Datganiad Hygyrchedd

Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i'r holl gynnwys a gyhoeddir ar wefan Comisiwn Dylunio Cymru, dcfw.org.

Nod DCFW Cyf yw sicrhau bod ei wefan ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, ond ni allwn warantu hyn yn llwyr gan y gall fod materion technegol allanol y tu hwnt i'n rheolaeth. Ni fydd DCFW Cyf yn atebol os, am unrhyw reswm, mae'r wefan ar gael ar unrhyw adeg, am unrhyw gyfnod o amser, oherwydd methiant system, gwaith cynnal a chadw, atgyweiriadau a rhesymau eraill y tu hwnt i'n rheolaeth a allai achosi i'r wefan gael ei hatal heb rybudd.

Mae DCFW Cyf yn cydnabod nad yw rhai rhannau o'r wefan gyfredol a'r cynnwys yn bodloni'r holl safonau hygyrchedd. Rydym yn ymwybodol o'r materion sy'n effeithio ar hygyrchedd cyffredinol ac rydym yn cymryd camau i newid hyn drwy gomisiynu gwefan newydd sy'n cwrdd â'r anghenion a'r safonau technegol ac hygyrchedd cyn belled ag y bo modd o fewn ein hadnoddau. Tra ein bod yn comisiynu'r safle newydd, rydym wedi gwneud y safle presennol ar gael, tra'n cydnabod y materion hygyrchedd.

Defnyddio gwefan DCFW

Mae'r safle hwn yn cael ei redeg gan DCFW Cyf. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu ei ddefnyddio'n hawdd ac yn llwyddiannus. Mae hyn yn golygu y dylech allu:

Chwyddo hyd at 300% heb i'r testun lithro oddi ar y sgrin Llywio'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig Llywio gan ddefnyddio unrhyw feddalwedd adnabod lleferydd sydd gennych fynediad iddo Gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Mae DCFW Cyf yn cydnabod nad yw rhai rhannau o'r safle hwn yn gwbl hygyrch. Er enghraifft, efallai na allwch newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau ar hyn o bryd oherwydd nad oes dulliau uniongyrchol o newid y rhannau hyn.

Efallai y bydd rhai tudalennau a dogfennau:

Yn fformat pdf ac nid yn gwbl hygyrch

©DCFW 2024 P a g e | 2

Yn cynnwys tudalennau, dogfennau ac atodiadau sy'n ar gyfer cynulleidfaoedd technegol ac efallai'n defnyddio iaith dechnegol Yn cynnwys tudalennau/dogfennau gyda chyferbyniad lliw gwael Heb benawdau rhesi mewn rhai tablau Yn cynnwys teitlau tudalennau nad ydynt yn unigryw Yn cynnwys delweddau nad oes ganddynt ddisgrifiadau delwedd Heb fod rhai botymau wedi'u nodi'n glir Heb fod rhai negeseuon gwall wedi'u cysylltu'n glir â rheolyddion ffurflenni Yn cynnwys testun dolen nad yw'n disgrifio pwrpas y ddolen Cynnwys anhygyrch

Efallai nad yw rhai cynnwys y wefan yn hygyrch ac efallai nad ydynt ar hyn o bryd yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd. Gall an-hygyrchedd gynnwys rhai delweddau, dogfennau a thablau.

Efallai na fydd dogfennau PDF yn hygyrch mewn gwahanol ffyrdd gan gynnwys diffyg testun amgen a strwythur dogfennau.

Baich anghymesur

Mae DCFW Cyf yn gwmni bach iawn gyda adnoddau cyfyngedig. Felly, rydym yn ystyried bod y baich o drwsio materion hygyrchedd gyda rhai cynnwys ar y safle presennol yn anghymesur gan y bydd y wefan gyfan yn cael ei dynnu'n ôl a'i disodli cyn bo hir. Ein nod yw gwneud hyn dros gyfnod o chwe mis gan ddechrau ym mis Awst 2024.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os byddwch yn canfod manylion heb eu rhestru yn y datganiad hwn neu'n ystyried nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd neu'n cymryd camau i wneud hynny, anfonwch e-bost atom yn: connect@dcfw.org neu ffoniwch 029 2045 1964.

Os oes angen gwybodaeth arnoch o wefan DCFW, mewn fformat gwahanol, megis PDF hygyrch, print bras, darlleniad hawdd, cofnod sain neu braille, cysylltwch â ni drwy e-bost fel y dangosir uchod.

Bydd pob cais yn cael ei ystyried ac fe ymatebwn o fewn 2-3 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn Gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â'r modd rydym yn ymateb i'ch cwyn, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd gwefan DCFW

Mae DCFW Cyf yn ymrwymedig i wneud ei wefan yn hygyrch yn unol â'r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfio

Efallai nad yw gwefan DCFW yn gwbl gydymffurfio â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe ond bydd ein safle newydd yn mynd i'r afael â hyn.

Paratoi'r Datganiad Hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 12.02.2020 ac fe'i hadolygwyd ar 10.07.2024.

Nid yw profi hygyrchedd wedi'i gynnal yn ddiweddar fodd bynnag, mae DCFW Cyf yn ymrwymedig i ddarparu safle newydd lle mae'r gofynion hygyrchedd yn cael eu bodloni, o fewn chwe mis gan ddechrau ym mis Awst 2024, ac i gynnal a chadw'r safle newydd yn briodol yn barhaus.

Os oes angen i chi gael mynediad at ddogfen neu wybodaeth benodol nad yw'n bodloni eich anghenion cyfredol, cysylltwch â DCFW drwy e-bost a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu'r wybodaeth yn y fformat sydd ei angen arnoch.

Manylion cyswllt

Comisiwn Dylunio Cymru (DCFW Cyf)

Llawr 4, Adeilad Cambrian

Sgwâr Mount Stuart

CAERDYDD CF10 5FL

E-bost: connect@dcfw.org

Ffôn: 020 2045 1964