Design Commission for Wales

Cyngor Bwrdeistref Sirol

Dyfyniad o 'The Rough Guide'

  • Mae nifer o bethau i’w gwneud a’u gweld yma, gan gynnwys castell trawiadol o’r canol oesoedd cynnar a waliau cyflawn o’r dref o’i hamgylch, sy’n rhoi rhywfaint o gipolwg hyfryd i orffennol Gogledd Cymru. Mae’r dref yn parhau i fod yn un o uchafbwyntiau arfordir y gogledd, ac mae ei gosodiad yn aber Conwy, gyda mynyddoedd Eryri yn y cefndir, yn denu peintwyr a ffotograffwyr, fyth ers i’r Sais Paul Sandby gyhoeddi 'Views of North Wales' yn 1776.

Beth ydyn ni wedi bod yn wneud yn eich rhanbarth?

    • Digwyddiad Hyfforddi: Fe gynhaliwyd rhan o Raglen Datblygu Aelodau CLlLC, Diogelu Ansawdd Dylunio, yng nghanolfan gynadledda Gogledd Cymru yn Llandudno, Conwy ar 9fed Rhagfyr 2005. Fe fynychodd 35 o aelodau. Fe ddosbarthwyd yr hyfforddiant gan Yr Athro John Punter, Comisiynydd Comisiwn Dylunio Cymru, Cindy Harris, Pennaeth Adolygu Dylunio ac arbenigwraig ar gynaliadwyedd a Kedrick Davies, Aelod o Banel Adolygu Dylunio Comisiwn Dylunio Cymru. Fe rannodd Beatrice Fraenkel ei phrofiad o fod yn hyrwyddwr dylunio mewn awdurdod lleol yn Lerpwl.
    • Digwyddiad Hyfforddi: Datblygu Amgylcheddau Cynhwysol, Hygyrch. Fe gynhaliwyd y digwyddiad yma mewn tri awdurdod, Abertawe, Conwy a Chasnewydd, i swyddogion awdurdodau lleol ym mis Mehefin 2007. Fe hwyluswyd y sesiynau gan yr Athro Keith Bright, KBC, Elaine Ancrum a Lesley Punter o Lywodraeth Cynulliad Cymru, a Carole Anne Davies, Prif Weithredwr Comisiwn Dylunio Cymru.
    • Cyfarfod Gweithdy: Ar 5ed Awst 2008, fe wnaeth Wendy Richards gwrdd ag aelodau o’r pwyllgor cynllunio ac uwch swyddogion yng Nghyngor Sir Conwy i drafod sut gallai Comisiwn Dylunio Cymru a’r Awdurdod weithio’n fwy agos gyda’i gilydd.

Soniwch Wrthym Ni Am Eich Lle.

Athrawon, Myfyrwyr a Chymunedau.

Cofrestrwch yma ar gyfer Adolygu Dylunio.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am Adolygu Dylunio a chofrestru cynllun?