Wedi’i lleoli yng nghanol De Cymru ac ond yn 20 munud mewn car o Gaerdydd - prifddinas Cymru. Mae Parc Cenedlaethol trawiadol Bannau Brycheiniog o fewn tafliad carreg, sy’n golygu fod Caerffili’n le delfrydol i fynd am egwyl fechan. Cefn gwlad yw wyth deg y cant o’r wlad, sy’n gwneud Caerffili’n hafan ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Mae ymwelwyr yn gallu dod o hyd i drywyddau a llwybrau cerdded sy’n ystumio ar hyd amlinellau bryniau Cymru, sy’n cynnig golygfeydd aruthrol. I’r rhai hynny sy’n fwy anturus, mae sawl gweithgaredd ar gael: abseilio, beicio cwad, reidio ceffyl, canŵio, cyfeiriannu, sgiliau goroesi, saethyddiaeth, a saethu clai.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am Adolygu Dylunio a chofrestru cynllun?