Croeso. Rydym wrthi'n cyfieithu ac yn diweddaru ein gwefan newydd ar hyn o bryd. Diolch am eich dealltwriaeth.

Welcome. We are currently translating and updating our new website. Thank you for your understanding.

Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn bodoli i wneud Cymru yn lle gwell i bawb.

Comisiwn Dylunio Cymru (DCFW) yw’r corff cynghori cenedlaethol sy’n hyrwyddo rhagoriaeth dylunio ar draws yr amgylchedd adeiledig. Rydym yn hyrwyddo dyluniad da yn yr amgylchedd adeiledig ar draws pob sector, er mwyn gwneud Cymru yn lle gwell. Rydym yn hyrwyddo ansawdd uchel o ran dylunio a chreu lleoedd drwy hyrwyddo dealltwriaeth well o faterion yn ymwneud â dylunio a photensial dyluniad da i sicrhau gwerth cyhoeddus.
Credyd delwedd: Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, Purcell Architecture. © Phil Boorman Photography
  • Sut rydym yn helpu

    Cymorth i gleientiaid

    Mae cymorth ar gael gan Gomisiwn Dylunio Cymru i gleientiaid yn ystod camau cynharaf eu prosiectau. Efallai y byddwn yn gallu helpu i ddiffinio eich prosiect, datblygu brîff y prosiect, neu gyfrannu at eich proses gaffael a dewis tîm. Mae llwyddiant unrhyw brosiect yn y tymor hir yn dibynnu ar ymgysylltu ymlaen llaw. Gallwn hwyluso gweithdai sy’n ychwanegu gwerth ac sy’n eich helpu i arbed amser a newidiadau costus yn nes ymlaen.

  • Sut rydym yn helpu

    Hyfforddiant a Datblygiad Proffesiynol Parhaus

    Mae hyfforddiant pwrpasol ar gyfer awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, a grwpiau trydydd sector ar gael gan Gomisiwn Dylunio Cymru. Mae’r pynciau’n cynnwys cynaliadwyedd, creu lleoedd ac asesu dyluniadau. Byddwn yn hapus i siarad â chi am eich anghenion penodol o ran hyfforddiant.

  • Sut rydym yn helpu

    Adolygu dyluniadau

    Mae ein gwasanaeth adolygu dyluniadau ar gael i gleientiaid, datblygwyr, dylunwyr, awdurdodau cynllunio, rhanddeiliaid, cyrff cyhoeddus eraill, grwpiau cymunedol neu aelodau o’r cyhoedd sy’n dymuno cael barn arbenigol annibynnol. Gallwn helpu i nodi cyfleoedd cynnar ar gyfer ansawdd dylunio da mewn cynigion datblygu ymhell cyn cyflwyno cais cynllunio a helpu awdurdodau lleol i sicrhau gwerth cyhoeddus drwy ragoriaeth dylunio.

Pwy rydym yn ei helpu

Os ydych chi’n gleient comisiynu, yn ddatblygwr, yn ddylunydd, yn awdurdod cynllunio neu’n rhanddeiliad, gallwch gysylltu â ni i gael gwybod sut gallai ein gwasanaethau cymorth i gleientiaid, hyfforddiant ac adolygu dyluniadau eich helpu chi.

  • Cleient comisiynu
  • Datblygwr
  • Dylunydd
  • Awdurdod cynllunio
  • Rhanddeiliad