Design Commission for Wales

Pen-y-bont ar Ogwr

Dyfyniad o’r 'Lonely Planet Guide'

  • Wedi ei leoli rhwng cymoedd lle bu diwydiannau lawer, mae gan Ben-y-bont ar Ogwr draddodiad o’u plaid i godi uwchlaw cynllunio gwael.

  • Mae cestyll sy’n dymchwel yn rhoi cipolwg o orffennol derwyddol y dref farchnad hon a oedd unwaith yn brysur iawn. Nawr, mae Pen-y-bont ar Ogwr, sydd rhwng Abertawe a Chaerdydd, yn gorlifo gyda mannau adwerthu enfawr a stadau tai, ac nid yw carchardy newydd yn gwneud dim i gael gwared â’i delwedd blêr fel lle oedd yn arfer bod yn gymydog i feysydd glo. p>

Beth ydyn ni wedi bod yn wneud yn eich rhanbarth?

    • Cyfarfod Gweithdy: Ar 1af Rhagfyr 2008, fe wnaeth Wendy Richards gwrdd ag aelodau o’r pwyllgor cynllunio ac uwch swyddogion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i drafod sut gallai Comisiwn Dylunio Cymru a’r Awdurdod weithio’n fwy agos gyda’i gilydd.
    • Cinio Gwaith Fe wnaeth Wendy Richards gyfarfod gyda’r Pwyllgor a’r swyddogion cynllunio ar 7fed Mai 2009, i drafod Ansawdd Dylunio, Polisi Cynllunio a Datganiadau Mynediad.
    • Adnabod Eich Lle: Pen-y-bont ar Ogwr & Porthcawl Ym Mhen-y-bont ar Ogwr , fe gynhaliwyd gweithdai Adnabod Eich Lle ar Hydref 5ed a 6ed mewn siop wag ar Wyndham Street yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr ac ym mhabell Adnabod Eich Lle mewn sawl lleoliad awyr agored yng nghanol y dref. Fe wnaeth pobl oedd yn mynd heibio ymuno, ynghyd â thrigolion, aelodau o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a dau glwb ieuenctid lleol. Ym Mhorthcawl, fe gynhaliwyd y gweithdai ar 7fed ac 8fed Hydref ym Mhafiliwn y Grand ac o amgylch strydoedd Porthcawl. Fe wnaethon ni groesawu aelodau o grwpiau cymunedol lleol o’r Ymddiriedolaeth Ddinesig a’r Bluebells, yn ogystal â nifer o bobl oedd yn mynd heibio, oedd a digon i ddweud am eu lle. Diolch yn fawr iawn i bawb a gynorthwyodd i hyrwyddo’r gweithdai ac i bawb o’r rhai hynny a fynychodd ac a ddarparodd ddarluniadau, lluniau, storïau a mewnwelediadau mor wych i’w lle.
    • Eiriolwyr mewn Ymarfer Mae pump o eiriolwyr yn eich ardal yn gweiddi dros ddylunio ar ran y Comisiwn, sef y Penseiri Chris Owen a Katja Timmerman, y Dylunwyr Trefol Mike Biddulph ac Ian Carter, a’r arbenigwr Cynaliadwyedd, John Littlewood. Darllenwch mwy ynghylch y rhwydwaith ar ein tudalennau Eiriolwyr.
    • Website

      http://www.bridgend.gov.uk

      Adroddiadau Adolygu Dylunio

Soniwch Wrthym Ni Am Eich Lle.

Athrawon, Myfyrwyr a Chymunedau.

Cofrestrwch yma ar gyfer Adolygu Dylunio.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am Adolygu Dylunio a chofrestru cynllun?