Rydym yn darparu’r Gwasanaeth Adolygu Dyluniadau cenedlaethol yng Nghymru ac mae gennym enw da o ran ansawdd, gonestrwydd, arbenigedd a chadernid. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu i chi yn rhad ac am ddim gyda’r nod o helpu i sicrhau’r gwerth gorau posibl o ran ansawdd dylunio da.
Mae ein panel amlddisgyblaethol annibynnol o arbenigwyr proffesiynol yn trafod eich cynlluniau datblygu a’ch cynigion gyda chi ac yn rhoi adborth adeiladol. Mae gwasanaeth Adolygu Dyluniadau ar gael ledled Cymru, ac mae hefyd ar agor ar gyfer presenoldeb at ddibenion datblygiad proffesiynol a hyfforddiant – sy’n unigryw yn y DU.
Mae gan wasanaeth adolygu dyluniadau’r Comisiwn enw da o ran ansawdd, gonestrwydd, arbenigedd a chadernid.
Ymgynghori â’r Comisiwn drwy’r Gwasanaeth Adolygu Dyluniadau
Hanfodion adolygu dyluniadau
Cyfle i drafod
Mae’n hawdd cysylltu â ni a thrafod sut y gallwn ni eich helpu chi.
Cysylltwch â ni
Adroddiadau adolygu dyluniadau diweddaraf
-
16 Gorffennaf 2025
Sgwâr Sant Pedr, Rhuthun (25 Gorffennaf)
-
11 Mehefin 2025
Strategaeth Adfywio Canol Tref Tonypandy (Mehefin 25)
-
14 Mai 2025
Uwchgynllun Penrhys (Mai 25)
Gwasanaethau eraill
-
Cymorth i gleientiaid
Mae cymorth ar gael gan Gomisiwn Dylunio Cymru i gleientiaid yn ystod camau cynharaf eu prosiectau. Efallai y byddwn yn gallu helpu i ddiffinio eich prosiect, datblygu brîff y prosiect, neu gyfrannu at eich proses gaffael a dewis tîm. Mae llwyddiant unrhyw brosiect yn y tymor hir yn dibynnu ar ymgysylltu ymlaen llaw. Gallwn hwyluso gweithdai sy'n ychwanegu gwerth ac sy’n eich helpu i arbed amser a newidiadau costus yn nes ymlaen.
-
Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Mae hyfforddiant pwrpasol ar gyfer awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, a grwpiau trydydd sector ar gael gan Gomisiwn Dylunio Cymru. Mae’r pynciau'n cynnwys cynaliadwyedd, creu lleoedd ac asesu dyluniadau. Byddwn yn hapus i siarad â chi am eich anghenion penodol o ran hyfforddiant.