Mae ysgolion drwy gydol Cymru yn mynd i fanteisio o becyn adnodd addysgol newydd, sy'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o ddyluniad da a'r amgylchedd adeiledig ehangach, diolch i Gomisiwn Dylunio Cymru. Bydd y pecyn adnodd yn cael ei lansio gan Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, ar ddydd Iau, Hydref 11eg am 11.30yb yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae'r pecyn, o'r enw “Fy Milltir Sgwâr”, yn annog disgyblion i archwilio eu hamgylchedd lleol er mwyn datblygu synnwyr o le a theimlad o berthyn.
Fe beilotwyd y fenter hon mewn 33 o ysgolion cynradd yn Abertawe, ac wedyn, fe'i cynigiwyd i nifer o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Cymaint y bu ei lwyddiant o ran ysgogi disgyblion i archwilio a gwerthuso eu hardal leol, fel bod adnoddau'r prosiect nawr ar gael am ddim i bob ysgol yng Nghymru.
Mae'r pecyn adnodd, sy'n cynnwys llyfr a CD cynhwysfawr, yn rhannu gwaith arloesol yr ysgolion peilot, ac yn gweithredu fel fframwaith a stimwlws i ysgolion eraill i ddatblygu prosiectau eu hunain.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am Adolygu Dylunio a chofrestru cynllun?