Caiff gwybodaeth ei gyflwyno ar astudiaethau achos posib gan y prif arweinydd ar gyfer pob prosiect. Efallai y bydd y prosiect wedi cael ei dynnu at ein sylw oherwydd ei fod wedi ennill gwobr; neu oherwydd ei fod yn enghraifft dda o'i fath. Caiff yr astudiaeth achos ei arolygu gan Dîm Asesu Astudiaethau Achos y Comisiwn, sy'n archwilio'r wybodaeth a gyflwynwyd, ac sy'n ymweld â'r safle, pan fo'n bosib.
Prosiect yw astudiaeth achos da sy'n darparu safon uchel o ddylunio sy'n ymateb yn bositif i'r cyd-destun y mae ynddo. Nid yn unig y mae hyn yn berthnasol i ymddangosiad allanol adeilad neu wagle ond hefyd, i'r addasrwydd i'r diben, i berfformiad amgylcheddol, i gynaliadwyedd cymdeithasol ac economaidd, i ymatebolrwydd i anghenion y defnyddwyr, ac i ddyheadau'r gymuned leol a chenedlaethol.
Mae'r Comisiwn yn darparu gwerthusiad byr o bob astudiaeth achos, sy'n amlygu pam ei fod yn ystyried bod y prosiect yn enghraifft dda, a'i gryfderau a'i wendidau o ran ymateb i hanfodion dyluniad da.
Mae hefyd yn bwysig ein bod ni'n cael adborth gan gleientiaid, dylunwyr a defnyddwyr lle'n bosib, ynghylch llwyddiannau a methiannau'r prosiect.
Mae ‘r tîm hwn o staff proffesiynol yn cwrdd yn rheolaidd i arolygu a thrafod yr astudiaethau achos sy'n cael eu paratoi. Caiff ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Datblygu, ac mae'n cynnwys Comisiynydd, Aelod o ‘r Panel Adolygu Dylunio, Eiriolwyr mewn Ymarfer a'n Cynorthwyydd Rhaglen.
Mae'r Comisiwn hefyd yn dod o hyd i brosiectau eraill tu allan i Gymru sy'n enghreifftiau o arfer da, a chaiff y rhain eu cynnwys ar y dudalen “Beth sy'n cael eu hadeiladu tu allan i Gymru?”
Oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am Adolygu Dylunio a chofrestru cynllun?