Cyngor Sir Ceredigion
Dyfyniad 'Twristiaeth Ceredigion'
Mae Ceredigion, sy’n un o gaerau olaf iaith a diwylliant Cymru, yn cynnig traethau sydd wedi ennill gwobrau a rhwydwaith o lwybrau cerdded syfrdanol, trywyddau beicio a beicio mynydd, yn ogystal â llwythi o gyfleoedd i bysgota â gwialen ar afonydd, mewn llynnoedd ac mewn pysgodfeydd ym Mae Ceredigion. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth yn drysordy o ran cael golwg ar lawysgrifau a dogfenni’n ymwneud â Chymru a rhai o’r cenhedloedd Celtaidd eraill. Mae nifer o asedau twristiaeth gwyrdd ar gael, fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol, uwchdiroedd mynediad agored a thrywyddau hynod ar hyd yr arfordir ag yn y goedwig..
Beth ydyn ni wedi bod yn wneud yn eich rhanbarth?
- Cyfarfod Gweithdy: Ar 10fed Rhagfyr 2008, fe wnaeth Wendy Richards gwrdd ag aelodau o’r pwyllgor cynllunio ac uwch swyddogion ymg Nghyngor Sir Ceredigion i drafod sut gallai Comisiwn Dylunio Cymru a’r Awdurdod weithio’n fwy agos gyda’i gilydd.
- digwyddiad: Llawlyfr Strydoedd a Chanllaw Dylunio Trigiannol. Cynhaliwyd gan Gyngor Sir Benfro yn Technium Sir Benfro ar 13eg Chwefror 2009. Fe wnaeth swyddogion o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, Cyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Ceredigion fynychu’r digwyddiad. Fe ddosbarthwyd yr hyfforddiant gan Mike Biddulph, Eiriolydd mewn Ymarfer Comisiwn Dylunio Cymru a Wendy Richards, Cyfarwyddwr Datblygu Comisiwn Dylunio Cymru.
- Adolygu Dylunio Rhanbarthol Ar Orffennaf 22ain, fe gynhaliwyd cyfarfod Adolygu Dylunio rhanbarthol ym Mhenmorfa, Aberaeron yng Ngheredigion. Fe gadeiriwyd y cyfarfod gan Wendy Richards. O’r pum cynllun a adolygwyd y diwrnod hwnnw, roedd dau yn deillio o Ranbarthau Awdurdod Lleol Canolbarth Cymru. Mae pum cynllun yn rhai cyhoeddus, a gellir dod o hyd iddynt ar y dudalen Adroddiadau Adolygu Dylunio. Diolch yn fawr i holl dimau’r prosiect a gyflwynodd eu cynlluniau’r diwrnod hwnnw, y cynllunwyr lleol a’r Panel Adolygu Dylunio. Roedd yn bleser gennym groesawu pum aelod o’r Pwyllgor Cynllunio fel arsyllwyr.
Website
http://www.ceredigion.gov.uk
Adroddiadau Adolygu Dylunio