Design Commission for Wales

Addysg

Mae ymwybyddiaeth o'r amgylchedd adeiledig ag addysg yn bwysig iawn i ni.

Addysg

Sut mae'r Comisiwn ynghlwm mewn Addysg?

  • Mae gwaith Comisiwn Dylunio Cymru o ran hyrwyddo dyluniad da drwy Gymru yn cael ei danategu gan blatfform addysgol cryf o weithgareddau sy'n seiliedig ar brosiectau, sydd wedi'u hanelu at ddatblygu gwell dealltwriaeth o werth dyluniad da yn yr amgylchedd adeiledig.

  • Mae'n bwysig iawn bod gan bobl o bob oedran a chefndir y cyfle i archwilio, deall, cyfeirio, dylanwadu a gweithredu newid positif yn eu hamgylchedd ac felly, ansawdd bywyd, drwy raglenni cynhwysol. Gellir lawrlwytho Fy Milltir Sgwâr, fframwaith a phecyn adnodd Comisiwn Dylunio Cymru ar gyfer addysg gynradd, oddi ar y safle hwn. Mae ein rhaglen newydd ar gyfer cymunedau, o'r enw ‘Adnabod Eich Lle' yn cael ei datblygu, yn ogystal â cham dau Fy Milltir Sgwâr, sydd wedi'i anelu at addysg uwchradd.

  • Rydym o'r farn mai ystafell ddosbarth tu allan yw'r amgylchedd adeiledig sydd â photensial di-ben draw i weithredu fel platfform ar gyfer gweithgareddau dysgu.

Soniwch Wrthym Ni Am Eich Lle.

Athrawon, Myfyrwyr a Chymunedau.

Cofrestrwch yma ar gyfer Adolygu Dylunio.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am Adolygu Dylunio a chofrestru cynllun?