Lleoliad
Comisiwn Dylunio Cymru
4ydd Llawr
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL
Ffôn: +44 (0)29 2045 1964
Ymweld â ni
Saif Adeiladau Cambrian, sy’n adeiladau rhestredig Gradd II, ar gornel Sgwâr Mount Stuart a Stryd West Bute, gyferbyn ag Eglwys San Steffan.
Wrth ddringo’r grisiau ger y fynedfa, pwyswch y gloch intercom cyn camu mewn i’r lifft rhestredig Gradd II a dringo i’r 4ydd Llawr. Yna, trowch i’r dde wrth ddod allan o’r lifft. Os ydych chi wedi defnyddio’r fynedfa hygyrch ar y chwith, ewch i fyny yn y lifft i’r 4ydd llawr – gallwn hefyd drefnu i gwrdd ag ymwelwyr a’u tywys i’r lle cywir.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Gallwch ymweld â ni ar droed neu ar feic, ac mae lle parcio i feiciau ar gael ar y stryd. Yr orsaf drenau agosaf yw Bae Caerdydd, a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
Parcio
Mae maes parcio Talu ac Arddangos ar gael ar y stryd, ac mae maes parcio aml-lawr yn Pierhead Street, Bae Caerdydd.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.