Design Commission for Wales

Hyfforddiant

Pecynnau hyfforddi pwrpasol sydd wedi eu teilwra i’ch anghenion

Darganfyddwch fwy ynghylch y sesiynau Ymarfer Dylunio, Siarad am Ddylunio a Chyfnewid Dylunio sydd yn cael eu cynnig gennym.

Hyfforddiant
Yr hyn rydym yn gallu eu darparu ar eich cyfer.
  • Rydym yn defnyddio ein rhwydwaith proffesiynol helaeth i gynnig sesiynau wedi'u teilwra'n arbennig ar bynciau penodol, gan ddefnyddio gweithwyr proffesiynol a ddewiswyd yn ofalus sy'n gweithio mewn amryw o feysydd amgylchedd adeiledig ac sydd yn brofiadol mewn ymarferion a thueddiadau cyfredol.
  • Mae'r sesiynau rydym yn eu cynnig wedi eu cynllunio i ymateb i'ch anghenion fel y cleient,  ac rydym yn cynnig pynciau sy'n berthnasol i chi yn eich ymarfer, maes cyfrifoldeb ac / neu ardal.
  • Lle mae hynny’n bosibl, rydym yn ceisio darparu sesiynau ar destunau dylunio cyffredinol neu eang, am gost fechan neu am ddim.  Gall hyn olygu y byddwch yn cynnal y sesiwn yn eich man gwaith, neu’n cyfrannu at dreuliau hanfodol megis teithio. O ran pynciau penodol neu arbenigol, efallai y bydd yn rhaid i ni rannu’r costau ar gyfer cydweithiwr arbenigol gyda chi. Fodd bynnag, rydym bob amser yn ceisio dosbarthu gwerth ychwanegol a pharchu cyfyngiadau ar gyllideb. Bydd ein hasesiad o'ch anghenion yn cynnwys manylion llawn, sy'n benodol i bob cleient.
  • Gall y sesiynau hyfforddi sy’n cael eu darparu gennym gael eu dosbarthu’n fras i feysydd Ymarfer Dylunio, Siarad am Ddylunio a Chyfnewid Dylunio.  Mae’r rhaglen Gyfnewid yn ategu ein gwasanaeth Adolygu Dylunio, a gellir cael rhagor o fanylion ynghylch sut i wneud cais am y rhaglen Cyfnewid Dylunio ar ein tudalen Adolygu Dylunio neu drwy ddilyn y dolenni isod.

Ymarfer Dylunio      Siarad am Ddylunio     Cyfnewid Dylunio

Pa opsiynau hyfforddiant a datblygu eraill sydd ar gael?

Rydym bob amser yn hapus i drafod unrhyw syniadau sydd gennych chi ar gyfer hyfforddiant neu ar gyfer meysydd lle gallwn ni eich helpu chi. Os oes gennych rywbeth yr hoffech ei drafod gyda ni, cysylltwch â ni.

Soniwch Wrthym Ni Am Eich Lle.

Athrawon, Myfyrwyr a Chymunedau.

Cofrestrwch yma ar gyfer Adolygu Dylunio.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am Adolygu Dylunio a chofrestru cynllun?