Design Commission for Wales

Adnabod Eich Lle

Prosiect sy'n cael ei baratoi ar hyn o bryd, sy'n archwilio ble rydych hi'n byw.

Adnabod Eich Lle

Beth yw ‘Adnabod Eich Lle?'

  • Prosiect peilot cyfranogol yw Adnabod Eich Lle, a ddosbarthwyd drwy weithdai i gymunedau mewn pum lle gwahanol yng Nghymru drwy gydol 2009.

    • Fe wnaeth gweithdai peilot Adnabod Eich Lle ddarparu gweithgareddau difyr, ymarferol i bobl leol, gyda'r nod o ailddarganfod a dathlu eu lleoedd.

      • Fe wnaeth Adnabod Eich Lle ennyn pobl i gymryd rhan weithgar yn eu cymunedau, gan gyd-fynd â themâu Cynllun Gofodol Cymru a Pholisi Cynllunio Cymru. Fe ganolbwyntiodd ar weithio gydag unigolion, grwpiau addysg anffurfiol, cymdeithasau dinesig, cynrychiolwyr o'r cyngor lleol ac eraill – sydd oll yn frwdfrydig iawn am eu lle.

        • Fe gynhaliwyd gweithdai Adnabod Eich Lle yn Llanfair-ym-muallt, ym Mhont-y-pwl, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn Llangefni ac yng Nghaergybi.

          • Nawr bod y gweithdai peilot wedi dod i ben, rydym yn creu pecyn dilynol, gan ddefnyddio'r wybodaeth werthfawr a'r deunydd gweledol a gynhyrchwyd ac a gasglwyd yn ystod y prosiect. Rydym yn gobeithio cyhoeddi a lansio'r pecyn yn gynnar yn 2010.

            • Os hoffech chi ragor o wybodaeth ynghylch Adnabod Eich Lle, cysylltwch â ni dros y ffôn, drwy lythyr neu drwy e-bost. Yn y cyfamser, cadwch lygaid yma am ragor o wybodaeth ynghylch Adnabod Eich Lle.

Cyhoeddiadau Perthnasol

Soniwch Wrthym Ni Am Eich Lle.

Athrawon, Myfyrwyr a Chymunedau.

Cofrestrwch yma ar gyfer Adolygu Dylunio.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am Adolygu Dylunio a chofrestru cynllun?