Design Commission for Wales

Adolygu Dylunio

Un o'n prif feysydd gwaith.

Adolygu Dylunio

Pam dod i Adolygu Dylunio

  • Mae ein gwasanaeth Adolygu Dylunio yn darparu'r cyfle i ymgynghori'n fuan ar gynigion datblygu allweddol. Rydym yn cynnig mynediad i gyngor arbenigol, annibynnol a phroffesiynol, sy'n arwain at argymhellion ar gyfer gwelliant a gwerth ychwanegol. Rydym ni'n darparu arbenigedd sydd ddim ar gael o bosib i dîm y prosiect neu i'r awdurdod cynllunio, ac efallai y gallwn ni amlygu problemau neu gyfleoedd sydd heb gael eu cydnabod.

I bwy ydych chi'n cynnig cyngor?

  • Mae ein Panel yn cynnig cyngor i unrhyw un sydd ynghlwm mewn comisiynu, dylunio, cynllunio, rheoli a defnyddio adeiladau a'r gwagleoedd rhyngddynt. Mae'r sesiwn Adolygu Dylunio a'r adroddiad dilynol yn darparu sail resymol ar gyfer penderfyniadau dylunio a chaffael, ac maen nhw'n osgoi barnau goddrychol.

Pryd ddylech chi ddod i Adolygu Dylunio?

  • Mae ymgynghori gyda Chomisiwn Dylunio Cymru'n fuan yn hanfodol, pan fydd prosiect arfaethedig wrthi'n cael ei ffurfio, a phan fydd yr arbenigedd a'r cyngor sydd ar gael drwy'r Panel yn gallu bod fwyaf effeithiol. Fel arfer, fe fydd hyn yn digwydd yn gynnar yn y cyfnod cyn gwneud cais, unwaith y bydd y dull dylunio sylfaenol wedi cael ei ddiffinio.

Soniwch Wrthym Ni Am Eich Lle.

Athrawon, Myfyrwyr a Chymunedau.

Cofrestrwch yma ar gyfer Adolygu Dylunio.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am Adolygu Dylunio a chofrestru cynllun?