau’r cwmni ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica, o’r Swyddfa yn Llundain.

    Gyda dros 30 mlynedd o brofiad rhyngwladol yn y maes lle daw pensaernïaeth, peirianneg ac adeiladu ynghyd, mae Ewan yn ddylunydd eithriadol ac yn arweinydd medrus iawn. Mae gan Ewan arbenigedd penodol mewn rheoli prosiectau anodd, sy’n aml yn rhai mawr a chymhleth iawn o ran dyluniad, cydsyniad neu anghenion y cleient. Mae dull creadigol Ewan wrth ddylunio a chyflawni yn cwmpasu sectorau amrywiol, gan gynnwys seilwaith cenedlaethol, datblygiadau trefol, a chreu lleoedd.
Arferai fod yn Bartner yn Grimshaw, ac mae ei bortffolio adeiledig yn cynnwys Adeilad St Botolph a phencadlys Banc Lloyds yn Ninas Llundain, labordai addysgu yng Ngholeg Dulwich ac apêl gynllunio lwyddiannus ar gyfer 123 o gartrefi newydd yn ne-orllewin Llundain. Arweiniodd waith Grimshaw ar gamau cynnar gwaith dylunio Llinell Elizabeth a’r gorchymyn cydsyniad datblygu ar gyfer Sizewell C. Mae ei waith diweddar yn cynnwys Traphont Colne Valley HS2 a chynllun swyddfa dros yr orsaf yn Paddington. Ochr yn ochr â’i rôl fel Cadeirydd Comisiwn Dylunio Cymru, mae Ewan hefyd yn aelod o Fwrdd Cynghori Allanol Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

  • Comisiynydd, Bwrdd y Cyfarwyddwyr Mike Biddulph

    Dylunydd trefol yw Mike Biddulph sy’n gweithio i Gyngor Caerdydd. Graddiodd o’r rhaglen dylunio trefol ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen.

    Dechreuodd Mike ei yrfa gyda Chyngor Dinas Rhydychen ac yna bu’n ddarlithydd dylunio trefol ym Mhrifysgol Lerpwl ac yna ym Mhrifysgol Caerdydd, lle sefydlodd yr MA Dylunio Trefol gan ei chyfarwyddo ar y dechrau. Mae ganddo ddiddordeb brwd o hyd yn y modd y mae systemau cynllunio’r DU yn ymdrin â dylunio ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar theori ac egwyddorion dylunio trefol, cynllunio a dylunio cymdogaethau, uwch gynllunio a chodio dylunio, gwahanol ddulliau o adfywio ac adnewyddu trefol, yn ogystal â dylunio strydoedd a thir cyhoeddus.

    Roedd Mike ar flaen y gad yn yr ymdrechion i gyflwyno parthau cartrefi yn y DU. Mae wedi bod yn eiriolwr cryf dros Gomisiwn Dylunio Cymru ers blynyddoedd lawer ar ôl gwneud cyfraniadau i’r Adolygiad Dyluniadau, gan gwblhau ymchwil ac fe wnaeth hefyd arwain rhaglenni hyfforddi ledled Cymru.

  • Comisiynydd, Bwrdd y Cyfarwyddwyr Cora Kwiatkowski

    Pensaer yw Cora sydd â dros 20 mlynedd o brofiad rhyngwladol ac mae’n Gyfarwyddwr Adrannol ac yn Arweinydd Sector ar gyfer Prifysgolion Stride Treglown, yn Hyrwyddwr Cynaliadwyedd ac yn aelod o grŵp llywio mewnol y Fenter Ymchwil ac Arloesi ac Ymgynghori.

    Gyda’i chefndir dylunio strategol cryf, mae Cora wedi bod yn gyfrifol am brosiectau clodwiw uchel eu gwerth, gan gynnwys addysg uwch, llety myfyrwyr a chynlluniau gweithle fel arweinydd dylunio a chynghorydd cleientiaid. Mae hi hefyd wedi arwain timau amlddisgyblaethol. Ymhlith ei phrosiectau amlddisgyblaethol blaenorol yn y DU, yr Almaen a Sweden hefyd mae uwchgynlluniau, codau dylunio, prosiectau mawr defnydd cymysg, preswyl a thrafnidiaeth.

    Mae Cora’n canolbwyntio ar brofiad defnyddwyr. Mae’n angerddol dros ymgysylltu’n gydweithredol â rhanddeiliaid ac mae wedi cyfrannu at ymchwil arloesol ar y cyfryngau cymdeithasol ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr a’r cyhoeddiadau ‘Inhabitant’.

    Mae Cora wedi mynd ati i hyrwyddo dylunio da fel arweinydd meddwl drwy gadeirio Panel Adolygu Dyluniadau Comisiwn Dylunio Cymru a Design West ers sawl blwyddyn. Mae hi hefyd yn Gynghorydd Cleientiaid gyda Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), yn Arbenigwr y Cyngor Dylunio, yn Ymddiriedolwr ar Fwrdd Canolfan Pensaernïaeth Bryste ac yn aelod o grŵp ymchwil y Fforwm Ansawdd Dylunio Addysg Uwch. Cyrhaeddodd Cora rownd derfynol yn y categori ‘Pensaer Benywaidd Gorau’ yn y Gwobrau Ewropeaidd Menywod ym maes Adeiladu a Pheirianneg 2019.

  • Comisiynydd, Bwrdd y Cyfarwyddwyr Joanna Rees

    Mae Joanna Rees yn Bartner gyda’r cwmni cyfreithiol Blake Morgan yng Nghaerdydd. Mae hi’n arbenigo mewn cynlluniau adeiladu a datblygu ac yn arwain tîm Seilwaith trawsddisgyblaethol y cwmni. Mae ganddi gryn brofiad o waith datblygu cyhoeddus a phreifat ar raddfa fawr, cynlluniau adfywio a phrosiectau seilwaith.

    Graddiodd Jo, sy’n wreiddiol o Borthcawl, o Brifysgol Bryste a gweithiodd yn y Ddinas cyn dychwelyd i Gymru. Mae ei chleientiaid yn ei chydnabod fel “cynghorydd dibynadwy” nad oes arni ofn herio materion cymhleth a dod o hyd i atebion pragmatig derbyniol o fewn gofynion llywodraethu. Mae’n deall y gofynion pendant ynghylch atebolrwydd, tryloywder a gwerth am arian sy’n ofynnol ar gyfer gwariant cyhoeddus.

    Hyd yma yn ei gyrfa, bu Jo’n gweithio ar nifer o systemau trafnidiaeth allweddol sy’n dyst i bŵer adfywiol seilwaith – fel Croydon Tramlink, Docklands Light Railway, Jubilee Line, Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd Trafnidiaeth Cymru ynghyd â chynlluniau ffyrdd mawr.

    Mae Jo wedi cymryd rhan mewn nifer o gynlluniau adfywio allweddol yn Ne Cymru, gan gynnwys datblygu ardaloedd canol dinas Abertawe a Phorth Teigr a Sgwâr Loudoun yng Nghaerdydd. Mae ganddi hefyd brofiad gwerthfawr o weithio ar gynlluniau ynni adnewyddadwy fel ynni’r gwynt, ynni solar, ynni’r llanw a threulio anaerobig.

    Mae Jo hefyd yn un o ymddiriedolwyr Canolfan Mileniwm Cymru, yn aelod o Gyngor Busnes Caerdydd ac mae’n siarad Cymraeg.

  • Comisiynydd, Bwrdd y Cyfarwyddwyr Jon James

    Mae Jon yn Bensaer cofrestredig ac yn ddylunydd Passive House ardystiedig. Mae hefyd ar gofrestr Cadwraeth RIBA.

    Ar ôl graddio o Brifysgol Plymouth, datblygodd Jon bortffolio pensaernïol a oedd yn canolbwyntio ar ddylunio. Ar ôl gweithio ar, neu arwain timau sy’n gweithio ar amryw o brosiectau gwahanol sy’n werth hyd at £180 miliwn, mae Jon wedi gweithio i nifer o bractisiau gwobredig o amgylch De-orllewin Lloegr a De Cymru.

    Fel Pensaer profiadol sy’n arbenigo mewn cadwraeth, mae Jon wedi dylunio a chwblhau adeiladau mewn ardaloedd cadwraeth ac wedi addasu adeiladau rhestredig gradd II ar gyfer y sector preswyl a’r sector addysg. Cafodd addysg ffurfiol mewn pensaernïaeth cadwraeth a chafodd brofiad o weithio gyda swyddogion cadwraeth ac mae wedi dangos ei fod yn gallu gwneud gwaith da a bod ganddo wybodaeth gefndir am agweddau allweddol ar ymarfer, egwyddorion ac athroniaeth cadwraeth.
Mae Jon yn frwd dros ddylunio cynaliadwy. Sefydlodd Jon James Studio Architecture ar ôl cael ei sbarduno gan yr angen i weithredu ar yr argyfyngau hinsawdd, a chynaliadwyedd yw asgwrn cefn y stiwdio. Mae’n credu’n gryf bod angen ystyried dylunio cynaliadwy ar ddechrau unrhyw brosiect gan fod penderfyniadau a wneir yn cael effaith ar y broses adeiladu a hefyd yn dylanwadu ar oes gyfan yr adeilad.

    Mae Jon yn gweithio gydag Ysgol Pensaernïaeth Cymru fel ymgynghorydd ac arholwr ar gyfer graddedigion blwyddyn olaf. Mae wedi cydweithio â’r Sefydliad Ymchwil Carbon Isel gan gynnwys gweithio ar y papur ymchwil addysg Ewropeaidd gan annerch eu cynhadledd flynyddol. Mae Jon hefyd wedi annerch nifer o gynadleddau cenedlaethol eraill gan gynnwys cynhadledd genedlaethol BIM a chynadleddau Ystadau Addysg.

  • Simon Jones

    Mae Simon yn Beiriannydd Siartredig sydd wedi arwain mentrau seilwaith mawr yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus. Ef yw Prif Weithredwr presennol y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd (GCRE).

    Ac yntau wedi’i leoli yng Nghaerdydd, roedd Simon yn arfer bod yn Gyfarwyddwr Seilwaith Economaidd yn Llywodraeth Cymru gan arwain ar drafnidiaeth a thelathrebu. Cyn gweithio yn y gwasanaeth sifil am 8 mlynedd bu’n gweithio i Atkins, y cwmni ymgynghori peirianneg rhyngwladol, am 20 mlynedd.

    Mae’r adeiladau a’r seilwaith y cyfrannodd atynt wedi cyflawni nod peirianyddol penodol. Yn y gorffennol, roedd ansawdd dylunio yn aml yn ychwanegiad hwyr, a hynny dim ond ar yr adegau roedd hyd yn oed yn cael ei ystyried. I fynd i’r afael â’r methiant hwn, dechreuodd Simon weithio gyda chydweithwyr Comisiwn Dylunio Cymru yng nghanol y degawd diwethaf.

  • Barny Evans

    Mae Barny yn Gyfarwyddwr yn Turley yng Nghaerdydd ac yn gweithio ar faterion Cynaliadwyedd ac Ynni. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio yn yr amgylchedd adeiledig ac mae ganddo brofiad helaeth yn ymwneud â datblygiadau newydd ar bob graddfa, strategaethau dinas, a gwaith cynghori technegol ar fuddsoddiadau.

    Mae’n frwd dros sicrhau dealltwriaeth a chyfleu sut y gall y newid i sero net fod yn llwyddiannus o bob safbwynt. Mae ei waith wedi bod yn y DU a ledled y byd ac mae wedi rheoli unedau elw a cholled gan sicrhau gwerthfawrogiad o’r angen am stiwardiaeth ac uchelgais dda. Mae hefyd yn gynghorydd i gwmni technoleg newydd, MapMortar, sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i ddatgarboneiddio portffolios adeiladu.

  • Simon Power  BSc (Anrh), MSc, PhD. MRTPI, MCWIEM, CEnv, CGeol

    Mae Simon yn arbenigwr mewn uwch gynllunio seilwaith, cynllunio, creu lleoedd ac adfywio. Fel Cynllunydd Tref Siartredig ac Amgylcheddwr (gyda 30 mlynedd o brofiad mewn dylunio safleoedd seilwaith mawr, cydsynio ac asesiadau) mae Simon wedi meithrin perthynas ddibynadwy â chleientiaid a rhanddeiliaid, gan feithrin meddwl cysylltiedig a llif gwaith tymor hir.

    Mae ei allu i ddarparu atebion cadarn a chynaliadwy y gellir eu cyflawni, rhoi cyngor arbenigol, a datblygu argymhellion arloesol, yn sicrhau ei fod yn gallu cyfarwyddo prosiectau cymhleth i sicrhau canlyniadau masnachol amserol llwyddiannus. Mae Simon wedi gweithio ym maes ymgynghoriaeth ryngddisgyblaethol yn y sector preifat drwy gydol ei yrfa. Bu hynny ar rai o ddatblygiadau seilwaith mawr y DU, sy’n cynnwys prosiectau ffyrdd, rheilffyrdd, ynni, dŵr, porthladdoedd ac adfywio trefol gwerth biliynau o bunnoedd.

    Cafodd ei eni ym Mryste, ac mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd/Penarth ers dros 35 mlynedd. Mae Simon yn gyn-Gadeirydd y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru ac enillodd Ddoethuriaeth Ran-amser mewn Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2023, gyda phwyslais ar arweinyddiaeth yn seiliedig ar leoedd ar gyfer sero net mewn dinasoedd. Mae’n gyd-gadeirydd y Panel Adolygu Dyluniadau ac mae wedi bod yn gwasanaethu fel aelod o’r panel ers dros 15 mlynedd.

  • Zaynub Akbar

    Gydag arbenigedd mewn polisi a materion cyhoeddus yn y sector chwaraeon, mae Zaynub wedi ymrwymo i sicrhau bod yr amgylchedd adeiledig yn hyrwyddo ffyrdd egnïol o fyw, yn annog pobl i symud ac yn parhau i fod yn hygyrch i bawb.

    Mae Zaynub yn credu y dylai mannau sydd wedi’u dylunio’n dda integreiddio teithio llesol a darparu cyfleusterau chwaraeon a chwarae o ansawdd uchel, dan do ac yn yr awyr agored, fel bod pawb yn cael cyfle i fyw bywyd iach ac egnïol.

    Roedd Zaynub yn arfer bod yn newyddiadurwr, ac ymchwiliodd i ganlyniadau cynllunio trefol annigonol drwy ei hadroddiad manwl ar ddiffyg hygyrchedd tai cymdeithasol i bobl ag anableddau. Arweiniodd y profiad uniongyrchol hwn o’r heriau a wynebir gan lawer oherwydd dyluniad gwael at ei hymrwymiad i lunio mannau mwy cynhwysol.

    Mae Zaynub yn gyn-fyfyrwraig Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae hi’n frwd iawn dros ddatblygiad cynaliadwy, gan ystyried effaith hirdymor ein gweithredoedd a diogelu’r blaned ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.

Y Tîm

  • Prif Weithredwr Carole-Anne Davies BA (Anrh), PG Dip

    Roedd Carole-Anne yn arfer bod yn Gyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Celfyddydau Bae Caerdydd, yn un o Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru, yn gyn-ymgynghorydd i Lywodraeth yr Alban ac yn un o Ymddiriedolwyr y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol. Hi yw Cadeirydd cyntaf Ymddiriedolaeth Gregynog, yr elusen sy’n berchen ar Ystâd a Neuadd Gregynog Rhestredig Gradd II* yng nghanolbarth Cymru.

    Fel prif weithredwr cyntaf y Comisiwn, sefydlodd fodel busnes cyd-gynhyrchu ystwyth yng Nghomisiwn Dylunio Cymru, gan integreiddio arbenigedd gweithwyr proffesiynol sector preifat annibynnol, amlddisgyblaethol ag arbenigedd y tîm staff craidd. Fel un sydd wedi graddio yn y dyniaethau, mae hefyd yn gyn-fyfyrwraig Cynhadledd Astudiaethau Rhyngwladol y Gymanwlad CSCLeaders, o Raglen Weithredol Ysgol Harvard Kennedy a Sefydliad Arweinyddiaeth Cynaliadwyedd Caergrawnt (CISL).

  • Dirprwy Brif Weithredwr Jen Heal BSc (Anrh) MA, MRTPI

    A hithau’n ddylunydd ac yn gynllunydd trefol, ymunodd Jen â Chomisiwn Dylunio Cymru yn 2014. Gyda phrofiad proffesiynol sylweddol yn y sector preifat, astudiodd Jen ym maes Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol a’i MA mewn Dylunio Trefol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Jen yn aelod cwbl achrededig o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (MRTPI).

    Mae rôl Jen yn y Comisiwn yn cynnwys datblygu a hyrwyddo gwasanaethau dylunio, hyfforddiant, digwyddiadau ac ymgysylltiadau Comisiwn Dylunio Cymru ledled Cymru, gan baratoi canllawiau ac arwain ar gymorth i gleientiaid. Yn ei rolau blaenorol, roedd Jen yn arwain ar amrywiaeth eang o brosiectau dylunio trefol, cynllunio ac adfywio ar gyfer cleientiaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae wedi cyflwyno cysyniadau dylunio, strategaethau canol trefi, cynlluniau i wella’r amgylchedd a cheisiadau cynllunio yn ogystal â datblygu rhaglenni ymgysylltu a hyfforddi. Mae Jen yn Gomisiynydd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Burns.

  • Rheolwr Adnoddau a Chyllid Sue Jones MBA, MSc, Assoc CIPD

    Ymunodd Sue â’r Comisiwn yn 2003, a hi sy’n rheoli ei adnoddau dynol ac ariannol. Mae Sue yn gyfrifol am reolaethau ariannol, Adnoddau Dynol, Iechyd a Diogelwch, systemau gweinyddol a chymorth tîm, ac mae hefyd yn cydlynu gwasanaethau adolygu dyluniadau, astudiaethau achos ac ymchwil i gyhoeddiadau a rheoli data.

    Mae cefndir strategol a gweithredol Sue yn cynnwys cyllid, adnoddau dynol, rheoli contractau, datblygu polisïau, lles a llesiant gweithwyr. Mae gan Sue MBA gyda Rhagoriaeth ochr yn ochr â’i MSc HRM gyda Theilyngdod ac mae ganddi hanes cryf o weithio gyda mecanweithiau cyllido’r llywodraeth, rheoli personél a darparu gwasanaethau dan gontract. Mae Sue yn aelod o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).

  • Ymgynghorydd Dylunio Max Hampton BA (Anrh), MA, MRTPI

    Ymunodd Max â Chomisiwn Dylunio Cymru fel Ymgynghorydd Dylunio yn 2023. Fel cynllunydd tref siartredig, mae Max wedi bod yn gweithio yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus ym maes rheoli datblygu a pholisi cynllunio.

    Roedd Max yn arfer gweithio i Lywodraeth Cymru yn datblygu polisïau a chanllawiau cynllunio cenedlaethol ar ddylunio, adeiladau cynaliadwy, trafnidiaeth ac ynni adnewyddadwy. Roedd yn ymwneud yn helaeth â rhoi creu lleoedd wrth galon Polisi Cynllunio Cymru a bu’n gweithio gyda’r Comisiwn Dylunio i ddatblygu’r Siarter Creu Lleoedd.

    Yn fwyaf diweddar bu Max yn gweithio ar brosiect Cyngor Caerdydd i reoli’r gwaith o ddylunio a chynllunio datblygiadau tai. Yn y rôl hon roedd yn hyrwyddo dyluniad da gan ganolbwyntio ar y ffurf adeiledig, mannau cyhoeddus a’r bobl sy’n byw yno.