Caerdydd 2040 Cystadleuaeth Dylunio Poster

POSTERI DINASOEDD
Roedd posteri’n hysbysebu dinasoedd a threfi’n boblogaidd yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif ac yn aml, roedd cwmnïau trafnidiaeth a sefydliadau twristiaeth yn eu cynhyrchu. Roedd y posteri’n gwahodd ymwelwyr gyda llun deniadol a brawddeg a oedd yn crynhoi’r hyn yr oedd y ddinas yn ei gynnig. Gallwch weld rhywfaint o enghreifftiau ar fwrdd pin Comisiwn Dylunio Cymru

DYFODOL CAERDYDD
Fedrwch chi ein helpu i ddychmygu a hyrwyddo dyfodol amgylchedd trefol a naturiol Caerdydd? Sut fyddai poster yn hyrwyddo'r ddinas yn edrych mewn 25 mlynedd? Sut fyddech chi'n cyfathrebu eich gweledigaeth o’r ddinas hon yn y dyfodol - ei hadeiladau, strydoedd, mannau cyhoeddus a systemau cludiant? Ble fydd pobl yn byw? Sut fyddan nhw’n cael eu cyflogi? Sut fyddan nhw’n teithio? Beth fyddan nhw’n ei wneud am hwyl?

Mae Caerdydd yn mynd i dyfu, newid a datblygu’n sylweddol dros y degawdau nesaf, ac mae gan Gyngor Caerdydd strategaeth hirdymor uchelgeisiol ar gyfer y ddinas, a fydd yn gofyn am waith cynllunio a dylunio rhagorol. Mae llawer o elfennau yn plethu gyda'i gilydd i ffurfio dinas, ac a fydd yn chwarae rôl yn natblygiad Caerdydd dros y blynyddoedd nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys tai, addysg, cyflogaeth, teithio, hamdden, twristiaeth, diwylliant, bwyd, ynni a'r amgylchedd.

Mae Comisiwn Dylunio Cymru, a gefnogir gan Gyngor Caerdydd, yn eich annog i ddychmygu sut y gallai Caerdydd edrych yn 2040, a meddwl am sut y byddech yn dweud wrth y byd am eich gweledigaeth o’r ddinas. Pa effaith y gallai dylunio a chynllunio da ei chael ar y ddinas, a beth fydd yn denu pobl i fyw, gweithio ac ymweld â'r ddinas? Pa ffurf y gallai twf Caerdydd ei chymryd, a beth fydd yn gwneud y ddinas yn unigryw?

Dyluniwch boster sydd yn hyrwyddo eich gweledigaeth ar gyfer Caerdydd 2040

SUT I YMGEISIO
Crëwch boster i hysbysebu Caerdydd fel y dychmygwch y gallai fod yn 2040.
Gall unrhyw un ymgeisio - yn ifanc neu'n hen, neu rywle yn y canol!

Dylai eich poster ddilyn y fformat canlynol:

  • Maint A3
  • Cynnwys llun deniadol sy’n dangos eich gweledigaeth ar gyfer y ddinas
  • Cynnwys y prif bennawd: Caerdydd
  • Cynnwys brawddeg fer sy’n cyfleu eich gweledigaeth ar gyfer Caerdydd yn 2040.

Gall eich llun fod mor haniaethol, arddulliedig neu realistig ag y dymunwch, a gallwch ddefnyddio pa bynnag gyfrwng yr hoffech i'w greu, cyhyd ag y gallwch chi wneud hynny o fewn y fformat gofynnol. Os nad ydych yn hyderus am dynnu llun, rhowch gynnig ar rywbeth mwy haniaethol, neu arbrofwch gyda gludwaith, ffotograffiaeth ac offer digidol.

Anfonwch eich poster ar ffurf copi caled neu'n electronig, gyda ffurflen gais wedi’i chwblhau, erbyn 5pm ar 15 Ebrill 2016. Gallwch lawrlwytho’r ffurflen gais

Anfonwch gopïau caled at: Comisiwn Dylunio Cymru, 4ydd Llawr Adeiladau Cambrian, Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd CF10 5FL. Anfonwch eich poster yn fflat, yn hytrach na wedi’i rolio, a rhowch eich enw mewn pensil ar y cefn.

Anfonwch gopïau electronig at: amanda.spence@dcfw.dev

Dylai ffeiliau’r posteri fod ar ffurf PDF cydraniad uchel, fel y gellir eu hargraffu’n glir ar bapur A3. Gellir cyflwynol ffurflenni cais mewn Word neu ffeiliau PDF. (Sylwer: Ni fydd ein system yn derbyn negeseuon e-byst sy’n fwy na 9 MB. Anfonwch y rhain drwy Dropbox neu debyg os oes angen.)

Dylai'r ffurflen gais gynnwys disgrifiad byr o'ch syniad a’ch gweledigaeth ar gyfer Caerdydd 2040 (hyd at 100 o eiriau).

BARNU A GWOBRAU
Bydd yr holl geisiadau a dderbynnir erbyn y dyddiad cau yn cael eu hadolygu gan:

  • Carole-Anne Davies ac Amanda Spence, Comisiwn Dylunio Cymru
  • Y Cynghorydd Philip Bale, Arweinydd Cyngor Caerdydd
  • Y Cynghorydd Ramesh Patel, Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth, Cynllunio a Chynaliadwyedd
  • James Clemence, Pennaeth Cynllunio, Cyngor Caerdydd
  • Mike Biddulph, Cynllunydd a Chrëwr Lleoedd, Cyngor Caerdydd
  • Ruth Cayford, Rheolwr Celfyddydau Gweledol, Cyngor Caerdydd

Bydd ceisiadau’n cael eu barnu ar greadigrwydd y cysyniad ac ar effeithiolrwydd gweledol y weledigaeth.

Bydd enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 22 Ebrill. Bydd y posteri gorau yn cael eu harddangos yn Sgwâr Canolog Caerdydd ac yng ngorsaf drên Bae Caerdydd, drwy gefnogaeth Trenau Arriva Cymru, Exterion Media a Rightacres; ac ar wefan y Comisiwn Dylunio.

Bydd gwobrau’n cael eu dyfarnu ar gyfer y categorïau canlynol:

  • Enillydd cyffredinol
  • Enillydd dan 18 oed
  • Yr ail enillydd cyffredinol
  • Enillydd dan 11 oed

Bydd pob enillydd yn derbyn y gwobrau canlynol:

  • Taith tu ôl i’r llenni o amgylch Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda’r Ceidwad Celf, yn cynnwys dyluniadau o’r 19G a’r 20G yng Nghasgliad yr Ystafell Brintiadau.
  • Cerdyn Caerdydd – a fydd yn rhoi mis o ostyngiadau i chi ar brif atyniadau, siopau a bwytai yng Nghaerdydd
  • Set o gardiau post gyda'ch llun buddugol

Bydd yr enillydd cyffredinol hefyd yn derbyn hamper o ddeunyddiau celf a dylunio.

Mae’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth yn derfynol. Ni fydd unrhyw geisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad a roddir yn cael eu hystyried. Gallwch ymgeisio fel pâr neu fel grŵp bach ond, petasech yn ennill, buasech yn gorfod rhannu’r wobr. Mae penderfyniad y beirniaid yn derfynol.