Design Commission for Wales

Powys

Dyfyniad gan Gyngor Powys

  • Sir fawr, wledig iawn gyda'r rhan helaeth o'r tir yn dir uchel yw Powys, sy’n gorchuddio 2000 o filltiroedd sgwâr, sef oddeutu chwarter arwynebedd Cymru. Gyda dim ond 1 unigolyn i bob 10 erw, Powys yw un o'r ardaloedd awdurdod lleol sydd â'r boblogaeth fwyaf gwasgaredig yn Lloegr a Chymru. Mae gan y sir dirweddau godidog, o fynyddoedd dramatig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a bryniau rholiog Coedwig Maesyfed, i Fynyddoedd y Berwyn yn y gogledd, a rhai o ddyffrynnoedd afonydd mwyaf godidog Prydain - yr Hafren, y Gwy a'r Wysg - yn ysgubo trwy ei golygfeydd syfrdanol.

Beth ydyn ni wedi bod yn wneud yn eich rhanbarth?

    • Cyfarfod Gweithdy: Ar 10fed Mawrth 2008, fe wnaeth Wendy Richards gwrdd ag aelodau o’r pwyllgor cynllunio ac uwch swyddogion yng Nghyngor Sir Powys i drafod sut gallai Comisiwn Dylunio Cymru a’r Awdurdod weithio’n fwy agos gyda’i gilydd.
    • Adnabod Eich Lle: Llanfair-ym-muallt Yn Llanfair-ym-muallt, fe gynhaliwyd gweithdai Adnabod Eich Lle ar Fedi 9fed i Fedi 11eg yn Eglwys y Santes Fair, Llanfair-ym-muallt, ac mewn sawl lleoliad awyr agored o amgylch y dref. Fe wnaeth dros 150 o drigolion gymryd rhan, yn cynnwys pobl ifanc o’r Ysgol Uwchradd ac o’r clwb ieuenctid lleol, ac aelodau hyn o’r gymuned a busnesau lleol. Diolch yn fawr iawn i bawb a gynorthwyodd i hyrwyddo’r gweithdai ac i bawb o’r rhai hynny a fynychodd ac a ddarparodd ddarluniadau, lluniau, storïau a mewnwelediadau mor wych i’w lle.
    • Website

      http://www.powys.gov.uk/

      Adroddiadau Adolygu Dylunio

      Astudiaethau Achos

      Cwblhawyd: 2005

Soniwch Wrthym Ni Am Eich Lle.

Athrawon, Myfyrwyr a Chymunedau.

Cofrestrwch yma ar gyfer Adolygu Dylunio.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am Adolygu Dylunio a chofrestru cynllun?