Teithio Llesol a Chreu Lleoedd: Y cyfle i greu cymunedau cysylltiedig

YMUNWCH Â NI...

Mae Sustrans Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru yn eich gwahodd i ymuno â ni a’n panel gwadd i archwilio rôl pobl yn Neddf Teithio Llesol (Cymru), ac mewn dylunio strydoedd a gofodau yn ein trefi a'n dinasoedd. Cewch glywed gan ymarferwyr a rhannu arferion gorau, wrth i ni ystyried sut y gall profiad pobl o dir y cyhoedd helpu i greu mwy o gymunedau y gellir byw ynddynt.

Dydd Mercher 5 Hydref 2016

2.00pm - 4.30pm gyda lluniaeth ysgafn ar ôl cyrraedd

 Yng Nghomisiwn Dylunio Cymru, 4edd Llawr, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FR

Bwciwch eich lle am ddim drwy Eventbrite

Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Carole-Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru, a Jane Lorimer, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru.  Bydd ein panel gwadd yn cynnwys:

- Lindsey Brown, Dylunydd Trefol, Sustrans Cymru

- Mat Jones, Pensaer a Darlithydd, Coombs Jones Architects & UWE

- Allison Dutoit, Pensaer/Dylunydd Trefol a Darlithydd, Gehl Architects & UWE

- Victoria Robinson, Rheolwr Datblygu, Cyngor Bro Morgannwg

Ymunwch â'r sgwrs i drafod sut y gall dylunwyr, penseiri a chynllunwyr ymgysylltu â phobl wrth lunio lleoedd bob dydd.

Event details

Date:

Wednesday 5th October 2016

Time:

2.00pm - 4.30pm

Venue:

Comisiwn Dylunio Cymru, 4edd Llawr, Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FL

Back