Design Commission for Wales

Sir Ddinbych

Dyfyniad o 'Adnabod Sir Ddinbych'

  • Mae Sir Ddinbych yn ymestyn o drefi glan-y-môr Gogledd Cymru, Y Rhyl a Phrestatyn, i lawr trwy Ddyffryn Clwyd, ac i’r de cyn belled â Chorwen a thref dwristaidd boblogaidd Llangollen. Mae hefyd yn cynnwys trefi hanesyddol Rhuddlan, Dinbych a Rhuthun, pob un â’i chastell ei hun, yn ogystal â thref gadeiriol fechan Llanelwy.

  • Sir amaethyddol yw Sir Ddinbych yn bennaf, a thwristiaeth ac amaethyddiaeth yw ei phrif ddiwydiannau. Mae parc busnes Llanelwy, sy’n ffinio â’r A55 ac sy’n ehangu’n gyflym, yn gartref i sawl cwmni a sefydliad. Yno, mae cartref pencadlys rhanbarthol Asiantaeth Datblygu Cymru.

  • Mae gwibffordd yr A55 yn llwybr hwylus at gysylltiadau fferis Iwerddon yng Nghaergybi, meysydd awyr Manceinion a Lerpwl a phrif rwydweithiau’r DU. Ceir hefyd cysylltiadau trên uniongyrchol o’r Rhyl i Gaerdydd (tair awr a hanner), Llundain (tair awr a chwarter) a phrif drefi a dinasoedd y DU.

  • Beth ydyn ni wedi bod yn wneud yn eich rhanbarth?

      • Cyfarfod Gweithdy: Ar 6ed Awst 2008, fe wnaeth Wendy Richards gwrdd ag aelodau o’r pwyllgor cynllunio ac uwch swyddogion ymg Nghyngor Sir Ddinbych i drafod sut gallai Comisiwn Dylunio Cymru a’r Awdurdod weithio’n fwy agos gyda’i gilydd.
      • Adolygu Dylunio Rhanbarthol Ar Ebrill 22ain, fe gynhaliwyd cyfarfod Adolygu Dylunio rhanbarthol ym Mharc Busnes Llanelwy, Sir Ddinbych. Fe’i gadeiriwyd gan Alan Francis. O’r pum cynllun a adolygwyd y diwrnod hwnnw, roedd pedwar yn deillio o Ranbarthau Awdurdod Lleol Gogledd Cymru. Diolch yn fawr i holl dimau’r prosiect a gyflwynodd eu cynlluniau’r diwrnod hwnnw, y cynllunwyr lleol a’r Panel Adolygu Dylunio.
        • Adolygu Dylunio:Ar 21ain Ebrill 2010, cynhaliwyd diwrnod adolygu dylunio rhanbarthol yn Optic Technium, Llanelwy. Adolygwyd pedwar cynllun, a gwahoddwyd aelodau o awdurdodau cynllunio lleol i ddod i arsylwi er mwyn iddynt ddod i ddeall y broses adolygu dylunio ymhellach.

        Website

        http://www.denbighshire.gov.uk

        Astudiaethau Achos

        Cwblhawyd: 2008

        Ty Brombil

        Ty Brombil

        Cwblhawyd: 2006

Soniwch Wrthym Ni Am Eich Lle.

Athrawon, Myfyrwyr a Chymunedau.

Cofrestrwch yma ar gyfer Adolygu Dylunio.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am Adolygu Dylunio a chofrestru cynllun?